Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr, Billy Holmes, ar restr fer Gwobrau Gofal Cymru

Cafodd Billy Holmes ei ysbrydoli i weithio ym maes gofal ar ôl cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi chwaraeon anabledd pan oedd yn astudio yng Ngholeg Llandrillo

Mae Billy Holmes, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, yn un o'r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gofal Cymru eleni.

Mae wedi cyrraedd y tri olaf yn y categori ar gyfer Rhagoriaeth ym maes Arwain a Rheoli mewn Gwasanaethau Cymunedol.

Mae Billy yn gweithio i MHC (UK) Ltd fel rheolwr cofrestredig Glasfryn a Garth, dau gartref i bobl ag anableddau dysgu a/neu broblemau iechyd meddwl.

Dechreuodd weithio gyda'r cwmni fel gweithiwr cymorth yn ôl yn 2013, ar ôl cwblhau ei gwrs Chwaraeon (perfformiad a rhagoriaeth) Lefel 3 ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Yn ystod sesiwn hyfforddi allgyrsiol yn y coleg taniwyd ei ddiddordeb mewn gweithio yn y sector gofal.

“Roedd y cwrs yn dda iawn,” meddai Billy, sy’n wreiddiol o Ddinbych ond bellach yn byw yn y Rhyl. “Mi wnaethom ni ddyfarniad arweinwyr tennis anabl yn ystod misoedd olaf y cwrs, a dyna'r cyswllt â'r gwaith dw i'n ei wneud rŵan.

Mi wnes i weithio gyda rhywun ag anabledd dysgu ac roeddwn i wrth fy modd. Roedd o'n gwenu ac yn chwerthin wrth chwarae tennis ac mi wnes i feddwl 'mae hyn yn deimlad braf'."

Mae Billy'n chwarae fel amddiffynnwr i Glwb Pêl-droed Tref Dinbych, a'r hyn arweiniodd Billy i ddilyn ei alwedigaeth oedd cyfarfyddiad ar hap â rheolwr y tîm ar y pryd, a oedd yn gweithio i MHC.

Dechreuodd yn y swydd fel gweithiwr cymorth, ac mae Billy wedi bod gyda’r cwmni ers hynny, gan weithio ei ffordd i fyny i fod yn arweinydd tîm a dirprwy reolwr, cyn dod yn rheolwr cofrestredig dair blynedd yn ôl.

"Mae gweithio ym maes gofal yn dod yn naturiol,” meddai Billy. “Dw i'n hoffi helpu pobl, dyna dw i'n ei fwynhau. Ond dechreuodd y cyfan o'r un sesiwn hanner diwrnod hwnnw i arweinwyr tennis anabl. Dw i'n dal i gofio am y diwrnod hwnnw, a dim ond rhywbeth wedi'i ychwanegu at y cwrs oedd o."

Mae gan Billy atgofion melys am ei ddarlithwyr yn y coleg, a dywedodd: "Hoffwn roi sylw arbennig i Rhods (Rhodri Davies) a Tuds (Tudur Morris). Roedd y ddau mor gefnogol. Maen nhw'n dal i holi sut mae pethau'n mynd pan dw i'n eu gweld."

Cafodd Billy ei enwebu ar gyfer y wobr Rhagoriaeth mewn Arwain a Rheoli ym maes Gwasanaethau Cymunedol gan ei gyd-reolwr cofrestredig Crystal Pritchard, a ddywedodd ei fod wedi bod yn gymorth mawr iddi wrth geisio darparu safon uchel o ofal.

Dywedodd Crystal: "Y trigolion mae'n eu cefnogi sy'n cael blaenoriaeth ganddo bob amser, ac mae'n canolbwyntio ar eu hanghenion yn ei waith ac yn cefnogi pob unigolyn, yn rhoi'r grym iddynt deimlo'n hyderus a mwynhau bywyd.

Mae ganddo berthynas wych gyda phob un mae'n dod ar eu traws yn ei waith ac mae gan bawb feddwl mawr ohono. Mae'n gwneud sawl aberth er mwyn cynnig cefnogaeth i breswylwyr, er enghraifft yn eu cynorthwyo ar wyliau tramor.

Mewn arolygiad dirybudd y llynedd, derbyniodd Glasfryn a Garth adborth ardderchog o ran llesiant, gofal a chymorth ac arweinyddiaeth a rheolaeth, teyrnged i waith caled ac ymroddiad Billy.

Ychwanegodd Crystal: “Bydd y Gwobr Gofal yn ddathliad gwych o’i gyflawniadau, yn ogystal â chydnabod yr holl waith caled y mae'n ei wneud bob dydd a'r effaith gadarnhaol mae hynny'n ei gael ar bawb o’i gwmpas.”

Dywedodd Gemma Jennings, Cyfarwyddwr Gweithrediadau MHC: “Rydw i wrth fy modd bod ymroddiad, gwaith caled ac ymrwymiad Billy yn cael eu cydnabod gan y gwobrau - enghraifft wych o werthoedd MHC.”

Mae rhai o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Billy wedi'u mabwysiadu nid yn unig mewn cartrefi MHC eraill, ond ledled Cymru drwy Fforymau Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Billy'n edrych ymlaen at y noson wobrwyo yng Ngwesty Holland House Caerdydd ar 18 Hydref. Noddir y digwyddiad gan Ontex Healthcare a bydd y cyflwynydd teledu a radio Jason Mohammad yn arwain y noson.

Dywedodd Mario Kreft MBE, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru: “Ein nod ydy cydnabod ymroddiad diflino a hynod ein harwyr a’n harwresau di-glod ar reng flaen y maes gofal cymdeithasol ledled Cymru.

“Mae'r sector gofal yn llawn o bobl wych oherwydd nid swydd yn unig mohoni, mae'n alwedigaeth - dyma'r bobl sydd yn sefyll allan yn ein cymdeithas.

“Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i godi proffil gweithlu’r sector gofal – maen nhw'n haeddu pob clod.

“Mae’n bleser anrhydeddu cyfraniad pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Dylai pob un ohonynt fod yn falch iawn o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni.”

Mae Gwobrau Gofal Cymru, a drefnir gan Fforwm Gofal Cymru, yn cydnabod gwaith eithriadol yn y sector gofal.

I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Gofal Cymru, ewch i walescareawards.co.uk

Pagination