Elin yn ennill gwobr rifedd genedlaethol
Mae’r fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor wedi datblygu ei sgiliau mathemateg ar ôl goresgyn problem iechyd difrifol. Yn awr mae'n gobeithio hyfforddi i fod yn athrawes ysgol gynradd
Mae Elin Mai Jones, myfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor, wedi ennill clod cenedlaethol am ddatblygu ei sgiliau mathemateg.
Mae Elin, o Bwllheli, wedi derbyn Gwobr Gwella Rhifedd Ariannol Cwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru (WLCOW).
Bob blwyddyn academaidd, mae WLCOW yn dyfarnu'r wobr i bobl ifanc sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn sgiliau llythrennedd ariannol. Mae'r wobr yn cynnwys £500 i alluogi'r derbynwyr i brynu caledwedd, meddalwedd, llyfrau a deunyddiau eraill i annog gwelliant parhaus yn eu llythrennedd ariannol.
Mae Elin yn gobeithio mynd i'r brifysgol i hyfforddi i fod yn athrawes ysgol gynradd, ac mae'n bwriadu defnyddio ei £500 i dalu ffioedd ei chwrs a phrynu gliniadur newydd.
Mae'r ferch 18 oed yn astudio cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli. Cyrhaeddodd y coleg yn 2022 heb unrhyw gymwysterau TGAU, gan iddi fethu sefyll ei harholiadau ôl bod yn yr ysbyty gyda phroblem iechyd difrifol.
“Allwn i ddim gwneud dim byd am tua dwy flynedd,” meddai. “Ro'n i yn yr ysbyty am ddau neu dri mis, a do'n i ddim yn gallu gwneud fy ngwaith ysgol. Mi dreuliais i fy mhen blwydd yn 15 oed yn yr ysbyty.”
Yn ei blwyddyn gyntaf yn y coleg, cafodd Elin ei chofrestru ar gwrs Lefel 1 Cymhwyso Rhif i ddatblygu’r sgiliau rhifedd roedd hi wedi eu methu.
Hedfanodd drwy'r cwrs hwn cyn gwneud yr un peth ar Lefel 2. Yna yn ei hail flwyddyn, symudodd ymlaen i astudio cwrs TGAU Mathemateg - ac ennill gradd C yr haf diwethaf.
“Roedd o'n anodd oherwydd ro'n i’n dysgu pob dim am y tro cyntaf, ac roedd y cyfan wedi’i wasgu i mewn i un flwyddyn pan mae pobl eraill yn ei wneud o dros dair blynedd,” meddai Elin.
Dywedodd fod ei hathro mathemateg, Dylan Owen, wedi bod yn help mawr, ac ychwanegodd: “Mi newidiodd fy marn i am fathemateg, gan fy annog i edrych arno fel datrys problemau yn hytrach na rhifau.”
Dywed Dylan fod Elin nid yn unig wedi datblygu ei sgiliau rhifedd ei hun, ond hefyd ei bod yn helpu cyd-ddisgyblion gyda phroblemau mathemateg - sy'n argoeli'n dda ar gyfer gyrfa fel athrawes.
Wrth enwebu Elin ar gyfer gwobr WLCOW, ysgrifennodd: “Mae ymdrech a gallu Elin wedi bod y tu hwnt i ragorol dros y tair blynedd y bu yn y coleg.
“Mae ei hymroddiad, ei brwdfrydedd a’i hawydd i ddatblygu ei hun ymhellach gyda materion rhifedd yn cael eu hadlewyrchu yn ei llwyddiant yn ennill gradd C yn ei TGAU Mathemateg y llynedd.
“Nid yn unig mae Elin wedi rhoi o’i hamser i wella ei gallu ei hun, ond trwy ddatblygu ei hyder a’i gwybodaeth ymhellach mae hi wedi gallu helpu eraill gyda’u gwaith mathemateg, sy’n sgil allweddol i ddatblygu ei gyrfa yn y dyfodol.
“Bydd ei hyder (mewn mathemateg) yn rhoi’r llwyfan gorau iddi ddysgu a gwella sgiliau rhifedd y genhedlaeth nesaf o blant ifanc yr ardal leol.”
Dywedodd Angharad ab Iorwerth, darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Fel tiwtor personol Elin, dw i wrth fy modd ei bod hi wedi llwyddo i ennill y wobr yma.
“Mae’n gydnabyddiaeth o’i chyflawniadau yma yn y coleg a’i huchelgais i gefnogi eraill fel rhan o'i gyrfa yn y dyfodol.
“Dw i'n gefnogol iawn i’r tîm sgiliau yma yn y coleg gan fy mod yn sicrhau bod y sgiliau mathemateg/rhifedd y mae’r myfyrwyr yn eu datblygu yn cael eu defnyddio yn y prif gwrs.”
Bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn y coleg, mae Elin wedi gwella o’i phroblemau iechyd, ac mae hefyd yn astudio cwrs TGAU Saesneg wrth iddi geisio ennill y cymwysterau angenrheidiol i gael ei derbyn ar gwrs gradd Addysg Gynradd.
Dywed fod y cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 wedi ei helpu i sylweddoli beth ydy ei galwedigaeth.
“Doedd gen i ddim syniad o’r dyfodol pan o'n i’n sâl,” ychwanegodd. “Ers i mi ddechrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol dw i wedi magu diddordeb mewn gweithio â phlant ifanc - dw i hefyd yn gweithio mewn canolfan chwarae meddal, a dw i wedi sylweddoli mai addysgu dw i eisiau ei wneud.”
Mae WLCOW yn ymroddedig i helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu eu doniau a’u sgiliau drwy ei raglen wobrwyo flynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal ag i brentisiaid a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.
Cafodd ei sefydlu yn 1993 fel Urdd Lifrai Cymru, i hyrwyddo addysg, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru. Yn 2013 cyflwynwyd Siarter Frenhinol i’r Urdd ac fe’i hailenwyd yn Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
Ydych chi eisiau gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o lefel mynediad hyd at lefel gradd. Dysgwch ragor yma