Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lluosi yn helpu’r GIG i ddod o hyd i'r fformiwla gywir

Tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal cwrs Excel i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddysgu sut i ddefnyddio taenlenni'n effeithiol

Cafodd staff y GIG gyfle i ddysgu sut i feistroli taenlenni diolch i gwrs 'Excel i'r Gweithle' gan Lluosi.

Cynhaliodd Tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai ddosbarthiadau ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol o ledled siroedd Conwy, Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn dros gyfnod o dair wythnos yn un o unedau’r GIG ym Mharc Menai, Bangor.

Gwnaeth y tiwtor, Stephen Jones, drafod gwaith mathemategol, trefnu a chreu graffiau, fformiwlâu amodol a mwy wedi'u teilwra i leoliad gofal iechyd.

Trefnwyd y dosbarthiadau ar ôl i Nicola Meades, Uwch Ymarferydd Prosiect Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gysylltu â Lluosi.

Meddai: "Rydw i wedi defnyddio Excel yn fy ngwaith ers amser maith, ac rydw i'n tueddu i'w ddefnyddio bob tro y mae angen i mi gasglu rhywfaint o ddata. Ond mae gen i lawer o gydweithwyr nad ydyn nhw'n gyfforddus yn ei ddefnyddio, felly rydw i wedi bod yn chwilio am hyfforddiant Excel iddynt ers peth amser.

“Mi ddywedodd y Tîm Lluosi wrthyf, 'Yn y bôn, gallwn addasu'r hyfforddiant i'r hyn sydd ei angen arnoch'. Felly roedd yr hyblygrwydd hwnnw yno, ac yna mi ddywedodd y tîm, 'Gallwn ni ddod atoch chi', wnaeth eto ei gwneud hi'n haws fyth.

“Efallai eich bod chi'n meddwl na fyddai angen Excel ar nyrsys. Ond, mae’n berthnasol ac yn bwysig iawn, ac fe addasodd Stephen yr hyfforddiant i weddu i’r byd nyrsio.”

Er ei bod wedi defnyddio Excel ers amser maith, dywedodd Nicola fod y dosbarthiadau wedi dysgu ffyrdd mwy effeithiol iddi o ddefnyddio'r feddalwedd.

Ychwanegodd: “Roedd Stephen yn gallu rheoli ein lefelau sgiliau a’n dysgu ni i gyd yn effeithiol. Felly roedd yn dda iawn, roedd yn wych.

“Roedd yn athro cefnogol iawn, ac yn ddigynnwrf ac roedd yn gallu teilwra'r hyfforddiant i'r lefel gywir, yn dibynnu ar bwy roedd yn addysgu ar y pryd. Roedd yn enghraifft dda iawn o diwtor i oedolion.

“Roedd pawb a gymerodd ran wrth eu bodd. Rydw i mor falch fod popeth wedi cael ei gyflwyno mewn modd hawdd i'w ddeall, mae wir wedi helpu pobl i fagu hyder i drin rhifau."

Dywedodd Clare Hookham, Rheolwr Tîm Gwasanaeth Diogelu Iechyd y GIG: “Mae Excel yn un o'r adnoddau hynny sy'n gallu eich arwain i feddwl, 'Sut ar wyneb y ddaear mae defnyddio hwn i wneud gwaith rhifedd?'

“Mae yna lawer o elfennau mathemateg. Mi allai wneud y pethau syml, ond wrth droi at bethau mwy cymhleth roedd angen i mi ofyn am ragor o help.

“Mae’r cwrs hwn wedi datblygu fy sgiliau Excel yn llawer pellach nag yr oeddwn erioed wedi disgwyl. Byddaf yn gallu gwneud llawer mwy fy hun rŵan ar ôl cwblhau'r cwrs.”

Dywedodd y Tiwtor Lluosi, Stephen Jones ei fod yn falch o allu rhoi yn ôl i’r GIG, ychwanegodd: “Roedd yn bleser gweithio gyda’r dysgwyr heddiw ar ein cwrs ‘Excel i’r Gweithle’. Rydym wedi gallu codi eu hyder wrth ddefnyddio Excel (a rhywfaint o fathemateg) yn achlysurol ac mewn modd proffesiynol.

“Mae helpu’r GIG yn rhoi boddhad personol i mi ar ôl blynyddoedd heriol iawn i'r gwasanaeth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eu gweld nhw’n defnyddio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu, a helpu eraill yn y GIG sy'n ei chael yn anodd defnyddio rhifedd neu daenlenni.”

Ariannwyd Lluosi gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. ⁠Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi arwain ar y prosiect Lluosi yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn ers ei sefydlu ym mis Medi 2023, gan helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd.

⁠Gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect Lluosi, mae Potensial, sef brand dysgu gydol oes Grŵp Llandrillo Menai, yn ymgysylltu ag ysgolion cynradd lleol ar draws gogledd Cymru fel rhan o gynllun dysgu fel teulu sy’n cefnogi rhieni i helpu eu plant gyda gwaith cartref. ⁠ Mae'r rhaglen dysgu fel teulu hefyd yn cynnig cyrsiau megis coginio a chyllidebu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Potensial, neu cysylltwch â:

  • Gwynedd ac Ynys Môn: communitymenai@gllm.ac.uk 01248 370 125
  • Conwy a Sir Ddinbych: enquiries.cdpotensial@gllm.ac.uk 01492 546 666

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date