Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

'Y penderfyniad gorau rydw i wedi'i wneud' - ail-ysgrifennwch eich stori gyda chyrsiau wedi'u hariannu'n llawn

Mae cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, felly gallwch drawsnewid eich gyrfa heb boeni am y gost - ond gwnewch gais cyn mis Gorffennaf i osgoi cael eich siomi

Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gyrsiau sydd wedi'u hariannu'n llawn yn agosáu. Gallent newid eich gyrfa - neu eich helpu i lansio un newydd.

Mae Busnes@LlandrilloMenai a’r Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) yn helpu pobl i ailysgrifennu eu stori trwy Gyfrifon Dysgu Personol (CDP).

Mae'r rhain yn gyrsiau hyblyg i bobl sy'n ennill llai na £32,371, neu y mae eu swyddi mewn perygl - gan roi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddechrau gyrfa newydd neu i symud ymlaen yn eu diwydiant.

Mae’r cyrsiau galwedigaethol, sy’n cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar sectorau sy’n wynebu prinder sgiliau, megis adeiladu, peirianneg, TG a digidol, cyllid, swyddi gwyrdd a mwy. Mae'r rhestr lawn o gyrsiau ar gael yma.

Mae'r rhestr bresennol o gyrsiau ar gael tan fis Gorffennaf, felly manteisiwch ar y cyfle a gwnewch gais - ewch i dudalen Cyfrif Dysgu Personol ar wefan Grŵp Llandrillo Menai a dod o hyd i'r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo.

'Agorodd fy llygaid i fyd gwaith newydd'

Roedd Bea O'Loan yn gweithio mewn fferyllfa ar gontract dros dro pan benderfynodd uwchsgilio. Mae hi bellach yn gydlynydd iechyd a diogelwch gyda Jennings Building and Civil Engineering.

“Ro'n i'n teimlo nad oedd y gwahanol swyddi ro'n i wedi'u gwneud yn cynnig y cyfleoedd ro'n i eu heisiau,” meddai Bea, a enillodd ddau gymhwyster wedi'u hachredu gan NEBOSH (y Bwrdd Arholi Cenedlaethol mewn Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol).

“Y cwrs CDP cyntaf oedd y trobwynt. Mi agorodd fy llygaid i faes gwaith cwbl newydd a helpodd fi i ehangu fy ngorwelion ac i chwilio am waith mewn gwahanol sectorau.

“Dw i’n gweithio ym maes adeiladu rŵan – rhywbeth do'n i byth yn meddwl y byddwn i’n ei wneud. Mi wnes i ffrindiau newydd trwy’r cwrs, ac mi gyflwynodd fi i gymuned hollol newydd. Dyna'r peth gorau wnes i.

“Heb y CDP dydw i ddim yn siŵr beth fyddwn i’n ei wneud heddiw. Mae wedi agor drysau i gyfleoedd newydd, ac wedi fy rhoi ar lwybr i yrfa lle gallaf weld dyfodol i mi fy hun.

“Dw i wrth fy modd hefo fy swydd, ac mae fy nghyflogwr yn gefnogol. Ac oherwydd y ddau gymhwyster a enillais trwy'r CDP dw i bellach yn gymwys i astudio ar gyfer y diploma NEBOSH.”

'Dw i wedi dod o hyd i frwdfrydedd am fy swydd... a dw i'n ennill mwy'

Cymhwysodd Francesca Giacomet fel peiriannydd nwy trwy'r CDP, ar ôl dechrau uwchraddio ei gyrfa gyda chwrs Plymio Lefel 1 yng Ngholeg Llandrillo.

Meddai: “Mi ddywedais wrth fy nhiwtor yr hoffwn i fod yn beiriannydd nwy. Mi ddywedodd o wrtha' i am gyllid CDP, felly mi benderfynais ddarganfod rhagor. Roedden nhw'n barod iawn i helpu, gan roi'r holl wybodaeth yr oeddwn i ei hangen am y cwrs.

“Dechreuais yn 2020 a ro'n i'n ei chael hi’n eithaf heriol ar y dechrau. Roedd 'na lawer o wybodaeth i'w gymryd i mewn, ond unwaith i mi ddechrau deall, mi wnes i fwynhau'r cwrs.

“Dw i wedi cwblhau fy Nghwrs Diogelwch Nwy a dw i bellach yn beiriannydd nwy cymwysedig. Mae gen i swydd yn gosod tanau nwy i Debrett Fires, a dw i'n mwynhau'n fawr. Dw i'n falch iawn ohonof fy hun am gyflawni fy nghymhwyster. Dw i wedi dod o hyd i frwdfrydedd newydd tuag at fy swydd, ac i goroni'r cwbl dw i'n ennill mwy o gyflog oherwydd bod gen i'r cymhwyster.”

Ydw i'n gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer hyfforddiant trwy’r Cyfrif Dysgu Personol, rhaid i'ch cyflog sylfaenol blynyddol fod o dan £32,371, ac mae'n rhaid i chi fodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • Bod yn gyflogedig (gan gynnwys hunangyflogedig), neu
  • ar gontract dim oriau, neu'n
  • ⁠staff asiantaeth, neu
  • mewn perygl o gael eich gwneud yn ddi-waith

Sylwer: Mae Grŵp Llandrillo Menai bellach yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Digidol a Sero Net sydd heb feini prawf uchafswm cyflog.

Faint fydd yr hyfforddiant yn ei gostio?

Dim. Bydd Llywodraeth Cymru'n talu holl gostau'r hyfforddiant. Fodd bynnag, bydd rhaid i chi dalu eich costau teithio eich hun a sicrhau eich bod yn gallu ymroi digon o amser i fynychu a chwblhau'r cwrs.

Yn 2024/25, bydd y cyllid CDP sydd ar gael i bob dysgwr yn cael ei gapio ar £5,964.47.

Ydych chi eisiau uwchsgilio neu ddechrau gyrfa newydd trwy'r CDP? I gael rhagor o wybodaeth, i weld yr ystod lawn o gyrsiau, neu i wneud cais, cliciwch yma

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date