Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr yn cyhoeddi llyfr newydd, 'Letters from the North Pole'

Mae Annie Atkins, a astudiodd y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai ac sydd wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwyr ffilm o fri, Steven Spielberg a Wes Anderson, bellach wedi cyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant

Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Menai, Annie Atkins, wedi cyhoeddi llyfr Nadolig i blant, 'Letters from the North Pole'.

Ers astudio’r cwrs Sylfaen Celf ym Mharc Menai, Bangor, mae Annie wedi creu gyrfa lwyddiannus fel dylunydd graffeg prop ym myd ffilm.

Roedd hi’n brif ddylunydd graffeg ar ffilm glodwiw Wes Anderson, 'The Grand Budapest Hotel', a enillodd yr Oscar am y Dylunio Cynhyrchu Gorau yn 2015.

Bu Annie, o Ddolwyddelan, hefyd yn gweithio gydag Anderson ar 'Isle of Dogs' a 'The French Dispatch', ac ar ffilm gyffro Steven Spielberg, 'Bridge of Spies', ar ôl iddi ddechrau ei gyrfa ar ddrama wisgoedd y BBC, 'The Tudors'.

A nawr, gyda chyhoeddiad 'Letters from the North Pole', mae hi'n cymryd ei chamau cyntaf i mewn i fyd llyfrau plant. Yn y llyfr, mae plant o bob rhan o'r byd yn ysgrifennu at Siôn Corn, a cânt eu syfrdanu pan fydd y dyn ei hun yn ateb eu llythyrau. Gall y darllenwyr ifanc dynnu’r pum llythyr ganddo allan o’r llyfr i'w darllen.

Roedd Annie, sy’n fam i ddau fachgen ifanc, eisiau creu profiad rhyngweithiol oedd yn dal hud a dirgelwch y Nadolig, gan gyfuno ei harbenigedd mewn dylunio teipograffyddol â’i chariad at yr ŵyl.

Dywedodd: “Mae'r plant yn ysgrifennu llythyrau at Siôn Corn gyda syniadau am ddyfeisiadau ar gyfer teganau, gan obeithio y bydd o yn eu creu go iawn yn ei weithdy. Mae Siôn Corn yn ysgrifennu’n ôl at y plant gydag atebion i’w cwestiynau a hefyd yn cynnwys darluniau technegol o ddyfeisiadau’r plant a luniwyd gan ei gorachod, a’r syniad ydy y gallwch chi dynnu’r llythyrau hynny allan o’r a’u darllen.”

Trwy lythyrau Siôn Corn, datgelir byd cudd Pegwn y Gogledd, o sut y gall ceirw gysgu ar eu traed, i ba fwydydd yr hoffai Siôn Corn i'r plant adael iddo ar Noswyl Nadolig, a sut mae'n teithio o amgylch y byd mor gyflym.

Ychwanegodd Annie: “Mae pob un o’r plant yn ychwanegu ôl nodyn at ddiwedd eu llythyrau at Siôn Corn, gan gwestiynu ei logisteg uchelgeisiol ar Noswyl Nadolig. Yn ei atebion, mae Siôn Corn yn diystyru'r holl ymholiadau, yn union fel y gwnaeth eich mam neu'ch tad i chi pan oeddech chi'n chwe blwydd oed.

“Mae gen i ddau fachgen bach tair ac wyth oed, felly rydyn ni yng nghanol hud Siôn Corn. Rydw i wrth fy modd efo'r Nadolig, a ro'n i eisiau creu llyfr am Siôn Corn sy’n cadw rhywfaint o’r hud a’r dirgelwch yn fyw.

“Pan o'n i'n fach roedd Mam yn arfer dweud wrtha i nad oedd neb yn gwybod sut mae Siôn Corn yn edrych, gan nad oedd neb erioed wedi ei weld. Dydych chi ddim wir yn gweld Siôn Corn yn y llyfr, oni bai am y stampiau ar y llythyrau, felly mae'n dal yn dipyn o ddirgelwch."

