Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr o Goleg Menai'n datgloi cyfrinachau'r bydysawd

Mae Peter Jenkins, yn dechrau ar brentisiaeth Peirianneg gyda Daresbury Laboratory, cwmni sy'n enwog ar draws y byd am eu hymchwil ar wyddoniaeth cyflymu

Bydd Peter Jenkins yn helpu gwyddonwyr i ddatgloi cyfrinachau’r bydysawd pan fydd yn dechrau'r brentisiaeth gyda’r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC).

Mae Peter, sy'n 19 oed ac yn dod o Gaergybi ar fin dechrau gweithio fel peiriannydd yn Labordy Daresbury STFC, cwmni sy’n enwog yn fyd-eang am ei ymchwil i wyddoniaeth cyflymu – un o ffiniau mwyaf cyffrous yr 21ain ganrif.

Mae Peter newydd gwblhau blwyddyn gyntaf Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.

Fel rhan o’i gwrs, bu’n gweithio ar y reid Oblivion yn Alton Towers, a chymhwysodd ar gyfer rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK mewn Roboteg Ddiwydiannol. Yn ogystal â hynny enillodd Peter y wobr Peirianneg yng Ngwobrau Cyflawnwyr blynyddol y coleg.

Bydd yn treulio blwyddyn rŵan yn astudio gyda STFC, cyn dechrau creu rhannau ar gyfer labordai cyflymu gronynnau ar draws y byd.

Meddai Peter: “Mae'r flwyddyn gyntaf yn waith coleg yn unig, yna byddaf yn symud ymlaen i fecatroneg sy'n gymysgedd rhwng peirianneg fecanyddol ac electronig.

"Unwaith y bydda i'n gweithio yn Labordy Daresbury mi fydda i'n gweithio gyda pheiriannau CNC, yn peiriannu rhannau ar gyfer gwahanol gyfleusterau ledled y byd, fel CERN (The European Organisation for Nuclear Research), DUNE (The Deep Underground Neutrino Experiment) a FermiLab (labordy ffiseg gronynnau UDA).

"Mi fydda i hefyd yn helpu i ddylunio’r rhannau hyn i’w gwneud yn fwy effeithlon. Mi fydda i'n ennill llawer o brofiad o gydosod a phrofi gwahanol rannau, ac efallai y bydda i'n helpu i'w gosod."

Mae Labordy Daresbury yn Swydd Gaer yn gartref i dimau o wyddonwyr o STFC a phrifysgolion amrywiol sy'n cynnal ymchwil mewn gwyddoniaeth cyflymu.

Mae gwyddoniaeth cyflymydd yn cynnwys cyflymyddion gronynnau, fel y Gwrthdarwr Hadron Mawr yn CERN. Mae'r dyfeisiau hyn yn cyflymu'r gronynnau sy'n ffurfio pob mater yn y bydysawd ac yn eu gwrthdaro â'i gilydd neu i mewn i darged, gan ganiatáu i wyddonwyr astudio'r gronynnau hynny a'r grymoedd sy'n eu siapio.

Mae’r ddisgyblaeth wedi sicrhau mantais allweddol mewn meysydd fel y frwydr yn erbyn canser, chwilio am ynni glanach, gwyrddach a’n dealltwriaeth o’r bydysawd.

Mae gyrfa gyffrous yn dod i Peter, a ddaeth o hyd i'w lwybr gyrfa ar ôl newid cyfeiriad i gofrestru yng Ngholeg Menai.

“Mi roddais i gynnig ar y chweched dosbarth am ddwy flynedd ond doedd o ddim i mi,” meddai Peter. “Roeddwn i'n meddwl fy mod yn rhy hen i ystod oedran y coleg ond mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn, mae wedi bod yn anhygoel.

"Mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn ac eisiau fy ngwthio cymaint ag y gallant. Mae wedi bod yr un peth i bawb, maen nhw wir eisiau i bawb wneud eu gorau.”

Un o uchafbwyntiau’r cwrs i Peter oedd ei leoliad gwaith yn Alton Towers, a oedd yn cadarnhau ei uchelgais i weithio ym maes peirianneg.

Meddai: “Mi wnes i gysgodi peirianwyr ar wahanol reidiau, gan eu helpu gyda gwaith cynnal a chadw peirianyddol a helpu i atgyweirio cerbydau reidio a gwneud gwiriadau diogelwch. Roeddwn i'n gweithio ar Oblivion yn bennaf, ac fe wnes i helpu gyda Skyride hefyd.

"Mae llawer o bwysau ar y peirianwyr pan mae pobol wedi bod yn ciwio am oriau am reidiau! Ond roedd yn ddiddorol iawn - mi wnaeth gadarnhau mai peirianneg ydy'r hyn rydw i eisiau ei wneud.”

Rhagorodd Peter mewn cystadlaethau sgiliau yn ystod ei gyfnod yn y coleg, ynghyd â'i gyd-fyfyriwr, Sion Elias.

Fe enillon nhw arian yn yr adran Roboteg Ddiwydiannol yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ym mis Chwefror, cyn mynd un yn well yng ngemau rhagbrofol rhanbarthol WorldSkillsUK, gan ennill eu rhagras i gymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol cenedlaethol mis Tachwedd.

Yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, bu'n rhaid i Peter a Sion ddefnyddio braich robotig i symud casgenni gwastraff diwydiannol yn ddiogel o un paled i'r llall, a'u hanfon i lori heb unrhyw ryngweithio dynol.

Yn y gêm ragbrofol WorldSkills UK, cawsant y dasg o symud silindr o un paled i’r llall ac yna drwy ddrysfa, heb gyffwrdd ag ochrau’r ddrysfa. Nhw oedd yr unig gystadleuwyr yn eu rhagras a lwyddodd i gyflawni’r dasg heriol a chymhleth.

Dywedodd Peter: “Fe helpodd fi gyda gweithio dan bwysau. Mae yna lawer o bobl yn eich gwylio chi ond allwch chi ddim gofyn unrhyw gwestiynau iddyn nhw, ac fe helpodd hynny fi i ddeall does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth yn wahanol, does dim rhaid i chi newid unrhyw beth pan fyddwch chi'n gweithio dan bwysau.”

Ydych chi eisiau gweithio ym myd arloesol peirianneg? Mae angen rhagor o beirianwyr yng ngogledd Cymru i lenwi amrywiaeth eang o swyddi cyffrous sy’n talu’n dda. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai cliciwch yma.

Pagination