Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Bryn Williams yn cynnal profiad arbennig Cwrdd y Cogydd i ddisgyblion ysgol lleol

Cynhaliodd y cogydd adnabyddus a chyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo ddigwyddiad pryd o fwyd tri chwrs a sesiwn holi ac ateb ym Mhorth Eirias fel rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Grŵp Llandrillo Menai

Cynhaliodd y cogydd enwog Bryn Williams brofiad Cwrdd y Cogydd i blant ysgolion lleol fel rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Grŵp Llandrillo Menai.

Roedd y digwyddiad, ym mwyty Porth Eirias Bryn, yn cynnwys pryd tri chwrs a sesiwn holi ac ateb i roi cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau i'r cogydd byd-enwog.

Bu disgyblion o ysgolion Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn yn y digwyddiad, yn ogystal â dysgwyr sy'n dilyn cwrs Lefel 1 mewn Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo. ⁠

Roedd pawb wedi cael gwahoddiad arbennig ar ôl dangos ymroddiad ac addewid yn eu hastudiaethau coginio.

Dywedodd Bryn, a ddysgodd ei grefft yng Ngholeg Llandrillo: “Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig oherwydd rydyn ni eisiau cael cymaint o bobl ifanc â phosib i mewn i’n diwydiant, ac mae hon yn ffordd wych o roi cipolwg iddyn nhw cyn iddyn nhw fynd o’r ysgol i’r coleg.

Mae cynnal digwyddiad fel yn yn bwysig i'r diwydiant lleol hefyd.

Mae arnon ni angen rhagor o bobl dalentog a chreadigol yn y diwydiant.

Twristiaeth yw ein hanfod yng ngogledd Cyrmu. Felly pan ddaw ymwelwyr yma mae angen i ni gynnig bwytai, tafarndai, caffis, siopau becws a siopao cigydd gwych – mae angen y cyfan arnom ni. Felly mae'r digwyddiad yn bwysig i dynnu sylw at yr hyn sydd gan ogledd Cymru i’w gynnig, o'r cynhwysion i’r sgiliau y byddant yn eu dysgu yn y coleg.”

Dywedodd Bryn, a enillodd gystadleuaeth deledu'r Great British Menu yn 2006, fod y sgiliau a ddysgodd yng Ngholeg Llandrillo wedi rhoi'r blaen iddo pan symudodd i Lundain a dechrau gweithio i'r cogyddion byd-enwog Marco Pierre White a Michel Roux Jr.

“Roeddwn i’n gwybod ei fod yn goleg da pan oeddwn i yno,” meddai. “Roedd gen i rai darlithwyr gwych yno - Mike Evans, Brian Leather, David Phillips. Es i'r Iseldiroedd am brofiad gwaith, cystadlu mewn cystadleuaeth, felly roeddech chi'n gwybod eich bod chi'n cael profiad gwych.

“Ond pan adewais i fynd i Lundain, dyna pryd sylweddolais pa mor dda oedd fy addysg yng Ngholeg Llandrillo. Roeddwn i’n gweithio i Marco Pierre White - roeddwn i’n coginio ar y lefel uchaf, ac roeddwn i’n gallu gwneud hynny, i gyd oherwydd Coleg Llandrillo.”

Yn y digwyddiad ym Mhorth Eirias, holwyd Bryn gan y myfyrwyr am ei yrfa, ei hoff brydau i’w creu, a pha gyngor oedd ganddo i bobl ifanc oedd â diddordeb yn y sector lletygarwch.

Dywedodd: “Canfyddwch pa lwybr rydych chi am ei ddilyn. Gallai fod yn gaffi, bwyty, tafarn, brasserie, becws. Unwaith rydych chi'n dod o hyd i'r hyn sy'n eich gwneud chi'n hapus, cadwch at hynny am dair neu bedair, pum mlynedd. Y swydd gyntaf honno yw'r peth pwysicaf, i chi'n cael gwir wreiddiau yn eich sector.

“Cofiwch, ewch i weithio rhywle lle rydych chi'n gwybod y byddwch chi'n datblygu'ch addysg, fel eich bod yn gwybod eich bod chi'n mynd i adael gyda sgiliau gwell na phan aethoch chi yno.”

