Myfyrwyr yn astudio crefft gynaliadwy yng ngwarchodfa natur y Rhyl
Cafodd myfyrwyr Coleg Llandrillo help gan geidwaid cefn gwlad mewn hafan natur yn y Rhyl i ddysgu crefft ffensio draddodiadol.
Croesawodd Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych fyfyrwyr ar y cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus yng nghampws y Rhyl i Warchodfa Natur Pwll Brickfield am sesiwn ar blygu cyll yn ddiweddar.
Yn ddiweddar cafodd Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield ei hanrhydeddu yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2024 ar ôl cyrraedd y dosbarth ‘Ffyniannus’ yng ngwobrau ‘It’s Your Neighbourhood’.
Gyda chefnogaeth Natur er Budd Iechyd, mae ceidwaid a gwirfoddolwyr wedi gweithio i wella’r safle i fyd natur ac er mwynhad y gymuned leol.
Yn ddiweddar, cafodd coed cyll yn y warchodfa natur ac ym Mharc Bruton eu bondocio er mwyn helpu coesynnau newydd i aildyfu o’r bonion.
Mae’r dechneg hon yn helpu i roi hwb i fioamrywiaeth trwy greu pentyrrau newydd o gynefinoedd i fywyd gwyllt lleol eu defnyddio a thrwy sicrhau bod mwy o olau yn cyrraedd llawr y coetir, gan roi cyfle i blanhigion eraill ffynnu.
Mae bondocio'n caniatáu adwaith cadwynol sy’n dod at ei gilydd i gynyddu nifer y planhigion a’r anifeiliaid mewn coetir.
Eglurodd y Ceidwad Cefn Gwlad, Vitor Evora: “Mae cael y myfyrwyr draw i’n helpu ni i greu mwy o glwydi cyll a gwella golwg y warchodfa i gymuned y Rhyl wedi bod yn wych.
“Rydyn ni wedi mwynhau eu dysgu nhw sut i ddefnyddio’r toriadau coed cyll ar ôl iddynt gael eu bondocio i greu ffensys cynaliadwy. Roedden nhw'n deall i'r dim sut i ddefnyddio’r dechneg Neolithig o ddewis canghennau hyblyg ac unffurf i greu pob panel.
“Unwaith y byddan nhw i gyd wedi cael eu gorffen a'u gosod mi fyddan nhw'n edrych yn naturiol ac yn gydnaws â'u cynefin a bydd ymddangosiad yr holl ardal yn gwella.”
Dywedodd Cara Baker, darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus: “Bu dysgwyr Lefel 1 a Lefel 2 ar gyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cefnogi Vitor, Ceidwad Cefn Gwlad gyda Chyngor Sir Ddinbych, i greu gwrychoedd naturiol wedi’u gwneud o helyg. Bydd y rhain yn cefnogi hybu cynefinoedd yng Ngwarchodfa Natur Pwll Brickfield.
“Gwnaeth y dysgwyr ddysgu sgil newydd a chyfrannu at elfen hirhoedlog o’u cymuned maen nhw i gyd yn hynod falch ohoni.”
Dywedodd Melanie Reid, Swyddog Cyswllt ac Ymgysylltu’r Coleg: “Mae’r dysgwyr wedi gwneud gwaith anhygoel. Rydw i’n cerdded o amgylch Pwll Brickfield yn rheolaidd ac wedi clywed yn uniongyrchol gan bobl leol pa mor wych yw’r ffensio a’r gwrychoedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Hyrwyddwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’n gyfle gwych i fyfyrwyr lleol gymryd rhan yn y gwaith o gefnogi’r warchodfa natur sydd ar garreg drws eu coleg. Dylent i gyd fod yn falch o’r gwahaniaeth cadarnhaol y maent wedi helpu i’w wneud yng Ngwarchodfa Natur Pwll Brickfield.”