Chwaraewyr academi rygbi merched y coleg yn ymuno â charfan hyfforddi tîm dan 18 Cymru
Mae Cara Mercier, Leah Stewart a Saran Griffiths ymhlith y rhai sydd wedi cael eu dewis, ac mae Osian Llewelyn Woodward yn y garfan i fechgyn dan 18
Mae wyth aelod o academi rygbi merched newydd Grŵp Llandrillo Menai wedi cael eu dewis i ymuno â charfan hyfforddi dan 18 Cymru dros y penwythnos hwn.
Mae Cara Mercier o Goleg Llandrillo a Leah Stewart a Saran Griffiths o Goleg Menai wedi cael eu galw i ymuno â'r garfan.
Mae Efa Parry, Saran Jones, Mali Thomas, Lucy Powell ac Izzy Jones, sy’n chwarae i’r academi wrth astudio mewn ysgolion lleol hefyd wedi cael eu dewis.
Bydd Osian Llewelyn Woodward o Goleg Llandrillo a'r Academi Rygbi hefyd yn mynd i lawr i Vale Resort yn Hensol, ger Caerdydd i ymuno â charfan bechgyn dan 18 Cymru.
Bydd cyfle i bob un o’r naw myfyriwr hawlio'u lle ar y timau fydd yn chwarae gemau rhyngwladol yn y gwanwyn, ac yng ngwyliau pencampwriaeth y Chwe Gwlad i rai dan 18 oed.
Sefydlwyd academi merched y Grŵp yng Ngholeg Llandrillo eleni er mwyn creu llwybr i fyfyrwyr sydd am symud ymlaen i chwarae i Rygbi Gogledd Cymru (RGC) ac o bosibl i rai dan 18 Cymru.
Fel gyda thîm Academi'r Bechgyn, bydd tîm yr academi yn cystadlu yng Nghyngres Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru - y lefel uchaf oni bai am rygbi rhanbarthol ar gyfer y grŵp oedran 16-18.
Mae gweld cynifer o fyfyrwyr yn cael eu dewis ar gyfer y gwersyll hyfforddi yn brawf o’r gwaith caled sy’n digwydd yn academïau’r Grŵp a'r Ganolfan Datblygu Chwaraewyr (PDC) ym Mharc Eirias.
Dywedodd Lucy Brown, Hyfforddwr Cynorthwyol tîm merched Grŵp Llandrillo Menai ac Arweinydd Canolfan Datblygu Chwaraewyr URC ar gyfer Gogledd Cymru. “Mae 10 merch wedi’u dewis o PDC North, ac mae cryn dipyn o rai eraill yn colli allan y tro hwn.
"Mae wyth o’r chwaraewyr hynny wedi bod yn rhan o’r rhaglen a sefydlwyd eleni yn y coleg - ychwanegiad positif i’r llwybr yng Ngogledd Cymru ar gyfer rygbi merched.
"Dw i wedi gwylio gemau ar draws y rhanbarth, a dw i'n meddwl bod gemau coleg yn pontio’r bwlch ac yn caniatáu i’r merched chwarae yn erbyn chwaraewyr eraill sydd hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer tîm dan 18 Cymru. Mae'n gyfle iddyn nhw ddangos eu bod yn haeddu cyfle i ymuno â'r gwersyll datblygu hwn.
"Mae rhai o’r chwaraewyr sydd wedi cael eu dewis eisoes wedi chware i dîm dan 18 Cymru yng nghyfres yr haf a’r Chwe Gwlad, ond mae nifer o chwaraewyr newydd wedi’u dewis hefyd. Mae'n dangos pa mor allweddol ydy rhaglen y coleg a’r PDC ar gyfer eu llwyddiant.”
Meddai Andrew Williams, Cydlynydd Academi Rygbi Coleg Llandrillo am Osian: "Mae'n wobr am yr holl waith caled mae wedi'i wneud dros y 18 mis diwethaf. Mae’n gam ymlaen iddo, a'r nod yn y pen draw ydy ennill cap yn ystod gemau mis Mawrth ac Ebrill.
"Mae’n gwneud popeth yn iawn, ac mae’n gam cadarnhaol ymlaen gyda'r gobaith o ennill anrhydeddau rhyngwladol cyn diwedd y flwyddyn academaidd.”
I ddysgu rhagor am Academi Rygbi Coleg Llandrillo, cliciwch yma.