Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Wyth o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn cyrraedd rowndiau terfynol WorldSkills UK

Mae'r dysgwyr llwyddiannus i gyd wedi cyrraedd yr wyth olaf drwy Brydain yn eu categori

Mae wyth o ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi cael eu dewis i gystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK ym mis Tachwedd.

Mae Evan Klimaszewski wedi cyrraedd rownd derfynol y DU am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn ymuno ag ef mae ei gyd-fyfyrwyr o Goleg Menai, Lucas Jackson, Sion Elias a Peter Jenkins.

Bydd Evan yn cystadlu yn y categori Electroneg Ddiwydiannol, Sion a Peter mewn Roboteg Ddiwydiannol, a Lucas yn y Turnio CNC.

Mae Heather Wynne, myfyrwraig trin gwallt a harddwch o Goleg Llandrillo, hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ar ôl iddi ddod yn gyntaf yn y gystadleuaeth trin gwallt ranbarthol ym Manceinion yn ddiweddar.

Dywedodd Heather: "Dw i wedi gwirioni fy mod wedi cyrraedd yr wyth olaf yn WorldSkills UK. Dw i’n gwybod bod gen i lawer o waith caled i’w wneud yn ymarfer a pharatoi ar gyfer y rowndiau terfynol ym mis Tachwedd.”

Hefyd yn y rownd derfynol mae Clare Sharples, Carwyn Littlewood a Lauren Harrap-Tyson, sy’n astudio cyfrifeg yn Busnes@LlandrilloMenai. Byddant yn cystadlu yn y categori technegydd cyfrifeg.

Mae pawb a ddewiswyd wedi cyrraedd yr wyth olaf yn y DU ar ôl cystadlu mewn cyfres o gystadlaethau rhanbarthol heriol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau.

Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydyn ni'n falch iawn bod wyth o’n dysgwyr wedi’u dewis i gystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK.

“Mae hyn yn brawf o waith caled ac ymroddiad ein dysgwyr, a hefyd yr addysg o safon uchel maen nhw'n ei chael yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Rydyn ni'n dymuno'r gorau iddyn nhw yn y rowndiau terfynol cenedlaethol ym mis Tachwedd."

Bydd rowndiau terfynol y Deyrnas Unedig yn cael eu cynnal rhwng 19-22 Tachwedd mewn lleoliadau ledled Manceinion. Byddant yn cael y cyfle i gystadlu am le i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn y 'Gemau Olympaidd Sgiliau' sydd i'w cynnal yn Shanghai, Tsieina, yn 2026.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau mawr i gystadleuwyr y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol eleni. Rydym yn dymuno'r gorau iddynt yn eu hyfforddiant wrth iddynt baratoi ar gyfer Rowndiau Terfynol Worldskills UK.

“Rydyn ni'n falch o fod yn ôl yn ardal Manceinion ar gyfer ein Rowndiau Terfynol Cenedlaethol ym mis Tachwedd ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Greater Manchester Combined Authority a phob un o'r lleoliadau fydd yn ein croesawu.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr a phartneriaid o bob rhan o’r DU i arddangos rhagoriaeth mewn sgiliau technegol a hybu datblygiad sgiliau sydd o safon fyd-eang ymhlith pobl ifanc.”

Bydd enillwyr y rownd derfynol yn cael eu hanrhydeddu yn neuadd fawreddog Bridgewater Hall ym Manceinion ar ddydd Gwener, 22 Tachwedd.

Pagination