Yn y digwyddiad ym Mhorth Eirias, cafodd myfyrwyr a’u hathrawon flas ar gwrs cyntaf croquette cig eidion Cymreig gyda remoulade seleriac, prif gwrs lleden y môr wedi'i phobi gyda thatws stwnsh a dresin madarch a chig moch, ac yna pwdin Alaska wedi'i bobi gyda hufen iâ marmalêd oren a phwdin Nadolig. Roedd dewisiadau llysieuol hefyd, sef cwrs cyntaf tarten betys gyda mousse tatws a chaws, a phrif gwrs 'Wellington' madarch gwyllt.

Roedd disgyblion o Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol David Hughes (Porthaethwy), Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Uwchradd Caergybi, Ysgol Syr Thomas Jones (Amlwch), Ysgol John Bright (Llandudno), Ysgol Aberconwy (Conwy), Ysgol y Creuddyn (Bae Penrhyn), Ysgol Emrys ap Iwan (Abergele), Ysgol Friars (Bangor), Ysgol Dyffryn Ogwen (Bethesda) ac Ysgol Tryfan (Bangor) yn y digwyddiad.

Disgrifiodd Mandy Florence, pennaeth bwyd a maeth yn Ysgol David Hughes, y digwyddiad fel, “Hollol wych – profiad mor anhygoel i’n dysgwyr”.

Ychwanegodd: “Roedd y bwyd yn hyfryd ac roedd y gwasanaeth yn anhygoel. Mae cyfleoedd fel hyn i’n pobl ifanc yn wirioneddol bwysig, a gobeithio y gwelwn ni fwy o ddigwyddiadau fel hyn. Mae gen i un bachgen ifanc gyda mi heno sydd ddim o reidrwydd yn gwybod beth mae o am ei wneud ar ôl gadael yr ysgol, ond mae'n fyfyriwr bwyd rhagorol ac mae'n wych iddo weld y cyfleoedd sydd ar gael.

“Mae ganddyn nhw eu harholiadau ymarferol ar ôl y Nadolig, felly mae'n rhaid iddyn nhw gynllunio, paratoi a choginio tri chwrs gyda chyfwydydd. Roedd yn wych gallu dweud, 'Meddyliwch am faint y dognau, edrychwch ar y ffordd y mae wedi'i gyflwyno, edrychwch ar gydbwysedd y gweadeddau a'r gwahanol flasau. Felly roedd hefyd yn brofiad da iawn iddyn nhw i baratoi ar gyfer eu arholiadau.”

Dywedodd Morgan Hill-Gardener, myfyriwr Blwyddyn 10 yn Ysgol John Bright: “Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy ngwahodd i ddigwyddiad fel hwn, roeddwn i mor falch o gael gwahoddiad. Mi wnes i fwynhau'r profiad yn fawr - roedd y prydau yn odidog ac mae Bryn yn neis iawn. Rwyf wrth fy modd â’r syniad o hyn, a byddai’n braf gweithio yma rhyw ddydd!”

Mae pob ysgol a fynychodd wedi bod yn rhan o Gynllun Talent Twristiaeth Grŵp Llandrillo Menai. Bwriad y Cynllun Talent Twristiaeth, a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, yw ysgogi pobl ifanc a rhoi gwybod iddyn nhw am y cyfleoedd tymor hir sydd ar gael iddyn nhw yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru.

Yn gynharach y tymor hwn, ymwelodd cynrychiolwyr y Cynllun Talent Twristiaeth ag ysgolion i roi blas i fyfyrwyr ar y diwydiant lletygarwch trwy arddangosiadau, gweithdai rhyngweithiol a heriau coginio.

Drwy gydol mis Rhagfyr a mis Ionawr, bydd y prosiect yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith amhrisiadwy i’r ysgolion mewn busnesau amlwg, tra hefyd yn dathlu treftadaeth unigryw gogledd Cymru, gan ganolbwyntio ar ddwyieithrwydd, defnyddio cynnyrch lleol, a’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol mewn marchnata twristiaeth i greu naws am le.

I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Talent Twristiaeth Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma neu ewch i tourismtalentpathfinder.gllm.ac.uk

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date