Golau Gwyrdd i Brosiect Arloesol gwerth £19m fydd yn Diogelu Sector Twristiaeth Gogledd Cymru at y Dyfodol
Mae Uchelgais Gogledd Cymru a Grŵp Llandrillo Menai wedi arwyddo cytundeb cyllid gwerth £4.43m a fydd yn datgloi buddsoddiad o £19m mewn hyfforddiant a chyfleusterau trosglwyddo gwybodaeth o safon fyd-eang ar draws pum lleoliad yng Ngogledd Cymru.
Bydd y Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn creu rhwydwaith o gyfleusterau arbenigol wedi’u neilltuo ar gyfer prentisiaethau, cymorth sgiliau arbenigol, ymgysylltu helaeth â busnesau bach, a rhaglen allgymorth gynhwysfawr i ysgolion.
Gyda chyfraniad o £4.43m gan Fargen Twf Gogledd Cymru, bydd y prosiect yn chwyldroi sut mae sgiliau twristiaeth a lletygarwch yn cael eu cyflwyno yn y rhanbarth, gan osod Gogledd Cymru yn arweinydd ym maes twristiaeth gynaliadwy ac arloesi o fewn lletygarwch.
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn arwain y fenter ar y cyd ag amrywiaeth o fusnesau 'Lloeren', sy'n cynnwys Portmeirion a Zip World. Bydd dwy loeren arall yn cael eu penodi yn ddiweddarach eleni, ac mae partneriaethau strategol yn cynnwys Snowdonia Hospitality and Leisure, a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd.
Nod y prosiect yw darparu hyfforddiant wedi'i dargedu, arloesi, a chymorth i fusnes i godi safonau ansawdd, ac i hyrwyddo twristiaeth a lletygarwch fel dewis gyrfa gynaliadwy, ddymunol ar draws cymunedau Gogledd Cymru.
Nodwedd arbennig o’r prosiect fydd datblygu canolfan hyfforddi arbenigol (hwb) ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos. Bydd hon yn cael ei hariannu'n rhannol gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol). Bydd yr hwb yn cysylltu â chyfleusterau hyfforddi arbenigol ar safleoedd y 'Lloerennau', a bydd yn cael cefnogaeth gan wasanaethau cefnogi hyfforddiant Grŵp Llandrillo Menai.
Bydd y prosiect hefyd yn ymgysylltu â busnesau lleol ac ysgolion ar draws Gogledd Cymru, gan sicrhau bod hyfforddiant wedi'i deilwra, ac sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, yn cael ei ddarparu yn unol ag anghenion y sector twristiaeth sy'n esblygu'n gyson.
Meddai Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol Grŵp Llandrillo Menai;
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cwblhau'r cytundeb ariannu terfynol ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Mae’r fenter hon yn deillio o bartneriaeth anhygoel, sy’n cydnabod rôl hanfodol ac apêl unigryw sector twristiaeth a lletygarwch Gogledd Cymru. Mae cyllid y Fargen Twf wedi bod yn gatalydd, ac wedi datgloi buddsoddiad preifat a chyhoeddus sylweddol a fydd yn helpu i ysgogi twf cynaliadwy yn y sector.
“Bydd y prosiect hwn yn gwella ansawdd, yn creu swyddi, ac yn rhoi hwb i amlygrwydd cyfleoedd gyrfa ym maes twristiaeth ar draws Gogledd Cymru. Gall y model o bartneriaethau rydym wedi’i ddatblygu fod yn gynllun ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion sgiliau mewn sectorau eraill, gan helpu i sicrhau llwyddiant economaidd hirdymor yn y rhanbarth.”
Eglurodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
“Rydym yn falch o gefnogi’r fenter arloesol hon — y gyntaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn gam hollbwysig yn y broses o greu economi mwy gwydn a chynaliadwy ar gyfer Gogledd Cymru. Trwy ganolbwyntio ar ddatblygiad gyrfa o fewn twristiaeth, byddwn yn sicrhau bod diwylliant, amgylchedd a thirwedd y rhanbarth yn cael eu defnyddio mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy.
“Bydd tua 100 o fusnesau twristiaeth a lletygarwch yn y rhanbarth yn elwa o'r buddsoddiad o £19m mewn addysg a hyfforddiant, gan greu 68 o swyddi newydd, a chefnogi 250 o brentisiaethau.”
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio,
“Bydd y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn adeiladu ar y sgiliau a'r arbenigedd o safon fyd-eang sydd eisoes yn bodoli yn sector twristiaeth Gogledd Cymru. Bydd sefydlu canolfannau hyfforddi arbenigol yn rhoi sylfaen gynaliadwy ar gyfer twf yn y dyfodol a manteision hirdymor i'r rhanbarth.
“Gyda buddsoddiad o £120m gan Lywodraeth Cymru drwy Fargen Twf Gogledd Cymru, bydd y prosiect hwn yn chwarae rhan ganolog wrth drawsnewid yr economi leol.”
Ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffith,
“Mae twristiaeth yn ganolog i economi Gogledd Cymru, gan ddenu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn. Mi fydd y prosiect hwn yn darparu hyfforddiant hanfodol, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i ffynnu yn y sector twristiaeth a lletygarwch. Mae buddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym Margen Twf Gogledd Cymru yn tanlinellu ein hymrwymiad i dyfu’r economi ranbarthol a chreu gwell cyfleoedd gyrfa.”
Bydd y Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn canolbwyntio ar ddiogelu’r diwydiant ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys trawsnewid digidol, cynaliadwyedd amgylcheddol, a chadwraeth iaith a diwylliant. Mae ymgynghori helaeth eisoes wedi sicrhau y bydd y prosiect yn mynd i'r afael ag anghenion uniongyrchol a hirdymor y sector, a disgwylir i bartneriaid o'r sector preifat ymuno â'r fenter yn fuan.
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor am y Rhwydwaith Talent Twristiaeth.