Telehandler trydan y cyntaf o'i fath yn cyrraedd Glynllifon
Fel rhan o Strategaeth Hydrogen Grŵp Llandrillo Menai, mae Coleg Glynllifon wedi cael menthyg Telehandler trydan Merlo gan gwmni GNH Agri, dyma’r Telehandler cyntaf o’i fath ym Mhrydain, a’r Coleg ydi’r sefydliad addysg cyntaf i cael defnydd ohono.
Mae strategaeth Hydrogen Grŵp Llandrillo Menai yn cynnwys -
- Cyflwyno hyfforddiant ar sut i fewnosod offer systemau hydrogen mewn cartrefi a busnesau mewn partneriaeth gyda Worcester Bosch a hynny o ganolfan Hyfforddi Carbon Sero newydd yn CIST yn Llangefni.
- Datblygu arbenigedd mewn defnyddio hydrogen ar gyfer cerbydau trwm a cherbydau personol.
- Defnyddio hydrogen i ddadgarboneiddio ei fferm yng Ngholeg Glynllifon.
- Archwilio'r posibilrwydd o wresogi'n gyfan-gwbl trwy ddefnyddio hydrogen yn rhai o brif adeiladau'r Grŵp.
- Rhaglennu sgiliau'r dyfodol ar gyfer storio, rheoli a chludo hydrogen.
Bydd Generation 0’ eWorker telehandler cwmni Merlo a’r gael i’w ddefnyddio yn y coleg am rhai wythnosau, er mwyn i staff ac i fyfyrwyr y coleg, ddod i ddysgu am ddefnydd offer o’r fath.
Mae'r eWorkerr yn ganlyniad blynyddoedd o ymchwil i ddarganfod ddatrysiad amgen i gerbydau sydd â pheiriannau tanio yn y diwydiant.
Mae Merlo yn honni eu bod wedi creu cerbydau sydd nid yn unig yn lleihau sŵn ac allyriadau, ond sydd hefyd yn cynnig lefel uchel o berfformiad.
Eglurodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Mae gan y sector addysg bellach rôl allweddol i'w chwarae mewn cwrdd â thargedau net sero'r Llywodraeth yma yng Nghymru.
"Mae'n glir y bydd, fel rhan o'r agenda i ddadgarboneiddio, galw cynyddol am hydrogen carbon isel dros y blynyddoedd nesaf.
"Rydyn ni'n awyddus i fabwysiadu technoleg hydrogen yn gynnar a pharhau i arloesi wrth i ni barhau i fynd i'r afael â newid hinsawdd.”
Dywedodd Esmor Wyn Hughes o Goleg Glynllifon.
“Mae cael treialu’r telehandler newydd trydan yma gan gwmnïau GNH Agri a Merlo wirioneddol yn gam sylweddol ymlaen i ni fel coleg, yn ein hymgais i geisio symud yr agenda amgylcheddol yn ei flaen. Mae’r peiriant yn un hawdd iawn i’w ddefnyddio, ac yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ddechrau dysgu, rŵan hyn, am y math o beiriannau fydd yn sicr o ddod yn fwy amlwg yn y maes amaethyddol yn ystod y blynyddoedd nesaf.”
This is the first telehandler of its kind in the UK, and the college is the first educational institution to get the opportunity to use it.
Merlo's telehandler Generation 0 will be available for use at the college for a few weeks, where staff and students plan to fully get to grips with the new technology.
A telehandler is a machine widely used in agriculture and industry, and is somewhat like a forklift but has a boom, making it more a crane than a forklift. The boom can be fitted with different attachments, such as a bucket, pallet forks, muck grab, or winch.
The Merlo eWorker is the result of years of research to find an alternative solution to vehicles with diesel engines within the industry. Merlo claims to have created a vehicle that not only reduces noise and emissions, but also offers a high level of performance.
The college group’s newly-launched Hydrogen strategy proposes to:
· Deliver training on the installation of domestic and commercial hydrogen systems in partnership with Worcester Bosch at the new Zero Carbon Training centre at CIST in Llangefni
· Develop expertise on the use of hydrogen for heavy and domestic vehicles
· Use hydrogen to decarbonise its farm at Coleg Glynllifon
· Investigate fully powered hydrogen heating on some of the Grŵp’s main buildings
· Introduce skills programmes for storing, managing, and transporting Hydrogen.
Dafydd Evans, Grŵp Llandrillo Menai’s chief executive explained: "We believe that the further education sector can play a major role in meeting the government's net zero targets here in Wales. It is clear, as part of the decarbonisation agenda, that there will be an increasing demand for low carbon hydrogen over the coming years. We want to be an early adopter of hydrogen technology and continue to innovate as we meet the ongoing challenges of climate change.
Esmor Wyn Hughes from Coleg Glynllifon said: "The trial of this new electric telehandler from GNH Agri and Merlo really represents a significant step forward for us as a college, in our quest to move the environmental agenda forward. It is very easy to use, and this is a great opportunity for our students to start learning now about the kind of machines that will surely become more prominent in agriculture over the forthcoming years.”