Moch Glynllifon yn Cyrraedd yr Uchelfannau yn y Ffair Aeaf
Mae myfyrwyr a staff yr adran Astudiaethau Anifeiliaid wedi bod yn magu moch traddodiadol prin a oedd bron â diflannu ugain mlynedd yn ôl
Yn ddiweddar, cipiodd y moch 'Oxford Sandy and Black' o Goleg Glynllifon yr ail wobr (Reserve Champion) yn y gystadleuaeth i foch traddodiadol yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.
Mae myfyrwyr a staff yr adran Astudiaethau Anifeiliaid yng Nglynllifon wedi bod yn magu’r moch ers tair blynedd bellach.
Roedd y brîd bron â diflannu mor ddiweddar ag 20 mlynedd yn ôl, felly roedd yn foment fawr i’r adran ennill eu categori yn un o’r sioeau stoc gorau yn Ewrop.
Dywedodd Sian Thomas, darlithydd mewn astudiaethau anifeiliaid: “Roedd yn fraint gallu dangos y moch da rydyn ni'n eu cynhyrchu yng Ngholeg Glynllifon.
“Mae ailddechrau ffermio'r brîd yma ym Mhrydain wedi bod yn daith hir ac anodd. Felly roedd yn braf iawn llwyddo yn y Ffair Aeaf.
“Rydyn ni wedi bod yn cadw moch Oxford Sandy and Black ers rhai blynyddoedd erbyn hyn, ac mae'r myfyrwyr wedi mwynhau gweithio gyda nhw'n fawr. Maen nhw'n anifeiliaid hyfryd, ac yn addfwyn iawn eu natur. Mae cael ein cyhoeddi'n bencampwyr yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn anrhydedd fawr i ni fel coleg.”
Brîd domestig o Brydain yw'r 'Oxford Sandy and Black' ac mae'r moch yn adnabyddus am eu marciau arbennig, eu natur addfwyn a'u gallu i fagu'n dda. Ar ben hynny, mae'r cig a gynhyrchir ohonynt yn flasus tu hwnt ac o ansawdd uchel.
Drwy'r rhan fwyaf o'r 20fed ganrif roedd y niferoedd yn isel iawn – ac roedd ambell flwyddyn yn yr 1940au pan na chofrestrwyd mwy nag un baedd newydd.
Mae myfyrwyr y cwrs Lefel 3 mewn Rheoli ym maes Anifeiliaid yn mwynhau magu'r moch, a dyma oedd gan Rebecca Hughes i'w ddweud: “Rydw i wrth fy modd yn gweithio efo'r moch oherwydd rydan ni'n cael cyfle i'w trin nhw a phrofi pethau newydd fel canfod beichiogrwydd. Mi wnes i wenu pan glywais i'r sŵn whoosh oedd yn cadarnhau bod Cynthia'n feichiog!"
Dywedodd Lois Chapman: “Dw i'n mwynhau pob elfen o'r gwaith ymarferol efo'r moch. Dw i wedi cael profiad o drin nhw, tagio a phwyso'r moch, canfod a ydyn nhw'n feichiog a dewis pa foch sy'n ddigon safonol i'w cadw. Mi ges i gyfle hyd yn oed i olchi a pharatoi dau o'r moch ar gyfer y Ffair Aeaf.”
Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn denu torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod o gystadlu, dathlu a siopa Nadolig, gyda’r Neuadd Fwyd yn orlawn o nwyddau gan gynhyrchwyr gorau Cymru.
Mae adran Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol Coleg Glynllifon yn datblygu sgiliau a gwybodaeth ym maes iechyd a lles anifeiliaid, hyfforddi anifeiliaid, magu anifeiliaid, maetheg anifeiliaid, paratoi anifeiliaid a rheoli busnes.
Hoffech chi weithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid? I ddysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael yng Nglynllifon, cliciwch yma.