Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y Grŵp yn cynnal y nifer uchaf erioed o ddigwyddiadau Cystadlaeth Sgiliau Cymru

Cynrychiolodd dros 250 o gystadleuwyr Grŵp Llandrillo Menai yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru - gyda'r Grŵp yn cynnal mwy o ddisgyblaethau ar ei gampysau nag erioed o'r blaen

Cynhaliodd Grŵp Llandrillo Menai gystadlaethau 23 o ddisgyblaethau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni - y nifer fwyaf erioed i gael eu cynnal gan un grŵp coleg.

Cymerodd dros 250 o fyfyrwyr a phrentisiaid y Grŵp ran yn y digwyddiad eleni mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru.

Roedd llawer yn cystadlu ar dir cyfarwydd, gyda’r Grŵp yn cynnal cystadlaethau ar ei gampysau ym Mangor, Llangefni a’r Rhyl, ac mewn lleoliadau allanol.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnig cyfle i gystadleuwyr ddatblygu eu sgiliau i safon uchel ar draws dros 50 o ddisgyblaethau wrth iddynt frwydro i fod y gorau yn y wlad.


Cynhelir cystadlaethau mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys busnes, adeiladu, digidol, peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, lletygarwch a mwy.

Croesawodd campws Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni gystadleuwyr o bob rhan o Gymru mewn 14 disgyblaeth wahanol.

Y rhain oedd: gweithgynhyrchu ychwanegion, gwaith brics, gwaith coed, melino CNC, gosodiadau trydanol, cynorthwyydd ffitrwydd, gwaith coed (sgiliau cynhwysol), electroneg ddiwydiannol, roboteg ddiwydiannol, peirianneg fecanyddol, CAD (dylunio â chymorth cyfrifiadur), peintio ac addurno, hyfforddwr personol, plastro, a phlymio a gwresogi.

Cynhaliodd campws y Rhyl gystadlaethau technoleg cerbydau modur ysgafn, ynni adnewyddadwy, atgyweirio cyrff cerbydau ac ail-orffennu cerbydau.

Croesawodd campws newydd Bangor y categori celf gêm ddigidol 3D, tra yng Nghanolfan Pontio ym Mangor, cynhaliodd y Grŵp gystadlaethau cynhyrchu cyfryngau digidol, a chystadlaethau'r celfyddydau perfformio, heb anghofio'r 'Brwydr y Bandiau' blynyddol.

Roedd y Grŵp hefyd yn rheoli cystadlaethau ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a chystadlaethau datblygu gwefan ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghasnewydd.

Roedd cynrychiolaeth o'r Grŵp ym mhob un o’r categorïau uchod yn ogystal ag yn y cystadlaethau cyfrifeg, therapi harddwch, gofal plant, menter, cynhyrchu bwyd, dylunio graffeg, trin gwallt, iechyd a gofal cymdeithasol, technoleg cerbydau trwm, garddwriaeth, TG, gwasanaeth bwyty, a weldio. Cynhaliwyd y cystadlaethau hyn mewn lleoliadau ar draws y wlad gan gynnwys Coleg Cambria, Coleg Caerdydd a’r Fro, ac NPTC yn y Drenewydd.

Ar hyn o bryd mae'r cystadleuwyr yn aros i glywed sut hwyl gawson nhw, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Abertawe ar Fawrth 13. Bydd y Grŵp yn cynnal partïon gwylio ar ei gampysau yn Llandrillo-yn-Rhos a Llangefni, lle bydd cystadleuwyr yn derbyn eu medalau.

Bydd llawer yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Grŵp yng nghystadlaethau WorldSkills UK, lle gallant gystadlu am le yng ngharfan y Deyrnas Unedig ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol WorldSkills a gynhelir bob dwy flynedd.

Enillodd Grŵp Llandrillo Menai chwe medal yn Rownd Derfynol WorldSkillsUK ym Manceinion y llynedd, gyda Harry Sutherland yn ennill y wobr aur yn y gystadleuaeth plastro wrth gynrychioli Grŵp Llandrillo Menai yn Rownd Derfynol Genedlaethol y gystadleuaeth SkillBuild.

Bydd Rownd Derfynol WorldSkills UK yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf eleni, mewn lleoliadau amrywiol ar draws y De.

Dywedodd Nia Rhys Jones, Rheolwr Cynllunio ac Ymchwil Grŵp Llandrillo Menai:
“Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch o fod wedi gallu cynnal 23 o wahanol ddisgyblaethau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni. Dyma’r nifer fwyaf o gystadlaethau y mae unrhyw grŵp coleg erioed wedi’u cynnal ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

“Mae’r rhain wedi amrywio o gystadlaethau cerbydau modur yn y Rhyl, i beirianneg, adeiladu a ffitrwydd yn Llangefni. Roedden ni hefyd yn cynnal cystadlaethau cynhyrchu cyfryngau digidol a chystadlaethau celfyddydau perfformio yn Pontio.

“Roedd gennym ni 10 band o bob coleg AB yng Nghymru bron, yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau. Mae hon yn gystadleuaeth boblogaidd iawn ac mae wedi dod yn fwyfwy cystadleuol bob blwyddyn.

“Rydym yn falch o fod wedi croesawu colegau o bob rhan o Gymru, a dymunwn yn dda i bob cystadleuydd.

“Mae ein myfyrwyr wedi cystadlu ar hyd a lled Cymru yr wythnos hon, ac rydym yn gobeithio y byddan nhw’n dod â llawer o fedalau yn ôl pan fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar Fawrth 13.”

Trefnir Cystadleuaeth Sgiliau Cymru gan Ysbrydoli Sgiliau Cymru, menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnwys colegau, hyfforddwyr dysgu yn y gweithle, a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr, sy'n cefnogi pobl ifanc i gyflawni rhagoriaeth.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date