Tîm Academi Rygbi Merched y coleg yn drydydd ar ddiwedd eu tymor cyntaf
Daeth tîm rygbi merched Grŵp Llandrillo Menai'n agos iawn at gyrraedd rownd derfynol Cyngres Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru
Daeth tîm rygbi merched Grŵp Llandrillo Menai'n drydydd drwy Gymru ar ddiwedd eu tymor cyntaf erioed yng nghyngres ysgolion a cholegau Cymru.
Sefydlwyd yr academi yn ystod yr haf eleni ac mae'n cynnig cyfleoedd i ferched o bob cwr o ogledd Cymru i ddilyn cyrsiau academaidd a chwarae rygbi ar y lefel uchaf.
Daeth y tîm yn drydydd yng Nghyngres Ysgolion a Cholegau Cymru - y lefel uchaf oni bai am rygbi rhanbarthol i ferched rhwng 16 a 18 oed, a hynny er gwaetha'r ffaith mai dim ond ers tri mis mae'r tîm wedi hyfforddi gyda'i gilydd fel grŵp.
Cyrhaeddodd y tîm y rownd cyn derfynol yn erbyn Coleg y Cymoedd, ond colli oedd eu hanes 20 - 24 mewn gêm gystadleuol.
Roedd y tîm o ardal Caerdydd ar y blaen 19 - 0 yn gynnar iawn yn y gêm ond brwydrodd y merched o'r gogledd yn ôl gan chwarae rygbi disglair i fynd ar y blaen 20-19.
Ond daeth Coleg y Cymoedd yn ôl gyda chas ar ddiwedd y gêm, dim lle yn y rownd derfynol i ferched y gogledd ond trydydd safle haeddiannol iawn ar ddiwedd eu tymor cyntaf.
Meddai Andrew Williams, Cydlynydd Academi Rygbi Coleg Llandrillo a'r prif hyfforddwr Andrew Williams said: “Rydw i'n eithriadol o falch bod y tîm wedi dod mor bell mewn cyn lleied o amser!
Ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, roedden ni'n canolbwyntio ar roi rhaglen rygbi yn ei le a chynnig llwybr oedd yn caniatáu i ferched lwyddo'n academaidd ac ar y cae rygbi.
Wnaethon ni byth ddychmygu y bydden ni mor agos â hyn at y rownd derfynol. Mae'r hyn mae'r merched wedi'i gyflawni fel grŵp yn arbennig, ac roedd safon y gêm yn erbyn Coleg y Cymoedd yn dangos canlyniad y gwaith caled.
Mae'r grŵp wedi paratoi'r ffordd i ferched eraill sy'n chwarae rygbi yng ngogledd Cymru ac wrth i ni barhau i ddatblygu'r academi mi fydd merched eraill o'r rhanbarth yn elwa ohono."
Mae'r academi merched yn cynnwys myfyrwyr o Goleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, yn ogystal â merched o ysgolion lleol.
Mae'n gyswllt rhwng y coleg a’r Ganolfan Datblygu Chwaraewyr (PDC) ym Mharc Eirias, gan greu llwybr i symud ymlaen i chwarae i Rygbi Gogledd Cymru (RGC) ac o bosibl i dîm dan 18 Cymru.
Mae chwaraewyr yn derbyn hyfforddiant technegol, tactegol a hyfforddiant fesul safle, yn ogystal â sesiynau cryfder a chyflyru yng nghampfa academi Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.
- Daeth tîm rygbi bechgyn Grŵp Llandrillo Menai'n chweched yng Nghyngres Genedlaethol A Ysgolion a Cholegau Cymru, haen uchaf rygbi i golegau yng Nghymru. Maen nhw wedi dal eu gafael ar le yn yr adran honno ar gyfer y tymor nesaf ar ôl curo Caerdydd a'r Fro 29 - 10 yn y gemau ail gyfle.
Hoffech chi gyfuno eich astudiaethau â hyfforddi a chwarae i academi rygbi Grŵp Llandrillo Menai? Anfonwch neges e-bost at willia18a@gllm.ac.uk i gael gwybod rhagor