Pan ofynnwyd iddi sut roedd ei bechgyn yn ymateb i’r llyfr, dywedodd Annie: “Maen nhw’n meddwl ei fod yn eitha' da. Rydw i'n deall efallai eu bod nhw'n dangos ychydig o ffafriaeth, ond dywedodd fy mhlentyn wyth oed, 'Mae hwn yn anhygoel, mae o fel llyfr go iawn!'. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i ni fynd i’w weld mewn siop lyfrau go iawn cyn iddyn nhw gredu ei fod wir yn llyfr go iawn!”

'Letters from the North Pole' yw ail lyfr Annie, yn dilyn 'Fake Love Letters, Forged Telegrams, and Prison Escape Maps', lle mae'n rhoi cipolwg ar y broses greadigol y tu ôl i ddylunio propiau graffeg ar gyfer ffilm.

Dywed mai uchafbwyntiau ei gyrfa hyd yn hyn ym myd ffilm yw 'The Grand Budapest Hotel', a gweithio i un o arwyr ei phlentyndod, y cyfarwyddwr chwedlonol Spielberg.

“Roeddwn i’n ffodus iawn i weithio ar ffilm fel 'The Grand Budapest Hotel',” meddai Annie. “Mae’n ffilm mor annwyl, ac mae hefyd yn rhoi sylw i ddylunio graffeg. Wyddwn i ddim a fyddai byth yn gweithio ar ffilm fel honno eto.”

Ychwanegodd: “Roedd gweithio ar ffilmiau Steven Spielberg yn freuddwyd llwyr. Fe wnaeth ei ffilmiau yn y 1980au a'r 90au fy siapio fel plentyn. Anturiaethau teuluol fel Jaws, E.T. a Indiana Jones ffilmiau y gallai'r teulu cyfan wylio a deall gyda'i gilydd.

“Mae’r ffilmiau hynny’n arbennig iawn. Llwyddodd Steven Spielberg i greu bydoedd mor gredadwy, a phan ddechreuais i weithio gyda fo yn ddiweddarach yn fy ngyrfa, cefais i gyfle i wneud ei fydoedd yn fwy credadwy fyth trwy'r propiau ro'n i’n eu dylunio. Roedd yn fraint enfawr.”

Mae gwaith Annie wedi mynd â hi i bob cwr o'r byd, o Wlad yr Iâ i Iwerddon lle mae hi'n byw ar hyn o bryd, o wlad ffuglennol Zubrowka yn ‘Grand Budapest Hotel’, i Efrog Newydd lle bu'n gweithio ar y ffilm 'Joker' yn 2019 .

Ond, fe ddechreuodd y cyfan iddi hi yng Ngholeg Menai ar ddiwedd y 1990au, ac mae’n dweud bod y cwrs Sylfaen Celf wedi bod yn un o’r dylanwadau mwyaf ar ei gyrfa.

“Ces i fy nysgu gan Peter Prendergast, sydd wedi bod yn un o'r dylanwadau mwyaf arnai,” meddai Annie. “Fe ddysgodd fi i dynnu llun o ddifri, ac fe ddysgodd fi i edrych ar y byd hefyd, a'r tric yna o ‘stopio edrych ar dy bensil a dy bapur’. Rydw i wedi cario hynny gyda mi ar hyd fy ngyrfa.

“Dyna beth ydy gwaith ffilm - ffordd o edrych ar y byd. Ffugio ydy llawer o waith ym myd ffilmiau. Roedd Peter Prendergast yn athro anhygoel, a dysgais lawer hefyd gan ei fab Owein, sydd yno hyd heddiw. Roedd fy nghyfnod yng Ngholeg Menai yn gwbl ffurfiannol i mi.”

  • Mae 'Letters from the North Pole' gan Annie Atkins ac a ddarluniwyd gan Fia Tobing, ar gael mewn siopau llyfrau ac ar-lein.

Ydych chi eisiau gyrfa fel artist neu ddylunydd proffesiynol? Mae'r cwrs Sylfaen Celf wedi ei gynllunio'n benodol i'ch paratoi ar gyfer dilyn cwrs Addysg Uwch a gweithio ym maes Celf a Dylunio. Cliciwch yma ⁠i gael rhagor o wybodaeth.

Pagination