Cyn-fyfyriwr rhyngwladol, Duy, yn ymweld â'r coleg yn ystod ei fis mêl
Daeth Duy, sy’n wreiddiol o Fietnam ond bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau, â’i ŵr Jeff i Goleg Llandrillo wrth iddynt ddathlu eu priodas yn ystod taith i Lundain a Pharis.
Daeth y cyn-fyfyriwr rhyngwladol Duy â’i ŵr Jeff i weld Coleg Llandrillo pan dreuliodd y cwpl ran o'u mis mêl yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar.
Treuliodd y ddau, sy'n byw yn Seattle yn yr Unol Daleithiau, ychydig o ddyddiau yng Ngogledd Cymru wrth ymweld â Pharis a Llundain i ddathlu eu priodas.
Astudiodd Duy gyrsiau Safon Uwch mewn Busnes, Cyfrifeg a Bioleg ar gampws Llandrillo-yn-Rhos rhwng 2012 a 2014.
Aeth ymlaen i astudio cyfrifeg yn Seattle Central, ac arhosodd yn y ddinas, lle cyfarfu â Jeff.
Fe wnaethon nhw briodi flwyddyn yn ôl, felly roedd eu mis mêl yn gyfle i ddathlu pen-blwydd cyntaf eu priodas hefyd.
Ar ôl dychwelyd i gampws Llandrillo-yn-Rhos, dywedodd Duy: “Dyma’r lle cyntaf i mi ymweld ag ef y tu allan i Fietnam, felly mae llawer o atgofion yma. Roeddwn arna' i eisiau dod â Jeff yma er mwyn i mi allu dangos iddo ble roeddwn i'n astudio cyn i mi symud i'r Unol Daleithiau.
“Fe wnaeth y coleg fy helpu i ddysgu iaith newydd a dysgu am ddiwylliannau newydd, a chreu darn pwysig iawn o’r Deyrnas Unedig ynof i. Roeddwn i wrth fy modd yma - roeddwn i'n hoffi'r amgylchedd heddychlon, ac mae'r bobl yn gyfeillgar ac yn ofalgar.”
Dywedodd Jeff: “Dyma'r tro cyntaf i mi ddod i'r Deyrnas Unedig, ac mae’n braf gweld lle roedd Duy yn byw pan oedd yn astudio'i bynciau Safon Uwch. Mae’n heddychlon iawn, mae’n goleg braf.”
Tra roedden nhw yng Ngogledd Cymru, ymwelodd y pâr â'r teuluoedd o Fae Colwyn a Llandudno fu'n lletya Duy tra bu'n astudio yn Llandrillo.
“Roeddwn i eisiau dod yn ôl gydag atgofion melys i ymweld â'r teuluoedd fu'n fy lletya a gweld sut le yw'r coleg erbyn hyn,” meddai Duy.
“Fe wnaethon ni dreulio’r noson yn ymweld ag un o'r teuluoedd a gynigiodd gartref i mi, ac fe wnaethon ni sgwrsio am yr hen ddyddiau, dangos lluniau i'n gilydd a siarad am ba mor falch oedden ni i weld ein gilydd eto ar ôl 10 mlynedd.”
I gael rhagor o wybodaeth am astudio gyda Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Cewch gyflwyno cais i gyrsiau sy'n cychwyn ym mis Medi 2024 yn awr.