Dylan a Begw'n parhau i ddatblygu sgiliau wedi profiad gwerthfawr ym mhencampwriaeth y chwe gwlad
Enillodd y ddau fyfyriwr o Grŵp Llandrillo eu capiau cyntaf dros dimau dan 18 Cymru eleni.
Gobaith Dylan Alford a Begw Ffransis Roberts ydy adeiladu ar yr hyn a ddysgon nhw yn chwarae i dimau dan 18 Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad.
Enillodd y ddau fyfyriwr o Grŵp Llandrillo Menai, sydd hefyd yn chwarae i dimau RGC, eu capiau cyntaf dros dimau dan 18 Cymru eleni yn y gwyliau Chwe Gwlad a gynhaliwyd eleni.
Dylan, sy'n dilyn cwrs Chwaraeon a Gwyddor Chwaraeon Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo oedd y chwaraewr cyntaf o'r coleg i sgorio cais dros Gymru yn ystod eu buddugoliaeth o 35-10 yn erbyn Portiwgal yng ngŵyl y bechgyn.
Chwaraeodd hefyd yn y gemau yn erbyn Lloegr a Ffrainc yn ystod y twrnamaint yn Parma, yr Eidal.
Dywedodd Dylan: "Roedd yn brofiad heriol iawn, a'r gemau'n gyflym iawn. Roedd y drefn yn newydd oherwydd ein bod oddi cartref, ac roedd gofyn i ni ganolbwyntio llawer mwy.
Mae llawer o waith dadansoddi yn digwydd hefyd - yn arwain at y gêm ei hun, a'r diwrnod ar ôl y gêm, cyn symud ymlaen at y gêm nesaf. Mae'n drwm ar y corff hefyd.
Roedd yn gyfle i gael profiad o fyw fel chwaraewr proffesiynol, hyfforddi a bwyta mewn ffordd arbennig. Cipolwg da ar yr hyn dw i'n gobeithio ei wneud yn y dyfodol."
Chwaraeodd Begw, sy'n dilyn y cwrs Chwaraeon Lefel 3 yng Ngholeg Menai, yn erbyn yr Alban ac Iwerddon yn ystod y twrnamaint dan 18 i ferched yn stadiwm CSM ym Mae Colwyn.
Meddai: "Roedd chwarae ym Mae Colwyn, cartref fy nhîm RGC yn brofiad braf oherwydd roedd fy nheulu a'm ffrindiau yno. Roedd Nain a Taid yno, ac roedd hynny'n brofiad balch ac arbennig i mi.
Roeddwn i'n teimlo'n falch iawn o wisgo'r crys coch, yna cerdded i'r cae a gweld fy ffrindiau a'm teulu yno, roedd yn fraint.
Mae chwarae i dîm RGC yn gam i fyny o lefel clwb, ac roedd hyn yn gam arall i fyny. Ond mae RGC wedi ein paratoi yn dda, felly roeddwn i'n barod ac yn gwybod beth i'w ddisgwyl ar y lefel hwn.
Gobeithio y bydda i yno'r flwyddyn nesaf, mi fydda i'n fwy profiadol. Dw i eisiau parhau ar y llwybr hwn, dal ati i weithio'n galed gyda'r gobaith o chwarae yn nhîm hyn merched Cymru rhyw ddydd."
Mae Dylan a Begw ill dau yn ddiolchgar am y cyfleoedd maen nhw wedi’u cael drwy astudio yn y coleg.
Dywedodd Begw: “Mae fy nghwrs yn fy helpu o ran nabod y gamp. Er enghraifft, rwy'n gwneud uned seicoleg ar y cwrs, ac mae hynny'n fy helpu oherwydd gyda'r astudiaethau achos, gallaf weld o ble maen nhw'n dod.
Ar ôl gorffen fy nghwrs rydw i eisiau naill ai mynd ymlaen i brentisiaeth mewn chwaraeon, neu fynd i’r brifysgol i astudio chwaraeon, a pharhau i hyfforddi a chwarae rygbi.”
Dywedodd Dylan: “Wrth chwarae i’r coleg, mae’n rhoi eich enw allan yna ar y lefel uchaf yng Nghymru, felly mae’n rhoi’r cyfle mwyaf i chi gael eich dewis dros Gymru, a hefyd i chwarae yn erbyn y chwaraewyr gorau. Hefyd mae’n golygu y gallaf gael fy nghymwysterau a gobeithio mynd ymlaen i’r brifysgol.”
Ydych chi eisiau gweithio ym maes chwaraeon? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai, neu yma i gael rhagor o wybodaeth am Academi Rygbi Coleg Llandrillo