Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Euron Jones yw Entrepreneur y Flwyddyn Grŵp Llandrillo Menai

Enillodd y myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor y wobr am ei fusnes, Ar y Brig Country Wear Ltd

Mae Euron Jones, myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor wedi ennill gwobr Entrepreneur y Flwyddyn gan Grŵp Llandrillo Menai.

Cyflwynwyd tlws a gwobr ariannol o £100 i Euron am ei fusnes, ‘Ar y Brig Country Wear Ltd’.

Mae Ar y Brig yn lein unigryw o ddillad amaethyddol fforddiadwy o safon uchel a chyda hunaniaeth Gymraeg gref i'r brand.

Mae Euron bellach yn cael ei gefnogi gan Busnes Cymru, a gwisgodd ei nwyddau Ar y Brig yn y Sioe Frenhinol er mwyn arddangos ei frand a denu busnes gan ddarpar gwsmeriaid a stocwyr.

Meddai'r gŵr ifanc 18 mlwydd oed, sy'n dilyn cwrs Busnes Lefel 3 ⁠ar gampws Dolgellau: “Penderfynais ddechrau fy musnes oherwydd fy mod i eisiau ennill profiad a gwybodaeth am sut i redeg busnes ar gyfer y dyfodol. Roeddwn i eisiau busnes lle gallwn i ddysgu o fy nghamgymeriadau a'u goresgyn yn fy musnes yn y dyfodol.

“Sylweddolais yn gynnar iawn y byddai angen i mi fod â diddordeb mawr yn y maes y byddai’r busnes yn gweithredu ynddo. Penderfynais mai'r llwybr amaeth fyddai'r gorau i mi gan ei fod yn un o'm hoff bethau.

“Dw i wedi gweld nifer o fusnesau bach yn tyfu yn y diwydiant dillad, yn gwerthu eitemau tebyg i fy musnes i, ond doedd yr un o’r busnesau hyn wedi targedu cynulleidfa Gymraeg yn fy marn i, felly roeddwn i eisiau creu lein ddillad â brand Cymreig sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru i’r Cymry.”

Dewiswyd Euron fel enillydd Gwobr Entrepreneur y Flwyddyn gan banel annibynnol o feirniaid. Cawsant eu plesio gan y ffordd y gwnaeth ei fusnes fanteisio ar y balchder diwylliannol cryf o fewn y gymuned amaethyddol yng Nghymru, gan gynnig cynnyrch fforddiadwy o safon uchel a oedd yn adlewyrchu treftadaeth ei farchnad darged.

Cyflwynwyd ei wobr iddo gan Shoned Owen, Swyddog Menter Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor.

Bu Shoned yn mentora Euron yn ei fusnes, a rhoddodd gefnogaeth hefyd pan orffennodd ef a’i gyd-fyfyrwyr Cherry Smith, Ellie Brown ac Iwan Bauld yn ail yng nghystadleuaeth Menter Sgiliau Cymru yn gynharach eleni gyda’u syniad am wrtaith ecogyfeillgar.

Dywedodd Shoned: “Dw i’n falch o fod wedi cefnogi Euron ar ei daith entrepreneuraidd. O gyflwyno sesiwn i’w gynorthwyo ef a’i dîm yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, lle daethant yn ail, i ddarparu mentora un-i-un ar gyfer ei syniad busnes ‘Ar y Brig’ a’i gyfeirio am gymorth pellach drwy Busnes Cymru, dw i’n gyffrous iawn i weld beth ddaw yn y dyfodol.”

Diolchodd Euron i'w deulu, ffrindiau a staff y coleg am ei helpu gyda'i fenter.

Meddai: “Dim ond oherwydd cefnogaeth ffrindiau, teulu a chyflogwyr y mae’r busnes yn bodoli, ac wrth gwrs y gefnogaeth y mae fy holl diwtoriaid wedi’i rhoi i mi yn y coleg a’r profiadau a gefais drwy fynychu’r cwrs busnes. Fyddai hyn heb fod yn bosibl hebddynt"

“Dw i hefyd wedi cael y pleser o gael Shoned fel fy swyddog menter, a dw i'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt yn y coleg am fy nghefnogi i a fy musnes yn ystod fy astudiaethau. Dw i’n edrych ymlaen at ddod 'nôl i’r coleg ar gyfer fy ail flwyddyn o’r cwrs busnes.”

Hoffech chi fod yn llwyddiannus mewn busnes? ⁠Cynlluniwyd ein cyrsiau busnes a rheoli i feithrin y wybodaeth, yr hyder, y sgiliau rhyngbersonol a’r sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.

Pagination