Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr peirianneg yn mwynhau taith addysgol i Chicago

Aeth y dysgwyr i ymweld â Phrifysgol Northwestern a’r Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant, gan hefyd wneud cysylltiadau ag Ysgol Uwchradd De Elgin gyda'r gobaith o gydweithio yn y dyfodol

Yn ddiweddar, fe wnaeth myfyrwyr peirianneg o Goleg Menai fwynhau taith addysgol i Chicago.

Cafodd y dysgwyr brofiad o fywyd ar long danfor yn yr Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant, mynd i ddarlith yn y brifysgol, ac ymweld â chwmnïau lleol.

Dysgon nhw hefyd am effeithiau newid hinsawdd, yn ogystal â mynd ar olwyn bochdew maint dyn, a mwynhau chwaraeon Americanaidd yn yr enwog Lincoln Park.

Roedd y daith ar gyfer myfyrwyr peirianneg Lefel 3, a'r darlithwyr Bryn Jones ac Iwan Roberts oedd yn gwmni iddynt. ⁠

Trefnwyd y daith ar y cyd â Matt Erbach, athro gweithgynhyrchu a pheirianneg o Ysgol Uwchradd De Elgin yn Illinois. Gweithiodd Matt a Bryn ar ddarlith am ddylunio â chymorth cyfrifiadur mewn cynhadledd ryngwladol yn Las Vegas y llynedd.

Y bwriad yw i Goleg Menai ac Ysgol Uwchradd De Elgin gydweithio ar brosiectau yn y dyfodol, a chyflwyno'r myfyrwyr i gydweithio byd-eang.

Y peth cyntaf ar yr amserlen oedd mynd ar fws to agored i weld pensaernïaeth Chicago, cyn teithio ar hyd glannau Llyn Michigan.

Meddai Bryn: “Roedden ni’n deall i’r dim pam fod Chicago'n cael ei galw’n ddinas wyntog erbyn hynny! Roedd hi’n andros o oer yng ngorllewin y ddinas ar lannau Llyn Michigan.”

Ar ôl y bod ar y bws, aethant i Barc y Mileniwm i weld cerflun enwog y Cloud Gate, a adnabyddir fel 'The Bean'.

Ar ail ddiwrnod y daith, ymwelodd y myfyrwyr â Phrifysgol Northwestern, lle cawsant daith o amgylch y gweithdai peirianneg cyn ymuno â dosbarth.

"Cawsom groeso gwych gan y staff a’r myfyrwyr yn yr adeilad Ford ym Mhrifysgol Northwestern," meddai Bryn. “Mae'r campws ei hun yn hardd gydag adeiladau arbennig yno. ⁠

“Dechreuodd y diwrnod gyda thaith o amgylch eu gweithdai. Aeth y myfyrwyr hŷn â ni o gwmpas gan sgwrsio am eu profiadau.

"Rhoddodd y myfyrwyr syniad da i ni o'r drefn, y cyrsiau a’r gweithgareddau allgyrsiol. Cafodd y grŵp hefyd fynd i ddarlith blwyddyn gyntaf, ac aeth hynny’n dda iawn.”

Ar ôl ymweld â'r brifysgol, aethant i gyfeiriad y gogledd, i Wilmette i weld Dilys Rana, llywydd diweddar y Welsh Cambrian Society yn Chicago.

Aeth Dilys, a symudodd o Sir y Fflint i Chicago 50 mlynedd yn ôl, â’r grŵp i weld pensaernïaeth tŷ addoli Baha lleol cyn eu croesawu i’w chartref.

Meddai Bryn: “Roedd Dilys, yn garedig iawn, wedi gosod bwrdd ping-pong dros dro yn ei seler ac archebu pizza tecawe i'r grŵp. Roedd hi mor groesawgar.

“Mi fydd hi’n dod yn ôl i Gymru ym mis Gorffennaf a byddai’n wych i ni roi croeso cystal iddi hi. Allen ni ddim bod wedi cael croeso gwell.”

