Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyrsiau rhifedd am ddim ar gael yr haf hwn gyda phrosiect Lluosi

Gall pobl yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych wella eu gallu i ddefnyddio rhifau trwy gael gwersi ar ddefnyddio ffrïwr aer, dosbarthiadau gwaith coed, sesiynau crefft a llawer mwy

Gwersi airfryer, dosbarthiadau saer coed, a gweithdai prynu eich cartref cyntaf - dim ond rhai o'r dosbarthiadau rhifedd AM DDIM sy'n cael eu cynnig yr haf hwn gan y ⁠Cynllun Lluosi ⁠ar y cyd â Grŵp Llandrillo Menai.

Rhifedd Byw - Mae prosiect Lluosi yn helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd, gan gynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.

Yr haf hwn, mae pobl eisioes wedi gwella eu sgiliau rhif gyda Lluosi trwy gymryd rhan mewn dosbarthiadau gwnïo, bingo, glanhau traeth, sesiynau origami a chyda gweithgareddau yn Sioe Llanrwst.

I fod yn gymwys ar gyfer y cyrsiau Lluosi rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn, a bod yn byw o fewn siroedd Gwynedd, Dinbych, Conwy neu Ynys Môn.

Mae manylion am y cyrsiau sydd ar gael ym mhob sir isod:

GWYNEDD

Dywedodd Megan Price, Cydlynydd Cwricwlwm Lluosi Gwynedd: “Dros y gwyliau mae gennym ni bethau hwyliog yn digwydd mewn lleoliadau cymunedol ac yn y coleg ei hun.

“Mae'r ffocws ar bethau mwy ymarferol fydd yn gwneud pobl yn brysur. Bydd cyfle iddynt ddefnyddio eu dwylo a defnyddio mathemateg mewn ffordd ddifyr.”

Ymhlith y cyrsiau sy'n cael eu cynnig yng Ngwynedd mae:


Ceir rhestr bellach o ddyddiadau a lleoliadau ar y dudalen archebu.

SIR DDINBYCH

Mae perthnasoedd cryfach yn cael eu creu gyda busnesau a sefydliadau o amgylch Sir Ddinbych hefyd, gyda chyrsiau mewn hyder rhifedd a sgiliau bywyd hanfodol wedi eu teilwra.

Bydd cwrs Blossom & Bloom “Helpu Eich Plentyn Gyda Mathemateg - Ysgol Gynradd” yn rhedeg ar Awst 15, 22, a 29 (1pm tan 3pm).⁠

Dywedodd Alex Carter, Cydlynydd Ymgysylltu Sir Ddinbych: “Mae’r cwrs hwn ar gyfer rhieni sydd efallai’n ei chael hi’n anodd deall yr hyn sy’n cael ei ddysgu mewn gwersi mathemateg, ac sy'n teimlo na allant helpu eu plentyn gyda gwaith cartref a gweithgareddau allweddol eraill.

“Rydym yn eu helpu i ddeall yr hyn sy'n cael ei addysgu ar y cwricwlwm mathemateg ac, yn bwysicach, sut mae'n cael ei ddysgu - bydd hyn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu plentyn."

SIR CONWY

Mae Sir Conwy yn gweithio gydag ysgolion i blethu'r ymarferol â'r mathemategol mewn gweithdai i'r teulu cyfan.

Dywedodd Joseph Mark Lloyd-Jones, Cydlynydd Sir Conwy: “Mae’r prosiect yn ymdrechu i hybu hyder pobl o bob cenhedlaeth mewn rhifedd, a hynny yn y gymuned leol.

“Gobeithio y gallwn ni gael pawb i ymwneud â rhywbeth sy’n berthnasol i’w bywydau bob dydd.”

Mae Ysgol Eirias ac Ysgol-y-Foryd wedi cynnal nifer o gyrsiau Lluosi, gan gynnwys sut i redeg busnes bach, helpu plant gyda'u gwaith cartref mathemateg, a hyd yn oed defnyddio Airfryer ar gyllideb. ⁠ ⁠ ⁠

YNYS MÔN

’Weldio, gwaith saer, plymio a mecaneg ceir sylfaenol - dyma i chi rai o’r gweithdai sydd â gogwydd “DIY” at fathemateg sy'n cael eu cynnal yn ddiweddarach yr haf hwn.⁠

Dywedodd Alaw Jones, Cydlynydd Ynys Môn: “Drwy'r prosiect rydym eisiau dod â rhifedd i mewn i rai gweithgareddau difyr. Yn aml, rydych chi'n cael pobl sy'n cael eu dychryn gan rifedd, felly mae cynnig dull mwy ymarferol yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr."

Bydd yr ynys hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddosbarthiadau coginio a chrefftau syml gan gynnwys coginio ar gyllideb, coginio gyda phlant, a macramé.

“Mae’n ffocysu ar y teulu i gyd, gan roi sgiliau coginio a chadw at gyllideb i’r ddwy genhedlaeth. Yn amlwg yn yr hinsawdd rydyn ni ynddi ar hyn o bryd mae'r rhain yn hanfodol.”

Gall unigolion hefyd weithio tuag at gymhwyster Lefel 2 (TGAU neu gymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn 'Cymhwyso Rhif') i'w helpu symud ymlaen i astudiaethau pellach neu gyflogaeth. Bydd y cyrsiau'n cael eu hariannu'n llawn gan brosiect Lluosi.

Gellir darparu'r gefnogaeth ar sail 1:1, i grŵp bach neu ystafell ddosbarth, a gall weithio o amgylch ymrwymiadau teuluol, gwaith ac ati.

Mae Lluosi yn gweithio gydag unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau trydydd sector, ysgolion, a busnesau bach a mawr. Mae hyblygrwydd y prosiect yn golygu y gellir teilwra cymorth ar gyfer anghenion unigol neu anghenion grŵp.

Mae cynnwys y cyrsiau yn eang ac yn hyblyg, a gellir cynnal sesiynau Lluosi yn ystod yr wythnos, gyda'r nos neu ar benwythnosau.

Mae prosiect Lluosi wedi ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.⁠ Mae Grŵp Llandrillo Menai'n arwain prosiect Lluosi yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Hoffech chi wella eich sgiliau mathemateg? ⁠I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lluosi, cliciwch yma.

I wneud cais, gyrrwch neges e-bost at multiply@gllm.ac.uk, ffoniwch 01492 542 338 neu cwblhewch y ffurflen ar-lein.