Dewis David yn aelod o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae’r trwmpedwr a’r pianydd dawnus yn astudio Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ac fe’i dewiswyd o blith mwy na 300 ledled Cymru fu mewn clyweliadau
Mae myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, David Bisseker, wedi cael ei ddewis ar gyfer Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Bydd David, o Harlech, yn canu’r trwmped yn y band. Roedd yn un o tua 50 o ymgeiswyr llwyddiannus, a ddewiswyd o blith mwy na 300 ledled y wlad a gafodd glyweliad.
Bydd aelodau’r band yn mynd i ymarferion yn ystod mis Mawrth, cyn perfformio mewn cyfnod preswyl ym Mhrifysgol Bangor ym mis Gorffennaf. Bydd y band hefyd yn cynnal cyngherddau yn Neuadd Prichard-Jones ym Mangor ar 26 Gorffennaf, Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 27 Gorffennaf a’r Neuadd Fawr yn Abertawe ar 28 Gorffennaf.
Mae David, sy'n astudio cyrsiau Lefel A Cerddoriaeth a Hanes yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli, yn gyffrous iawn i berfformio yn y band.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl cael cynnig lle pan es i i'r clyweliad, felly mae’n gyfle gwych,” meddai.
David, 17 oed, yw’r is-brif chwaraewr corned yn Seindorf Arian yr Oakeley, sydd wedi’i leoli ym Mlaenau Ffestiniog, ac mae’n gobeithio cystadlu ym Mhencampwriaeth Cymru gyda nhw ym mis Mawrth. Mae hefyd yn brif gornedwr Band Pres Gwynedd a Môn.
Mae wedi canu’r trwmped a’r corned ers 12 mlynedd, wedi cyflawni Gradd 8 gyda Rhagoriaeth ar y trwmped ac mae bellach yn gweithio tuag at ennill ei Ddiploma.
Mae’r myfyriwr dawnus hefyd yn astudio ar gyfer ei arholiad Gradd 8 ar y piano, ac wedi dysgu ei hun i chwarae’r organ. Mae'n chwarae bob dydd Sul yn Eglwys Sant Tanwg yn Harlech ac Eglwys y Santes Fair yn Llanfair, ac yn cyfeilio mewn priodasau ac angladdau hefyd.
Dywedodd David: “Pan o’n i’n chwech oed, rhoddodd mam gyfle i mi ddysgu canu gwahanol offerynnau, fel y corned a’r piano, a byth ers hynny, rydw i wrth fy modd gyda nhw.
“Dechreuais chwarae’r organ pan oeddwn tua 10 oed. Dechreuodd hynny pan ofynnodd y ficer ar y pryd a oeddwn am roi cynnig arni. Ers hynny, rydw i wedi mwynhau chwarae'r organ yn fawr ac wedi dysgu fy hun.”
Mae David yn gobeithio dilyn gyrfa ym maes cerddoriaeth, ac mae wedi gwneud cais i astudio am Radd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor fis Medi nesaf.
Dywedodd Gwenno Pritchard, darlithydd Cerddoriaeth Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: “Mae David yn fyfyriwr brwdfrydig a cherddorol iawn. Mae'n gweithio'n galed ar ei berfformiad a'r llynedd llwyddodd yn ei arholiad Gradd 8 gyda rhagoriaeth.
“Bydd bod yn rhan o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn brofiad bythgofiadwy iddo ac rwy’n siŵr y bydd yn ei fwynhau’n fawr.”
Mae Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi rhoi cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o’r radd flaenaf i gerddorion ifanc ers ei sefydlu ym 1982. Daw aelodau o bob rhan o Gymru a chynhelir clyweliadau yn flynyddol mewn canolfannau ledled y wlad.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen y band ar wefan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Diddordeb mewn astudio pynciau Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor? Rydym yn cynnig mwy na 30 o bynciau - am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.