Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y criw cyntaf i gwblhau’r cwrs gradd newydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r criw cyntaf i gwblhau’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Menai yn dathlu.

Mae'r cwrs Gradd Sylfaen (FdA) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'i anelu at bobl sy'n chwilio am waith neu ddyrchafiad yn y sectorau gofal iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant neu bolisi cyhoeddus a chymdeithasol.

Gall arwain at waith mewn llywodraeth leol neu genedlaethol, gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau fel y Gwasanaeth Carchardai a Shelter Cymru.

Mae'r cwrs hefyd yn rhoi sylfaen gadarn cyn mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau Gradd BA (Anrh), gan gynnwys y cwrs BA (Anrh) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Roedd criw eleni’n cynnwys Katrin Spens, Cerys Sloan, Amelia Buchanan a George Russell (yn y llun o’r chwith i’r dde).

Arhosodd y pedwar i ddilyn cwrs Gradd Sylfaen ar ôl cwblhau cwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y coleg.

Meddai'r myfyrwyr: “Bydden ni’n bendant yn argymell gwneud cwrs gradd yn y coleg oherwydd ei fod yn agos at adref a gallwch barhau â'ch bywyd tra'n ennill gradd.

“Doedden ni ddim yn siŵr beth i’w wneud ar ôl ein cwrs Lefel 3. Roedden ni eisiau symud ymlaen i gwrs lefel gradd ond heb ymrwymo i fywyd prifysgol.

“Mae hyn wedi ein galluogi i weithio a chynnal ein hunain yn ariannol wrth symud ymlaen. Mae'r cwrs wedi gweithio'n dda o'n cwmpas ni a'n ffyrdd o fyw. Rydyn ni wedi gallu ennill ein Cymwysterau Lefel 4 a 5 mewn dwy flynedd, sydd wedi ein galluogi i symud ymlaen i’r cwrs Lefel 6, y byddwn yn ei ddechrau ym mis Medi.”

Mae'r cwrs Gradd Sylfaen (FdA) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth fanwl am bolisi iechyd, cymdeithasol, gofal plant, cyhoeddus neu gymdeithasol cyfredol. Mae'r cwrs yn hyblyg a gellir ei deilwra i gyd-fynd ag ymrwymiadau eraill myfyrwyr. Caiff ei gyflwyno ar un diwrnod yr wythnos i fyfyrwyr rhan-amser a deuddydd yr wythnos i fyfyrwyr llawn amser.

Hoffech chi weithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol? Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig cyrsiau o Lwybrau i Iechyd a Gofal hyd at lefel Gradd BA (Anrh), yn ogystal â phrentisiaethau. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.