Evan ac Yuliia i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn EuroSkills 2025
Yn awr bydd yn rhaid i'r myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai hyfforddi'n galed ar gyfer y gystadleuaeth yn Nenmarc fis Medi
Mae Evan Klimaszewski a Yuliia Batrak sy'n fyfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai wedi cael eu dewis i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn erbyn y gorau yn Ewrop.
Byddant yn teithio i Herning yn Nenmarc ym mis Medi i gystadlu yn erbyn goreuon y cyfandir yn EuroSkills 2025.
Bydd Evan, sy'n astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol mewn Peirianneg ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, yn cystadlu yn y categori Electroneg.
Dilyn cwrs Coginio Proffesiynol Lefel 3 ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos mae Yuliia a bydd yn cystadlu yn y categori Gwasanaethau Bwyty.
Cafodd y ddau ddysgwr eu dewis gan WorldSkills UK ar sail eu llwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol.
Mae Evan ac Yuliia yn rhan o'r garfan sy'n paratoi i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth WorldSkills Shanghai 2026. Ar ôl cystadlu yn EuroSkills, byddant yn parhau i gystadlu am le yn y tîm fydd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig ar y llwyfan rhyngwladol yn China.
Ar ôl misoedd o gystadlaethau a phrosesau dewis, maen nhw'n awr yn wynebu'r cyfnod tyngedfennol olaf o hyfforddi dwys ar gyfer EuroSkills Herning 2025.
Bydd EuroSkills, cystadleuaeth sgiliau fwyaf Ewrop, yn cael ei chynnal rhwng 9 a 13 Medi. Bydd hefyd yn brawf pwysig o ba mor barod yw'r Deyrnas Unedig i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol yn WorldSkills 2026.
Mae WorldSkills UK yn defnyddio EuroSkills i hyrwyddo rhagoriaeth ym maes sgiliau ledled y Deyrnas Unedig ac i sefydlu'r safonau hyfforddi gorau posibl.
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Rydyn ni'n falch o gael cefnogi a meithrin y grŵp gwych hwn o ddysgwyr ifanc wrth iddyn nhw fynd i Ddenmarc i gystadlu.
“Mi fyddan nhw'n cael eu profi ar y lefel uchaf bosib, ac yn arddangos y sgiliau y mae cyflogwyr byd-eang yn chwilio amdanynt. Y gobaith ydi y bydd yr holl brofiad yn rhoi hwb enfawr i'w gyrfaoedd.”
Ychwanegodd: “Yn y pen draw mae EuroSkills yn brawf o ba mor gystadleuol ydi'r Deyrnas Unedig o ran sgiliau. Mae'n ein hysgogi i godi safonau gartref ac i helpu mwy o bobl ifanc i gael swyddi da.”
Pearson, y cwmni dysgu gydol oes, yw partner swyddogol Tîm y Deyrnas Unedig ar gyfer EuroSkills Herning 2025 a WorldSkills Shanghai 2026, yn dilyn eu partneriaeth lwyddiannus yn WorldSkills Lyon yn 2024.
Meddai Freya Thomas Monk, Rheolwr Gyfarwyddwr Pearson Qualifications: “Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi'r grŵp arbennig yma o bobl ifanc wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer her EuroSkills eleni.
“Mae dathlu addysg dechnegol a galwedigaethol ar ei gorau a chodi enw da'r sector yn bwysig iawn i ni. Dymunaf bob lwc i'r tîm wrth iddyn nhw baratoi i gystadlu yn Nenmarc ym mis Medi.”