Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dai yn dechrau busnes gof ar ôl i'r coleg danio ei ddiddordeb mewn gwaith metel

Yn ogystal â hyder a sgiliau newydd, yng Ngholeg Menai cafodd Dai gyngor gan swyddog menter y coleg ynghylch sut i fynd ati i gael cymorth ariannol i sefydlu ei fusnes ei hun

Mae Dai Ifor Evans-Jones sy'n fyfyriwr yng Ngholeg Menai wedi dechrau busnes gof ar ôl i'w ddiddordeb gael ei danio gan ei gwrs.

Gwirionodd Dai, o Fiwmares, ar waith metel tra oedd yn astudio Weldio a Ffabrigo⁠ ar gampws Llangefni.

O dan arweiniad y gof Spike Blackhurst, yn ddiweddar mae ef a'i gyd-fyfyrwyr, Cai Roberts a Harry Vanmaele, wedi creu draig sydd wedi cael ei harddangos ger Castell Biwmares gan gyngor y dref.

Bellach mae Dai yn dilyn cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg yn Llangefni ac yn awyddus i feithrin sgiliau newydd a fydd yn rhoi hwb i'w fusnes.

Ers cofrestru yn y coleg i ailsefyll ei arholiadau TGAU mae Dai wedi magu hyder, wedi darganfod beth sy’n mynd â’i fryd, a hyd yn oed wedi cael cymorth ariannol i ddechrau ei fusnes ei hun.

Aeth Dai at Shoned Owen, swyddog menter Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor i gael help i wneud cais am grant gan Môn CF i sefydlu ei fusnes.

Gan iddo dderbyn £2,000 tuag at offer, gallodd brynu masgiau aer, torrwr ac ysgythrwr laser, a chyfrifiadur.

“Roedd hynny’n help mawr,” meddai Dai. “Dangosodd Shoned i mi hefyd sut i baratoi anfonebau a phethau felly.”

Pan ofynnwyd iddo sut roedd ei fusnes yn mynd, dywedodd Dai: “Gwych. Yn ddiweddar rydw i wedi gwneud ffens a giât, ac wedi gwerthu ambell brocer i ffrindiau. A dweud y gwir, mae gen i lawer o archebion i’w gwneud eto.”

Dechreuodd taith Dai pan gofrestrodd ar y cwrs Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Modur ⁠yn 2020. Ar yr un pryd, cymerodd ddosbarth nos mewn TGAU Bioleg gan gael A* ac ail-safodd ei Fathemateg gan gael B.

Y flwyddyn ganlynol, symudodd Dai ymlaen i’r cwrs Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Modur gan sefyll mwy o arholiadau TGAU, gan gael A yn Saesneg ac C yn Gymraeg.

“Roedd y tiwtoriaid yn garedig tu hwnt ac yn fy nhrin i gyda pharch,” meddai Dai. “Mi roddodd hynny hwb i fy hyder a dyna sut ges i ganlyniadau cystal.

“Ro'n i’n hoffi’r cwrs cynnal a chadw cerbydau, ac roedd dysgu sut i drwsio ceir yn hwyl.”

Tra oedd ar y cwrs, cafodd Dai gyfle hefyd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth WorldSkills. Dywedodd: “Mi wnaeth les i mi fod mewn sefyllfa ddieithr a gwthio fy hun. Mi helpodd Paul Griffith, y tiwtor mecaneg, fi gyda hynny a dw i'n ddiolchgar iawn iddo.”

Ar yr un pryd, ymunodd â dosbarth nos mewn weldio, a dyna yn y pen draw a daniodd ei ddiddordeb mewn bod yn of.

Dywedodd: “Ro'n i'n gwneud cwrs weldio, ac yn cael hwyl arni. Mi wnes i wirioni ar weldio a gwaith metel.

“Ro'n i'n gwneud Lefel 1 yn y dosbarth nos, ac es i 'mlaen wedyn i wneud Lefel 2 a Lefel 3 fel myfyriwr llawn amser. Un diwrnod ro'n i'n gwneud tasg weldio ac mi ofynnwyd i ni edrych ar fideos YouTube o sut i wneud ambell beth. Dyna sut y des i ar draws gwaith gof, felly gofynnais i’m darlithydd weldio Islwyn Williams a allwn i fynd at of i gael profiad gwaith.”

A dyna sut aeth Dai i Lanbrynmair ym Mhowys i ddysgu'r grefft o fod yn of gyda Spike o Syniadau Mawr Cymru. Mae Spike wedi rhedeg ei busnes ei hun ers 2003 ac yn hyfforddwr gwaith gof artistig.

“Roedd hynny’n wych,” meddai Dai. “Mae Spike yn gwneud i bobl deimlo eu bod nhw yn y lle iawn pan maen nhw'n gwneud ei chyrsiau. Roedd hi'n ffeind iawn ac yn barod iawn i helpu. A dyna sut wnes i ddysgu sut i fod yn of.”

Ar wythnos o gwrs yng ngweithdy Spike, gweithiodd Dai ar ei ddraig gyda'i ffrind Cai, sy'n dilyn y cwrs Sylfaen mewn Celf ⁠yng Ngholeg Menai. Fe orffennon nhw'r ddraig yng nghartref Dai, gyda help cyd-fyfyriwr arall sef Harry, a bellach mae'r ddraig ar gael i bawb ei gweld ym Miwmares.

Pan ofynnwyd iddo pam ei fod yn mwynhau gwaith gof, atebodd Dai: “Dw i wrth fy modd eich bod chi'n gallu ailgylchu hen fetel i wneud offer newydd ac addurniadau. Mi gymerais i at y peth yn syth, a phenderfynu fy mod i isio dechrau fy musnes fy hun.”

Ychwanegodd: “Rydw i yn y coleg ar ddydd Llun, Mercher ac Iau, ac yn rhedeg fy musnes ar y dyddiau eraill. Ar ôl dod adra o'r coleg dw i'n gwneud y tasgau bach. Pryd bynnag dw i'n rhydd dw i'n gwneud fy ngwaith gof.

“Ar hyn o bryd, dw i'n cael busnes wrth i bobl ddweud wrth ei gilydd amdana i, ond mae 'na ffrind am fy helpu i greu gwefan. Unwaith y bydd y wefan i fyny, gobeithio y bydda i'n cael archebion o lefydd newydd.”

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i'r coleg! Mae llefydd ar gael o hyd ar gyrsiau llawn amser. Ewch i gllm.ac.uk/cy/courses ⁠i gael rhagor o wybodaeth

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date