Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal digwyddiadau agored ym mis Mawrth

Mae digwyddiadau agored yn gyfle perffaith i ddysgu rhagor am yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal digwyddiadau agored ym mhob un o'i gampysau yn ystod mis Mawrth. ⁠⁠

Mae Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i weld ein campysau a'n cyfleusterau tan gamp, i gyfarfod â'r tiwtoriaid ac i ddod i wybod rhagor am y dewis eang o gyrsiau rydym yn eu cynnig.

⁠Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon sydd â'r dewis ehangaf o raglenni dysgu llawn a rhan-amser, prentisiaethau a chyrsiau gradd yng ngogledd Cymru. Yn wir, mae ganddynt filoedd o ddewisiadau i ddiwallu eich anghenion ac i'ch helpu i gyrraedd eich potensial. ⁠⁠

Mae ein digwyddiadau agored nesaf wedi'u rhestru isod: ⁠⁠ ⁠⁠

Coleg Llandrillo:

  • Campws Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Llun 10 Mawrth, 5.30pm – 7.00pm
  • Campws y Rhyl: Dydd Mawrth 11 Mawrth, 5.30pm – 7.00pm

Coleg Menai:

  • Campws Llangefni: Dydd Mercher 12 Mawrth, 4.30pm – 6.30pm
  • Campws Newydd Bangor: Dydd Iau 13 Mawrth, 4.30pm – 6.30pm
  • Campws Parc Menai (Celf a Dylunio): Dydd Iau 13 Mawrth, 4.30pm – 6.30pm

Coleg Meirion-Dwyfor:

  • Campws Pwllheli: Dydd Iau 13 Mawrth, 5pm – 7pm
  • Campws Dolgellau: Dydd Iau 20 Mawrth, 5pm – 7pm

Glynllifon: Dydd Sadwrn 22 Mawrth, 9am – 11am

Rydym yn cynnig dros 30 o gyrsiau Lefel AS/A a gyflwynir gan diwtoriaid profiadol a chymwys dros ben. ⁠Gan fod dewis mor eang ar gael, rydych yn siŵr o ddod o hyd i bynciau sy'n addas i chi.

Cynigiwn ddewis eang o gyrsiau galwedigaethol mewn dros 35 maes pwnc, gan ei gwneud yn hawdd i chi ddod o hyd i'ch cwrs delfrydol. Caiff llawer o'n cyrsiau galwedigaethol eu datblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr er mwyn rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y mae cwmnïau’n gofyn amdanynt yn y gweithle modern.

Yn y rhan fwyaf o’r Digwyddiadau Agored bydd ymwelwyr yn gallu cael gwybodaeth am gyrsiau gradd a chyrsiau lefel uwch hefyd. Mae Grŵp Llandrillo Menai ymhlith y sefydliadau sy'n cynnig y dewis mwyaf o gyrsiau gradd a chyrsiau lefel prifysgol yng Nghymru.

Ymunwch â’r degau o filoedd o fyfyrwyr sydd wedi gwireddu eu gobeithiol personol ac academaidd yng ngholegau Grŵp Llandrillo Menai! ⁠

Archebwch eich lle yn un o'n Digwyddiadau Agored yma: https://www.gllm.ac.uk/cy/digwyddiadau

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan!

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date