Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Dwyieithrwydd yn tynnu sylw at ddatblygiadau technolegol Grŵp Llandrillo Menai mewn cynhadledd genedlaethol

Chwaraeodd Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau Grŵp Llandrillo Menai ran flaenllaw yng nghynhadledd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Ddwyieithrwydd a Thechnoleg.

Rhoddodd Angharad Roberts, sydd hefyd yn aelod o Fwrdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gyflwyniad ar ddefnydd arloesol Grŵp Llandrillo Menai o dechnoleg yn dilyn cyfnod Covid.

Roedd y digwyddiad, a noddwyd gan Jisc, yn canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg i wella addysg ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau.

Roedd ei chyflwyniad yn esbonio defnydd arloesol y Grŵp o dechnoleg yn dilyn Covid-19 a sut y mae wedi dangos y ffordd i weddill y sector. Manylodd ar y diweddariadau a wnaed i lwyfannau dysgu ar-lein er mwyn gwella hygyrchedd a'r camau a gymerwyd i ddileu'r bwlch digidol trwy roi gliniadur neu gyfrifiadur llechen i bob myfyrwyr ac aelod staff.

Angharad hefyd a arweiniodd ddatblygiad Safonau ac Egwyddorion Dysgu ac Addysgu Hybrid Grŵp Llandrillo Menai. Ers eu lansio yn 2020, mae'r safonau hyn wedi cael eu mabwysiadau gan yr holl sefydliad, gan osod meincnod ar gyfer addysg hybrid ddwyieithog effeithiol.

Tynnodd sylw hefyd at lansiad cyfleusterau Llyfrgell+ y Grŵp sy'n lleoliadau dysgu dwyieithog bywiog lle gall myfyrwyr astudio, meddwl a chreu mewn amgylchedd hamddenol a chroesawgar. Yn rhan o'r datblygiad newydd hwn, mae gan ddysgwyr fynediad at gronfeydd data ar-lein arbenigol sy'n cynnwys ystod eang o e-lyfrau ac e-gyfnodolion. Mae'r dysgwyr yn elwa ar gael WiFi am ddim, a defnyddio offer dysgu digidol fel pensetiau rhithwir a chitiau codio.

Tra oedd yn y gynhadledd roedd Angharad hefyd yn rhan allweddol o drafodaeth banel a arweiniwyd gan Meri Huws, cyn-gomisiynydd y Gymraeg ac un o'i chyd-aelodau ar Fwrdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Panel oedd hwn i drafod sut y defnyddir technoleg i gefnogi addysg ddwyieithog yng Nghymru a'r aelodau eraill oedd Lisa Waters, Rheolwr HWB Sgiliau Hanfodol Urdd Gobaith Cymru, Sarah Jones, Pennaeth Gwasanaethau Academaidd y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac Wyn Williams, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Adeiladu (Grŵp Colegau NPTC).

Wrth siarad ar ôl y gynhadledd, dywedodd Angharad: “Roedd yn bleser gallu rhannu’r arferion da amrywiol rydym wedi’u datblygu yn y Grŵp wrth ddefnyddio technoleg – yn enwedig ers y pandemig. Mae ein harolwg diweddar gan Estyn hefyd yn canmol ein dysgu a'n haddysgu hybrid fel enghraifft o arfer dda.”

Ychwanegodd: “Mae ein darlithwyr yn defnyddio technoleg i wella eu harferion addysgu dwyieithog ac rydym yn parhau i ymchwilio i dechnolegau newydd fel deallusrwydd artiffisial er mwyn sicrhau bod gan ein dysgwyr y sgiliau angenrheidiol i fodloni anghenion cyflogwyr ledled gogledd Cymru a thu hwnt.”