Euron Jones yw Entrepreneur y Flwyddyn Grŵp Llandrillo Menai
Enillodd y myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor y wobr am ei fusnes, Ar y Brig Country Wear Ltd
Mae Euron Jones, myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor wedi ennill gwobr Entrepreneur y Flwyddyn gan Grŵp Llandrillo Menai.
Cyflwynwyd tlws a gwobr ariannol o £100 i Euron am ei fusnes, ‘Ar y Brig Country Wear Ltd’.
Mae Ar y Brig yn lein unigryw o ddillad amaethyddol fforddiadwy o safon uchel a chyda hunaniaeth Gymraeg gref i'r brand.
Mae Euron bellach yn cael ei gefnogi gan Busnes Cymru, a gwisgodd ei nwyddau Ar y Brig yn y Sioe Frenhinol er mwyn arddangos ei frand a denu busnes gan ddarpar gwsmeriaid a stocwyr.
Meddai'r gŵr ifanc 18 mlwydd oed, sy'n dilyn cwrs Busnes Lefel 3 ar gampws Dolgellau: “Penderfynais ddechrau fy musnes oherwydd fy mod i eisiau ennill profiad a gwybodaeth am sut i redeg busnes ar gyfer y dyfodol. Roeddwn i eisiau busnes lle gallwn i ddysgu o fy nghamgymeriadau a'u goresgyn yn fy musnes yn y dyfodol.
“Sylweddolais yn gynnar iawn y byddai angen i mi fod â diddordeb mawr yn y maes y byddai’r busnes yn gweithredu ynddo. Penderfynais mai'r llwybr amaeth fyddai'r gorau i mi gan ei fod yn un o'm hoff bethau.
“Dw i wedi gweld nifer o fusnesau bach yn tyfu yn y diwydiant dillad, yn gwerthu eitemau tebyg i fy musnes i, ond doedd yr un o’r busnesau hyn wedi targedu cynulleidfa Gymraeg yn fy marn i, felly roeddwn i eisiau creu lein ddillad â brand Cymreig sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru i’r Cymry.”
Dewiswyd Euron fel enillydd Gwobr Entrepreneur y Flwyddyn gan banel annibynnol o feirniaid. Cawsant eu plesio gan y ffordd y gwnaeth ei fusnes fanteisio ar y balchder diwylliannol cryf o fewn y gymuned amaethyddol yng Nghymru, gan gynnig cynnyrch fforddiadwy o safon uchel a oedd yn adlewyrchu treftadaeth ei farchnad darged.
Cyflwynwyd ei wobr iddo gan Shoned Owen, Swyddog Menter Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor.
Bu Shoned yn mentora Euron yn ei fusnes, a rhoddodd gefnogaeth hefyd pan orffennodd ef a’i gyd-fyfyrwyr Cherry Smith, Ellie Brown ac Iwan Bauld yn ail yng nghystadleuaeth Menter Sgiliau Cymru yn gynharach eleni gyda’u syniad am wrtaith ecogyfeillgar.
Dywedodd Shoned: “Dw i’n falch o fod wedi cefnogi Euron ar ei daith entrepreneuraidd. O gyflwyno sesiwn i’w gynorthwyo ef a’i dîm yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, lle daethant yn ail, i ddarparu mentora un-i-un ar gyfer ei syniad busnes ‘Ar y Brig’ a’i gyfeirio am gymorth pellach drwy Busnes Cymru, dw i’n gyffrous iawn i weld beth ddaw yn y dyfodol.”
Diolchodd Euron i'w deulu, ffrindiau a staff y coleg am ei helpu gyda'i fenter.
Meddai: “Dim ond oherwydd cefnogaeth ffrindiau, teulu a chyflogwyr y mae’r busnes yn bodoli, ac wrth gwrs y gefnogaeth y mae fy holl diwtoriaid wedi’i rhoi i mi yn y coleg a’r profiadau a gefais drwy fynychu’r cwrs busnes. Fyddai hyn heb fod yn bosibl hebddynt"
“Dw i hefyd wedi cael y pleser o gael Shoned fel fy swyddog menter, a dw i'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt yn y coleg am fy nghefnogi i a fy musnes yn ystod fy astudiaethau. Dw i’n edrych ymlaen at ddod 'nôl i’r coleg ar gyfer fy ail flwyddyn o’r cwrs busnes.”
Hoffech chi fod yn llwyddiannus mewn busnes? Cynlluniwyd ein cyrsiau busnes a rheoli i feithrin y wybodaeth, yr hyder, y sgiliau rhyngbersonol a’r sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.