Y myfyrwyr peirianneg yn ymweld â Rehau ac Atomfa Trawsfynydd
Roedd y teithiau yn agoriad llygad i’r myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor, a ddysgodd hefyd am brofiad gwaith a chyfleoedd cyflogaeth
Ymwelodd y dysgwyr o Goleg Meirion-Dwyfor â dau bartner diwydiannol lleol eleni fel rhan o'u cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch.
Aeth y myfyrwyr o gampysau Dolgellau a Phwllheli i Rehau ym Mlaenau Ffestiniog a safle'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear yn Nhrawsfynydd – Atomfa Trawsfynydd gynt.
Mae'r ddau le yn cynnig profiad gwaith i ddysgwyr a llwybr posibl i'r amgylchedd gwaith go iawn ar ôl cwblhau eu cwrs, trwy brentisiaethau.
Cafodd y myfyrwyr eu cipolwg cyntaf ar ffatri weithgynhyrchu fodern pan ymwelon nhw â Rehau, sy'n cynhyrchu ar gyfer y sectorau moduron, adeiladu, dodrefn, deunyddiau, meddygol a diwydiannol.
Croesawodd y Rheolwr Ansawdd, Andrew Tindall, y myfyrwyr i'r ffatri, lle siaradodd y gweithwyr â nhw am y cyfleoedd gyrfa fydd ar gael ar safle Blaenau yn y dyfodol.
Dilynwyd hyn gan sesiwn friffio gyda’r Rheolwr Diogelwch Malcolm Brown. Yna cawsant daith o amgylch y ffatri gyda’r Rheolwr Logisteg, Chris McPhail, a’r Rheolwr Technegol, Dylan Roberts, i weld effaith gadarnhaol ymdrech y gwneuthurwr polymer o'r radd flaenaf i groesawu technoleg a chynaliadwyedd.
Yna cafodd y myfyrwyr gyflwyniad gan y swyddog Adnoddau Dynol, Tracey Derbyshire Robinson, ar y cyfleoedd prentisiaeth a chyflogaeth niferus sydd ar gael gyda’r cwmni i’r rhai sy’n dangos potensial ac agwedd dda at waith.
Bu Emlyn Evans, darlithydd peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, yn gweithio yn Rehau am 20 mlynedd, fel hyfforddai graddedig cyn symud ymlaen i rôl rheoli.
Meddai: “Dw i wedi ymweld â ffatri Rehau yn y Blaenau droeon dros y blynyddoedd. Mae'r gwelliannau ers i mi orffen gweithio gyda Rehau a mynd i mewn i’r sector addysg, tua phedair blynedd yn ôl, wedi creu argraff.
“Mae cadw mewn cysylltiad â chefnogi diwydiant lleol yn bwysig iawn i mi, ac mae ymweliadau fel hyn yn ein galluogi i gryfhau’r cysylltiad â’r sector addysg, sydd yn y pen draw yn cyflenwi’r peirianwyr ifanc o safon uchel i gynlluniau prentisiaeth lleol, a gwaith yn y pen draw.”
Dywedodd Andrew Tindall: "Mae Coleg Meirion Dwyfor a Grŵp Llandrillo Menai wedi datblygu talent da iawn i ni yn y gorffennol, yn cynnwys ein prentis diwethaf, Owain Cunnington, a raddiodd o Goleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau ar ôl cwblhau gradd HNC mewn Peirianneg Gyffredinol yn 2021.
“Dangosodd Owain ddawn arbennig o’r cychwyn cyntaf. Roedd ei sgiliau rheoli prosiect, sylw i fanylion ac agwedd at waith yn ei wneud yn ymgeisydd cryf iawn, felly fe benderfynon ni fuddsoddi yn nyfodol Owain gyda Rehau, ac mae ganddo bellach rôl newydd fel arbenigwr gweithgynhyrchu darbodus ar y system gynhyrchu.”
Aeth ail ymweliad y flwyddyn â’r myfyrwyr i Atomfa Trawsfynydd, sy'n cael ei dadgomisiynu ar hyn o bryd.
Yn gyntaf, cafwyd briff diogelwch gan Reolwr Peirianneg y safle, Richard Owen. Rhoddodd hefyd gyflwyniad i'r broses gynhyrchu pan oedd yr adweithyddion yn weithredol, ynghyd â'r gwaith sy'n cael ei wneud yn ystod y dadgomisiynu.
Ar ôl gwisgo hetiau caled, sbectols diogelwch, offer PPE a mynd heibio'r tîm diogelwch, aethpwyd â'r myfyrwyr o amgylch y safle i weld prosiectau amrywiol yn cael eu cyflawni, megis y gwaith paratoi i ostwng uchder to adeiladau’r adweithyddion.
Tra yno cafodd y myfyrwyr weld fideo byw o'r tu mewn i graidd yr adweithydd, wedi'i reoli’n ddiogel o bell - dim ond ychydig o bobl sydd wedi gweld hyn.
Dangoswyd iddynt hefyd sut yr oedd y gwastraff ymbelydrol yn cael ei drin gan offer robotig ac o bell, a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i dynnu'r offer i lawr a dychwelyd yr ardal i’w harddwch naturiol.
Dywedodd Noah Hutchins, darlithydd peirianneg ac arweinydd rhaglen ar gyfer y cwrs BTEC Lefel 3 yn Nolgellau a Phwllheli: “Mae'r cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch yn lwybr ardderchog ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno mynd i mewn i unrhyw faes peirianneg.
“Ym Mhwllheli a Dolgellau mae gennym amrywiaeth eang o fodiwlau sy’n cwmpasu pob agwedd ar ddisgyblaethau peirianneg, ac ynghyd â’r profiad gwaith a’r ymweliadau diwydiannol mae’n rhoi cipolwg gwerthfawr i’n dysgwyr ar gyfleoedd lleol a chenedlaethol y gallent eu dilyn ar ôl gorffen y cwrs, neu barhau â’u dilyniant i gwrs HNC yn Nolgellau.”
Ychwanegodd: “Rydyn ni hefyd yn croesawu peirianwyr a chwmnïau i ddod i gampws y coleg i roi cyflwyniadau i’n myfyrwyr.”
Os hoffai eich cwmni chi drefnu ymweliad ag adran beirianneg Coleg Meirion-Dwyfor, cysylltwch â Noah Hutchins drwy e-bost: n.hutchings@gllm.ac.uk
Ydych chi eisiau gweithio ym myd arloesol peirianneg? Mae angen rhagor o beirianwyr yng ngogledd Cymru i lenwi amrywiaeth eang o swyddi cyffrous sy’n talu’n dda. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai cliciwch yma.