Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hyfforddiant Adnewyddadwy ac Ôl-osod wedi ei Ariannu'n Llawn - Cyfle Olaf i Ymgeisio

Ychydig wythnosau'n unig sydd gan gwmnïau yng Ngwynedd i gofrestru ar gyfer hyfforddiant sgiliau ym maes datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy ac ôl-osod, wedi'i ariannu'n llawn cyn i'r cyllid ddod i ben

Mae Hyfforddiant Net Sero Training Gwynedd yn brosiect a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) sy’n galluogi unigolion a chwmnïau yng Ngwynedd i gael mynediad i hyfforddiant am ddim yn Nhŷ Gwyrddfai, Penygroes.

Darperir yr hyfforddiant gan CIST (Canolfan Seilwaith, Sgiliau a Thechnoleg) ac mae’n cynnwys sgiliau ym maes datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys inswleiddio waliau allanol, gosod a chynnal a chadw paneli solar, gosod systemau sy'n pwmpio gwres o'r ddaear ac o'r aer a systemau storio batri gyda chynlluniau i ehangu'r ddarpariaeth wrth i dechnolegau newydd ddatblygu.

Mae'r prosiect wedi cael ei groesawu, gyda thua 70 o gwmnïau wedi cofrestru ar gyfer hyfforddiant, a thros 100 o unigolion eisoes wedi derbyn hyfforddiant.

Un o’r cwmnïau sydd wedi elwa o Hyfforddiant Net Sero Training Gwynedd yw Get Carter UK 365.

Mae'r cwmni wedi gweld galw cynyddol am ynni adnewyddadwy yn y sector eiddo domestig a'r sector eiddo masnachol. I fodloni'r galw, cafodd y cwmni hyfforddiant mewn technolegau solar thermol a phympiau gwres ynghyd â rheoliadau yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni a dŵr.

Wrth siarad am y prosiect dywedodd Paul Carter: “Rydym yn bendant yn gweld cynnydd yn y galw am ynni adnewyddadwy mewn cartrefi yn ogystal â mewn eiddo masnachol sy'n cael ei yrru gan yr angen i leihau costau ac arbed arian yn y tymor hir wrth i brisiau ynni godi.

“Dw i bob amser yn awyddus i ddatblygu sgiliau felly roedd yn gwneud synnwyr i’r busnes gymryd rhan yn y cynllun. Wrth i’r galw gynyddu am ffyrdd mwy cynaliadwy o wresogi cartrefi, ro'n i eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gallu ateb y galw yn ogystal â chadw i fyny â thechnoleg. Dw i'n rhedeg busnes, ac yn y pen draw dw i eisiau bod yn gystadleuol.”

I gael gwybod sut y gallwch chi a'ch busnes elwa cysylltwch â cist@gllm.ac.uk neu ewch i https://www.gllm.ac.uk/cy/cist