Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Medalau i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn rowndiau terfynol Worldskills UK

Roedd Evan Klimaszewski o Goleg Menai ymhlith y chwe dysgwr o Grŵp Llandrillo Menai a enillodd fedalau yn y digwyddiad ym Manceinion

Enillodd chwe dysgwr o Grŵp Llandrillo Menai fedalau Worldskills UK yn y rownd derfynol ym Manceinion.

Enillodd Evan Klimaszewski o Goleg Menai fedal aur dros Grŵp Llandrillo Menai yn y categori electroneg ddiwydiannol.

Enillodd Siôn Elias a Peter Jenkins (Coleg Menai) fedal arian yn y categori roboteg ddiwydiannol, ac enillodd Clare Sharples, Carwyn Littlewood a Lauren Harrap-Tyson (Busnes@LlandrilloMenai) fedal arian yn y categori technegwyr cyfrifeg.

Derbyniodd Heather Wynne o Goleg Llandrillo 'Gymeradwyaeth Uchel' yn y categori trin gwallt ac roedd Lucas Jackson (Turnio CNC) ac Iwan Nicklin (electroneg ddiwydiannol) hefyd yn cystadlu.

Cawsant eu dewis ar ôl gorffen ymhlith yr wyth uchaf mewn rowndiau rhanbarthol a gynhaliwyd ledled y Deyrnas Unedig.

Yn dilyn eu llwyddiant, gallai'r myfyrwyr a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol dderbyn gwahoddiad i ymuno â rhaglen hyfforddi a datblygu rhyngwladol Worldskills UK gyda'r cyfle i gael eu dewis i gynrychioli'r DU yn WorldSkills Shanghai 2026.

Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Rydym yn falch iawn o gyflawniad pob un o'n dysgwyr yn rowndiau terfynol Worldskills UK.

“Mae cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn gyflawniad yn ei hun, ac yn brawf o'u hymroddiad a'u gwaith caled, o safon yr addysg maen nhw'n ei gael gyda Grŵp Llandrillo Menai ac o'r gefnogaeth arbennig gan eu darlithwyr.

“Mae'r ffaith bod chwech o'n dysgwyr wedi ennill medalau ar lefel genedlaethol yn rhagorol. Mae pob un o'r dysgwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn destun balchder i Grŵp Llandrillo Menai, a gobeithio y gwelwn ni'r dysgwyr yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig yn Shanghai 2026.”

Mae Rowndiau Terfynol WorldSkills UK yn uchafbwynt i naw mis o waith caled a hyfforddi i'r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan ynddynt. Mae'r cystadlaethau'n asesu'r nodweddion mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ac yn cynnwys sgiliau ymarferol, y gallu i weithio o dan bwysau, i feddwl yn feirniadol a sgiliau cyfathrebu.

Meddai Jacqui Smith, Gweinidog Sgiliau'r DU: "Llongyfarchiadau i bawb oedd yn rhan o'r gystadleuaeth arbennig hon eleni. ⁠Mae pob un ohonoch wedi arddangos doniau arbennig ac addewid gweithlu'r dyfodol.

⁠”Mae cystadlaethau fel WorldSkills UK yn bwysig iawn, maen nhw'n meithrin doniau ac yn rhoi llwyfan bwysig i bobl ifanc ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i fanteisio ar gyfleoedd a datblygu ymhellach.

“Diolch yn fawr iawn i'r beirniaid, y mentoriaid a'r trefnwyr am yr holl waith caled a'r ymroddiad i gynnal y digwyddiadau. Mae eich gwaith caled yn ysbrydoli ac yn grymuso'r genhedlaeth nesaf.”

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau enillwyr y medalau eleni. Mae cyrraedd y brig yn eich sgil yn gyflawniad arbennig ac yn dysteb i ymroddiad eich darlithwyr yn ein colegau a'n prifysgolion ac eich darparwyr hyfforddiant, sy'n ganolog i'r system datblygu sgiliau yn y DU.

“Mae ein rhaglen hyfforddi sy'n seiliedig ar gystadlaethau â dealltwriaeth fyd-eang, yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o godi safonau addysgu ac asesu ym maes addysg dechnegol.

“Rydym ar flaen y gad yn hyrwyddo sgiliau newydd gyda'n partneriaid yn y diwydiant ac ym maes addysg, sgiliau sy'n hanfodol i dwf busnesau a buddsoddiad yn y DU."

I weld rhestr lawn yr enillwyr yn rowndiau terfynol WorldSkills UK 2024, cliciwch yma.