Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Glynllifon yn cael eu cydnabod yng ngwobrau Lantra

Cafodd Harvey Houston, Chelsea Lawrence, Cian Rhys a Hari Prys Jones eu canmol am ddangos uchelgais ac ymroddiad ym maes diwydiannau'r tir

Mae pedwar o fyfyrwyr Glynllifon wedi cael eu cydnabod yng ngwobrau blynyddol Lantra Cymru.

Roedd Harvey Houston, Chelsea Lawrence, Cian Rhys a Hari Prys Jones ymysg y rhai a gafodd eu hanrhydeddu yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod.

Dilyn y cwrs Lefel 3 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth yng Nglynllifon mae Harvey a Chelsea, tra bod Cian a Hari ill dau'n dilyn y cwrs Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth.

Mae Gwobrau Lantra Cymru'n cydnabod menter, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd a'r tir.

Roedd Harvey, Cian a Hari yn gydradd ail am Wobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn – 20 oed ac iau.

Cyn-gogydd crwst yw Harvey ac mae wrth ei fodd yn gweithio yn yr awyr agored ym myd natur yn hytrach na mewn ceginau masnachol. Yn ogystal â dod i'r coleg, lle mae’n sgorio’n gyson uchel mewn arholiadau a phrofion synoptig, mae'n gweithio i gwmni rheoli cefn gwlad lleol a'i cyflogodd ar ôl iddo wneud argraff arnynt pan aeth yno ar brofiad gwaith.

Uchelgais hirdymor Harvey yw sefydlu ei fusnes rheoli cefn gwlad ei hun.

Meddai beirniaid Lantra Cymru: “Mae Harvey eisoes wedi cyflawni cymaint, gan ddangos uchelgais a pharodrwydd i weithio'n galed. Edrychwn ymlaen at glywed am ei lwyddiant yn y dyfodol.”

Cian Rhys yw'r ail genhedlaeth yn ei deulu i ffermio bîff a defaid a'i uchelgais yw bod yn arwerthwr da byw.

Y llynedd cafodd ei ddewis ar gyfer Rhaglen Iau Academi Amaeth Cyswllt Ffermio sy'n darparu cyfleoedd i bobl ifanc yn y diwydiant bwyd neu amaeth rwydweithio, mynd ar brofiad gwaith neu gael eu hyfforddi a'u mentora.

Roedd agwedd iach Cian tuag at waith a’i benderfyniad a'i hyder wedi gwneud argraff ar y beirniaid: “Mae Cian yn defnyddio’r wybodaeth y mae wedi’i dysgu am bynciau fel iechyd anifeiliaid a thechnoleg gwybodaeth er budd ei yrfa ei hun yn ogystal â’i fferm deuluol a’r ffermwyr eraill y mae’n gweithio gyda nhw.”

Mae Hari'n benderfynol o leihau ôl troed carbon fferm bîff, defaid a thir âr y teulu, lle mae ef a’i dad yn lapio byrnau gyda deunydd clir, yn mynd ati’n rhagweithiol i leihau gwastraff ac yn defnyddio system bori cylchdro. Mae ganddo ei ddiadell ei hun o 50 o ddefaid Texel Glas pedigri y mae’n eu dangos yn genedlaethol ac yn lleol, ar ôl dechrau gyda dwy famog gyfoen yn unig.

Mae'n gobeithio y bydd ei astudiaethau yng Ngholeg Glynllifon yn ei arwain i’r brifysgol ac at yrfa a fydd yn cyfuno ffermio â swydd fel rheolwr fferm neu arwerthwr.

Rhoddodd y beirniaid glod uchel i Hari am ei agwedd uchelgeisiol a phositif ac am wneud defnydd o'r wybodaeth a'r sgiliau newydd y mae'n eu dysgu.

Cafodd Chelsea ‘Glod Uchel’ yng Ngwobr Dysgwr y Flwyddyn – 21 oed a hŷn.

Daeth o hyd i yrfa berffaith oedd yn ei galluogi i gyfuno'i chyfrifoldebau fel rhiant sengl â rhedeg cymuned ysgol goedwig lwyddiannus i blant rhwng 2 a 14 oed.

Yn ddiweddarach sefydlodd Chelsea fusnes fel saer coed a chrefftwr cyffredinol, gan werthu dodrefn wedi’i wneud o goed lleol, gweithio ar adnewyddu eiddo a gwneud gwaith coed. Gan eu bod yn llawn edmygedd o Chelsea, rhoddodd y felin lifio lle'r oedd hi'n prynu ei choed swydd iddi.

Rhoddodd y beirniaid glod uchel i Chelsea am ei huchelgais a'i hawydd i barhau i ddatblygu'n broffesiynol er mwyn cael prentisiaeth gobeithio ym maes ecoleg.

Meddai Gerwyn Williams, rheolwr maes rhaglen addysg diwydiannau'r tir yng Nglynllifon: “Rydyn ni'n hynod falch fod pedwar o’n dysgwyr wedi cael eu cydnabod yng ngwobrau Lantra Cymru ym mis Ionawr eleni.

“Mae Harvey, Chelsea, Cian a Hari wedi cael eu cydnabod am eu perfformiad rhagorol a’u potensial i symud y diwydiannau amaethyddiaeth a choedwigaeth yn eu blaenau.

“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn tystio i’r uchelgais a’r ymroddiad a ddangoswyd ganddynt yn eu gyrfaoedd hyd yma, a dymunwn bob llwyddiant iddynt wrth iddyn nhw barhau i astudio gyda ni yng Nglynllifon.”

Campws diwydiannau'r tir, sy'n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Coleg Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon. Mae fferm Glynllifon yn 300 hectar, ac yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheolaeth cefn gwlad ac amaethyddiaeth. I ddysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date