Tîm Academi Pêl-droed Coleg Llandrillo yn cyrraedd ffeinal Cwpan Cymru
Bydd tîm Llandrillo'n chwarae yn erbyn tîm yr Eglwys Newydd ar ôl curo Coleg Gŵyr o 3 gôl i 2 yn eu gêm gynderfynol
Mae tîm Academi Pêl-droed Coleg Llandrillo wedi cyrraedd ffeinal Cwpan Colegau Cymru ar ôl curo Coleg Gŵyr yn eu gêm gynderfynol.
Byddant yn chwarae yn erbyn yr Eglwys Newydd yn stadiwm y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt ddydd Sul, 11 Mai.
Yn y gêm yn erbyn Coleg Gŵyr, a enillodd Llandrillo o 3 gôl i 2, fe sgoriodd Hugh Holland ddwywaith a Gruff Price unwaith.
Meddai'r prif hyfforddwr a'r darlithydd chwaraeon Matthew Williams: “Mae'r chwaraewyr yn haeddu pob clod. Mi chwaraeon nhw gêm dactegol wych, ac roedden nhw'n benderfynol o ennill.
“Rydyn ni rŵan yn edrych ymlaen at wynebu'r Eglwys Newydd yn ffeinal Cwpan Cymru yn stadiwm y Seintiau Newydd ar 11 Mai. Mae cyrraedd y ffeinal y dysteb i waith caled y chwaraewyr trwy gydol y tymor.”
Cyrhaeddodd Coleg Llandrillo'r rowndiau cynderfynol ar ôl curo tîm Coleg Menai/Coleg Meirion-Dwyfor yn y rowndiau gogynderfynol.
Mae'r ddau dîm yn chwarae yng Nghategori 1 Uwch Gynghrair Dynion yr ECFA – sef y lefel bêl-droed golegol uchaf un.
Cafodd Llandrillo dymor llwyddiannus iawn y llynedd hefyd, gan ennill dyrchafiad o Gategori 2 Pêl-droed Rhanbarth Gogledd Orllewin (De) yr EFCA i'r Uwch Gynghrair.
Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn chwaraeon, ymarfer corff a ffitrwydd? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.