Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Buddugoliaeth drawiadol i dîm rygbi merched yr academi yn eu gêm gyntaf erioed

Fe enillodd tîm merched Grŵp Llandrillo Menai o 67 i 21 yn erbyn Coleg Caerdydd a'r Fro yn eu gêm gyntaf yng Nghyngres Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru

Yn eu gêm gyntaf erioed, enillodd academi rygbi merched Grŵp Llandrillo Menai 67-21 yn erbyn Coleg Caerdydd a'r Fro

Cynhaliwyd y gêm hanesyddol ym Marc Eirias ym Mae Colwyn a dyma'r tro cyntaf i dîm rygbi merched o'r coleg gynrychioli Gogledd Cymru mewn cystadleuaeth 15 bob ochr.

Sgoriodd Lois Owen, Leah Thomas, Saran Jones, Lucy Powell, Elsi Jones, Izzy Jones a Mabli Grieves-Owen geisiadau i Grŵp Llandrillo Menai, gyda Saran Griffiths yn sgorio pump trosgais.

Dywedodd Andrew Williams, Cydlynydd yr Academi Rygbi: “Dyma'r gêm gystadleuol gyntaf i academi rygbi merched y coleg. Mae'r Academi'n gyfle i ferched rhwng 16 a 18 oed yng Ngogledd Cymru chwarae'r gêm ar y lefel uchaf bosibl i ysgolion a cholegau.

“Mae gennym ni chwaraewyr o bob un o golegau'r Grŵp, yn amrywio o ferched sy'n chwarae i RGC a Chymru i ferched sydd wedi cael cyfle i chwarae am y tro cyntaf ac wedi gwirioni ar y gêm.

“Mae'r tîm yn cystadlu ar lefel genedlaethol yng Nghynghrair Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru Rydyn ni wedi gweld faint o gyfleoedd mae bechgyn yr Academi wedi'u cael yn ystod y 10 mlynedd diwethaf wrth i ni weithio mewn partneriaeth â RGC a chwarae ar lefel gystadleuol uwch.

“Mae'n bwysig iawn bod merched yn cael yr un cyfleoedd, ac mae'n ddatblygiad cyffrous i'r gêm yng Ngogledd Cymru.”

Dywedodd Samantha McIlvogue, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo: “Mae heddiw'n garreg filltir bwysig i Goleg Llandrillo, y Grŵp a'n cymuned ehangach.

“Nid yn unig mae chwaraewyr yn Academi yn dangos dawn athletaidd, ond maen nhw hefyd yn ymgorffori brwdfrydedd ein myfyrwyr. Trwy gymryd rhan yn y llwybr rygbi rhanbarthol maen nhw'n dangos ymroddiad i lwyddo ar y lefel uchaf. Mae eu brwdfrydedd a'u parodrwydd i weithio mewn tîm yn werth ei weld, ac rydyn ni fel coleg yn edrych ymlaen at eu cefnogi.”

Cynghrair Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru yw'r lefel gystadlu uchaf oni bai am rygbi rhanbarthol ar gyfer y grŵp oedran 16-18.

Mae'r Academi’n gyswllt rhwng y coleg a’r Ganolfan Datblygu Chwaraewyr ym Mharc Eirias, ac yn creu llwybr i symud ymlaen i chwarae i Rygbi Gogledd Cymru (RGC) ac o bosibl i dîm dan 18 Cymru.

Bydd chwaraewyr yn derbyn hyfforddiant technegol a thactegol a hyfforddiant i chwarae mewn gwahanol safleoedd, yn ogystal â sesiynau cryfder a chyflyru yng nghampfa academi Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Hoffech chi ymuno ag academi rygbi merched Grŵp Llandrillo Menai? I gael gwybod rhagor, cysylltwch ag Andrew Williams, Cydlynydd yr Academi ar willia18a@gllm.ac.uk