Y diwrnod canlynol, ymwelodd y grŵp ag Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant Chicago. Yno cawsant fynd ar olwyn bochdew maint dyn, mynd ar efelychydd jet a oedd yn troi 360 gradd, a mynd ar daith James Bond a gweld y car oedd hefyd yn llong danfor, sef y Lotus Esprit o 'The Spy Who Loved Me'.

Cawsant hefyd weld cywion yn deor yn yr adran 'Bywyd', a mynd ar fwrdd llong danfor a ddaliwyd gan Lynges yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Meddai Bryn: “Cafodd y grŵp gyfle i brofi sut beth fyddai byw ar long danfor am hyd at dri mis ar y tro, profiad gwerth chweil.

“Daeth yr ymweliad â'r amgueddfa i ben gyda’r arddangosfa ‘Extreme Ice’, sy’n dangos effeithiau newid hinsawdd ar rewlifoedd o amgylch y byd. Gosododd y grŵp her ddiddorol i’w hunain – pwy allai gadw eu llaw ar ‘rewlif’ yr hiraf.”

Ddydd Sul, aeth y myfyrwyr ar daith cwch a gweld golygfeydd gwych o’r ddinas, ei hisadeiledd a’i hadeiladau, cyn gwylio’r Chicago White Sox yn colli i’r Cincinnati Reds. Yn ddiweddarach, ac wedi'u hysbrydoli gan y gêm, chwaraeodd y dysgwyr bêl-fas ym Mharc Lincoln gerllaw’r hostel. Buont hefyd yn chwarae pêl-droed Americanaidd a phêl-fasged wrth ymlacio gyda'r nos.

Ar y diwrnod olaf, aeth y grŵp i Ysgol Uwchradd De Elgin i gael 'brecwast gweithgynhyrchu', lle buont yn cyfarfod â chynrychiolwyr cwmnïau peirianneg a gweithgynhyrchu lleol. Cawsant hefyd weld yr offer uwch-dechnoleg a ddefnyddir gan fyfyrwyr yr ysgol. Ar ôl gadael yr ysgol, buont yn ymweld â chwmnïau lleol.

“Syniad y daith oedd i’r myfyrwyr gael gwell dealltwriaeth o gwmnïau gweithgynhyrchu ar raddfa fyd-eang,” meddai Bryn. “Gwelson ni sut mae America yn gwneud pethau mewn diwydiant a sut mae eu system addysg yn gweithio, sy'n gwella'r persbectif byd-eang hwnnw.

“Cawsom gyfle i weld pethau y gallwn ni gydweithio arnyn nhw, a gobeithio y bydd prosiectau yn datblygu o hyn fel y gall ein myfyrwyr weithio gyda’u myfyrwyr nhw o fis Medi ymlaen.”

Dywedodd Bryn mai'r bwriad yw i ddysgwyr o Goleg Menai, yr Unol Daleithiau a'r Almaen gydweithio ar brosiectau gweithgynhyrchu.

“Rydyn ni eisiau creu prosiect ar y cyd, a rhan o’r rheswm pam aethon ni i Chicago oedd i adeiladu’r cysylltiad hwnnw rhwng peirianneg yn Ngholeg Menai a'r ddarpariaeth gweithgynhyrchu yn Ysgol Uwchradd De Elgin,” ychwanegodd.

“Mae yna hefyd gwmni yn yr Almaen o’r enw Claus Engineering sy’n ddarparwr prentisiaethau, a’r syniad yw ein bod ni’n gwneud darnau yma, yn yr Almaen ac yn America, ac mae’n rhaid iddyn nhw i gyd ffitio gyda’i gilydd.

“Gallai fod yn rhywbeth syml i ddechrau, fel beiro. Ond mae’n gydweithrediad byd-eang, ac mae’n rhoi’r ddealltwriaeth o gydweithio ar draws gwahanol wledydd i’n myfyrwyr a allai eu helpu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Hoffech chi ddysgu rhagor am y cyffro sydd ynghlwm â pheirianneg yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau yma.