Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn ffurfio partneriaeth gyda Maethu Cymru i gefnogi gofalwyr maeth

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd a chyffrous gyda Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu'r awdurdodau lleol. Y bwriad yw hybu eu hymrwymiad i gefnogi gofalwyr maeth a’r plant maent yn gofalu amdanynt gan wella'r cymorth sydd ar gael i’w gweithwyr eu hunain yr un pryd.

Yn ystod y pythefnos gofal maeth hwn mae Grŵp Llandrillo Menai, y coleg mwyaf yng Nghymru, wedi cyhoeddi ei ymrwymiad i gefnogi staff sydd hefyd yn darparu gofal maeth i'r sector nid-er-elw trwy gynnig gwyliau ychwanegol iddynt gyda thâl. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ofalwyr maeth i ymateb i unrhyw argyfyngau a all godi yn sgil y maethu.

Gyda dros 5000 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru ar hyn o bryd, mae galw ar gyflogwyr i gynnig hyblygrwydd i ofalwyr maeth allu cyfuno maethu â gwaith arall.

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu Cenedlaethol, mae bron i 40 y cant o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall. Gall cael cyflogwr cefnogol wneud byd o wahaniaeth i deuluoedd sy’n maethu, gan eu galluogi i gydbwyso cyflogaeth gyda maethu plant.

Mae cefnogaeth cyflogwr hefyd yn helpu’r rhai sydd â diddordeb mewn maethu i gymryd y cam cyntaf.

Meddai Jamie Clegg, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Grŵp Llandrillo, Menai: "Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymroi i wella dyfodol pobl. Does dim ffordd well o wneud hyn na drwy gefnogi'r rhai sy'n rhoi eu hamser i gynnig cartref a chymorth i'r rhai sydd mewn mwyaf o angen. Mae maethu'n rhoi diogelwch i blant ac yn rhoi cyfle i rieni biolegol gael yr help sydd ei angen arnynt."

Yn ôl un gofalwr maeth sy'n gweithio i'r Grŵp: "Mae'r hyblygrwydd ychwanegol mae GLlM yn ei roi i mi fel gofalwr maeth yn golygu bod dim rhaid i mi boeni am waith ar ben popeth arall pan fydd argyfyngau'n codi gyda fy mhlant maeth."

Ychwanegodd Meinir Llwyd Bebb, Swyddog Marchnata Rhanbarthol Maethu Cymru yng ngogledd Cymru: "Rydyn ni'n hynod falch o’r bartneriaeth newydd hon gyda Grŵp Llandrillo Menai ac yn diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad i gefnogi gofal maeth yng ngogledd Cymru.

"Wrth i'r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae estyn allan at gyflogwyr lleol i fod yn gyfeillgar i faethu yn un o blith llawer o bethau rydyn ni'n eu gwneud i gefnogi ein gofalwyr maeth yng ngogledd Cymru.

"Pan fydd plant yn aros yn gysylltiedig, yn aros yn lleol a bod ganddyn nhw rywun i’w cefnogi am y tymor hir, rydyn ni’n gwybod ein bod yn gweld canlyniadau gwell. Felly, os gall cyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i gadw mewn cysylltiad â’u gwreiddiau ac yn y pen draw, eu cefnogi i gael dyfodol gwell."

Mae gan Maethu Cymru nod uchelgeisiol o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc leol.

I nodi Pythefnos Gofal Maeth, roedd gan Maethu Cymru stondinau ar gampws Coleg Menai yn Llangefni ddydd Iau 14 Mai ac ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos ddydd Mercher 15 Mai i rannu gwybodaeth am faethu i'r staff a'r myfyrwyr.

I gael gwybod rhagor am ddod yn ofalwr maeth yng ngogledd Cymru, ewch i: maethucymru.llyw.cymru/gogleddcymru/

I ddysgu rhagor am ddod yn gyflogwr cyfeillgar i faethu yng Nghymru, ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/gweithio-a-maethu/