Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Crest yn datblygu sgiliau arbed arian pobl, diolch i Lluosi

Mae'r elusen yn gweithio gyda phrosiect Lluosi Grŵp Llandrillo Menai i gyflwyno'r cwrs 'Cyllidebu am Oes'

Mae Crest Co-operative wedi gwella sgiliau arbed arian a chyllidebu pobl gyda chymorth gan Lluosi.

Mae'n enghraifft berffaith o sut y mae cyrsiau Rhifedd Byw - Lluosi wedi gweithio gydag ystod o sefydliadau i helpu i ddatblygu sgiliau rhifedd y bobl y maent yn eu cefnogi.⁠

Mae Lluosi yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM, gyda Grŵp Llandrillo Menai yn arwain ar y prosiect ar draws Gwynedd, Môn, Conwy a Sir Ddinbych.

Yn gynharach y mis hwn, cydweithiodd Crest Co-operative gyda Grŵp Llandrillo Menai i gyflwyno cwrs 'Cyllidebu am Oes' yn eu canolfan yng Nghyffordd Llandudno.

Roedd y cwrs yn rhan o gynllun Cyflogaeth Gymunedol â Chymorth (ACE) Crest - rhaglen tri mis i helpu pobl mewn swydd tymor byr i ddod o hyd i waith tymor hir.

Dywedodd Andrew Clark, cydlynydd Cymorth mewn Gwaith Crest: “Roedd gan Lluosi amrywiaeth o gyrsiau a’r un yr oedden ni'n ei hoffi’n arbennig oedd yr un cyllidebu.

“Mae'r unigolion ar leoliad gyda ni yn symud ymlaen i gyflogaeth ac maen nhw o ystod o gefndiroedd gwahanol.

“Mae cyllidebu’n bwysig er mwyn iddyn nhw allu rheoli eu harian wrth ddechrau swyddi newydd, neu wrth ddechrau gweithio ar ôl bod yn ddi-waith - deall materion yn ymwneud â chael cyflog misol, neu gyflog wythnosol.

“Rydyn ni’n gobeithio bod hyn yn rhoi’r hyder i bawb reoli eu harian yn iawn. Pan fyddan nhw’n dechrau gweithio, a phan fydd eu cyflogwr nesaf yn dweud wrthyn nhw mai cyflog misol ydi o, mi fydda nhw’n hyderus. Mi fyddan nhw’n gwybod sut i ymdopi a chyllidebu am y pedair wythnos heb dâl.”

Dywedodd Andrew fod Crest wedi eu denu gan hyblygrwydd y cyrsiau Lluosi.

“Mae yna ystod o gyrsiau y mae Lluosi yn eu cynnig, a gellir eu haddasu hefyd,” meddai. “Un o’r pethau wnes i ei grybwyll oedd cynnwys rhai cyrsiau am gyllidebu wythnosol a misol, felly mae modd ychwanegu pethau ac mae’r tiwtor wedi bod yn barod iawn i helpu.

"Mae defnyddio sylfaen y cwrs ac addasu hwnnw i gynnwys y pethau rydych chi angen eu dysgu wedi bod yn fuddiol iawn."

Dywedodd Rhian Garner, dysgwr yn y sesiwn Cyllidebu am Oes: “Rydyn ni wedi bod yn edrych ar wariant ac incwm a gweld beth sydd gennym ni ar ôl a ffyrdd o arbed arian.

“Mae’r tiwtor wedi bod yn glir a chryno iawn. Roedd gweld yr ymarferion rhif yn ddefnyddiol, ac roedd ambell beth annisgwyl, fel profi’r gwahaniaeth mewn blas rhwng bisgedi drud a bisgedi rhad.

“Roeddwn i'n hoffi edrych ar gyllidebu yn y cartref. Gan mai dim ond fy mab a minnau sydd, mae'n rhaid bod yn ofalus gyda’r ceiniogau a meddwl am y costau sydd i ddod fel y Nadolig a gwyliau eraill.

“Os ydych chi’n cael trafferthion, neu ddim yn gwybod sut i reoli’ch incwm, yna mae dod i eistedd gyda phobl eraill a rhannu syniadau yn handi iawn.”

Dywedodd Stephen Jones, tiwtor Lluosi: “Mae'r cwrs hwn yn ymwneud â helpu pobl i arbed arian a gweld lle y gallan nhw wneud arbedion mewn bywyd.

“Yn aml, os nad ydych chi wedi gwneud y pethau hyn o'r blaen yna maen nhw'n gallu bod ychydig yn anodd. Ond dim ond y broses o'i wneud ydi o. Felly, unwaith y byddan nhw wedi'i wneud yma, yna gobeithio y gallan nhw fynd a'r sgiliau a'r taflenni gyda nhw a pharhau i'w defnyddio.

“Mae’n rhaid i ni gyd fyw o fewn ein modd y dyddiau hyn, ac weithiau gall fod yn dipyn o agoriad llygad i weld lle mae’r ceiniogau'n hel neu lle gallwch chi wneud arbedion mewn bywyd.

“Os ydi cwrs am ddim a'i fod o ddiddordeb i chi, yna does gennych chi ddim byd i'w golli. Mae’n ffordd braf o gwrdd â phobl, ac yn llwybr gwych i gael sgiliau newydd a dysgu rhywbeth newydd.”

Mae prosiect Lluosi wedi ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n arwain prosiect Lluosi yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

I fod yn gymwys ar gyfer cyrsiau Lluosi am ddim gan Grŵp Llandrillo Menai, rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn, a byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy neu Ddinbych. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma. I wneud cais, gyrrwch neges e-bost at lluosi@gllm.ac.uk, ffoniwch 01492 542 338 neu llenwch y ffurflen ar-lein hon.

Mae prosiect Lluosi wedi gweithio gydag ystod eang o sefydliadau ar draws Gogledd Cymru, gan helpu i wella hyder y bobl maent yn gweithio gyda nhw mewn rhifedd. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallai Lluosi fod o fudd i’ch busnes neu sefydliad, cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date