Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Efa'n elwa wedi cyfnod profiad gwaith gyda Rheilffordd Ffestiniog

Arweiniodd cyfnod o brofiad gwaith at gynnig swydd i fyfyriwr cyrsiau Teithio a Thwristiaeth Coleg Menai

Mae Efa India Everitt-Mcall, myfyriwr yng Ngholeg Menai, wedi cael cynnig swydd gyda Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru ar ôl gwneud argraff yn ystod ei chyfnod yno ar brofiad gwaith.

Mae Efa'n dilyn cwrs Lefel 2 Teithio, Twristiaeth a Busnes ar gampws Bangor ac mi gwblhaodd wythnos o brofiad gwaith yng ngorsaf Caernarfon fel rhan o'i chwrs.

Ar ddiwedd y cyfnod profiad gwaith gofynnwyd iddi anfon ei CV at y cwmni, ac mi fydd yn dechrau gweithio fel stiward ar y trên yn ddiweddarach y mis hwn, yn delio â chwsmeriaid sy’n dod o bob rhan o’r byd i deithio ar y rheilffordd enwog.

Wrth drafod ei chyfnod profiad gwaith, dywedodd Efa: “Roedd yn brofiad gwych yn hollol wahanol i'r hyn roeddwn i wedi'i ddisgwyl. Roeddwn i'n helpu i wirio pobl gyda'u tocynnau yn y bore, yna gweithio ar y trên yn gweini te, coffi a byrbrydau i bobl, ac yn glanhau'r cerbydau wedyn, felly roedd yn eithaf amrywiol.

"Roeddwn i'n gyffrous pan ofynnon nhw i mi anfon fy CV oherwydd roeddwn i'n gwybod mai dim ond un swydd wag oedd ar gael. Rydw i'n edrych ymlaen at ddechrau.”

Gallai’r cwrs Lefel 2 Teithio, Twristiaeth a Busnes fod yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd heb ddewis gyrfa benodol yn barod, gan ei fod yn darparu ystod eang o ddysgu a phrofiad.

Mae'n cynnwys unedau sy'n ymdrin â theithio, lletygarwch a busnes, yn ogystal â phrofiad gwaith ac uned gyrfaoedd. Mae cymaint o ddiwydiannau’n gysylltiedig â theithio, ac mae’r cwrs yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a allai fod yn ddefnyddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd.

"Mi faswn i'n argymell y cwrs i eraill", dywedodd Efa. “Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau mynd i fyd teithio a thwristiaeth, ond doeddwn i heb glywed am y cwrs cyn mynd i’r coleg a gofyn beth oedd ar gael yno. Mae fy nhiwtor Sharon Jones wedi fy helpu’n fawr.”

I Efa, uchafbwynt y cwrs oedd taith i Lundain, lle arhosodd y dosbarth yn y Royal National Hotel.

“Mi welon ni Balas Buckingham a rhai o’r atyniadau twristaidd eraill, aethon ni i weld Wicked the Musical, a chael golwg o gwmpas y gwesty i weld sut maen nhw’n gwneud pethau,” meddai Efa.

Yn ystod y daith, aeth y dosbarth i'r Amgueddfa Brydeinig, Harrods, Trafalgar Square a Piccadilly Circus, a gweld enwogion yn cyrraedd premier y ffilm Challengers yn Leicester Square.

Hoffech chi weithio yn y diwydiant twristiaeth? Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig cyrsiau Teithio a Thwristiaeth o Lefel 2 hyd at lefel gradd, cliciwch yma ⁠i gael rhagor o wybodaeth.