Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

⁠Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn Sicrhau eu Lle yn Rowndiau Terfynol cystadleuaeth WorldSkills UK

Bydd deuddeg o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn cystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol Worldskills UK ym mis Tachwedd!

Bydd Yuliia Batrak, Timur Aisin, Holly Whitehouse a Kayleigh Hampson, sy'n fyfyrwyr Coleg Llandrillo, yn ymuno â Ryan Griffiths, Leighton Owen, Osian Roberts, Evan Klimaszewski, Adam Hopley, Eva Voma, Michal Lowisz a Gethin Jones o Goleg Menai, yn rowndiau terfynol y DU, fydd yn cael eu cynnal mewn colegau, darparwyr hyfforddiant annibynnol a phrifysgolion.

Byddant yn cael y cyfle i gystadlu am le i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn y 'Gemau Olympaidd Sgiliau' a gynhelir yn Shanghai, Tsieina, yn 2026.

Cyrhaeddodd y myfyrwyr y rowndiau terfynol cenedlaethol, sy’n cael eu cynnal rhwng y 14eg a’r 17eg o Dachwedd, ar ôl creu argraff mewn cyfres o gystadlaethau rhanbarthol heriol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau.

Bydd Yuliia a Timur yn cystadlu yn The Manchester College, lle bydd Timur yn dangos ei sgiliau yn y gystadleuaeth Celf Ddigidol 3D, a Yuliia yn cystadlu yn y categori Gwasanaeth Bwyty.

Bydd Holly a Kayleigh yn teithio i Goleg Trafford ar gyfer Rowndiau Terfynol Trin Gwallt, a Ryan a Leighton yn cystadlu mewn Roboteg Ddiwydiannol ar safle FANUC yn Coventry.

Mae Evan, Michal ac Adam wedi cyrraedd rownd derfynol Industrial Electronics yng Ngholeg Wigan a Leigh. Mae Osian yn mynd i Goleg Tameside i gystadlu yn y gystadleuaeth Turnio CNC, a bydd Eva Voma yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol Gweithgynhyrchu Ychwanegion ym Mhrifysgol Salford.

Mae rowndiau terfynol Weldio yn cael eu cynnal yn Rochdale Training, lle bydd myfyriwr Coleg Menai Gethin yn rhoi ei sgiliau ar brawf.

O’r 442 o fyfyrwyr a phrentisiaid o bob rhan o’r DU a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol, yn drawiadol mae 112 yn dod o Gymru – mwy nag un o bob pedwar.

Byddant yn cystadlu am fedalau aur, arian ac efydd, gyda mwy na 50 o rowndiau terfynol WorldSkills UK yn cael eu cynnal mewn naw lleoliad yn ystod mis Tachwedd.

Uchafbwynt y cystadlaethau fydd seremoni ddathlu yn ardal Manceinion, lle bydd yr enillwyr yn cael eu cydnabod fel y gorau yn eu maes.

Yn ogystal â’r cystadlaethau difyr, bydd cystadleuwyr ac ymwelwyr yn cael y cyfle amhrisiadwy i ymgysylltu â chyflogwyr ac arbenigwyr diwydiant am gyngor ac arweiniad gyrfa yn ystod y digwyddiadau.

Bydd cyfle i'r rhai na fyddant yn gallu mynd i'r digwyddiad ym Manceinion wylio darllediad arbennig ar-lein yn dangos rhannau o'r rowndiau terfynol yn ogystal â chyfweliadau a chyngor gan enillwyr blaenorol, arbenigwyr a chynghorwyr gyrfaoedd.

Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

“Rydym yn hynod falch o'n dysgwyr sydd wedi rhagori ac wedi ennill eu lle yn rowndiau terfynol WorldSkills y DU ym mis Tachwedd.

“Mae cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn gyflawniad gwych, sy’n dyst i’w gwaith caled, eu hymroddiad, a’r gefnogaeth ddiwyro gan eu darlithwyr ymroddedig. Pob lwc i bawb!"

Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru,

"Hoffwn longyfarch y cystadleuwyr o Gymru sydd wedi cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol. Fedrwn i ddim bod yn fwy balch bod cymaint o bobl ifanc dawnus yn cynrychioli Cymru a'n gweithlu medrus.

“P’un a yw pobl yn dilyn y digwyddiadau wyneb yn wyneb neu ar-lein, gobeithiwn y bydd y rowndiau terfynol yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i gymryd rhan a datblygu eu sgiliau eu hunain i'r safonau uchaf yn y byd.

"Pob lwc i'r holl gystadleuwyr yn y rowndiau terfynol gen i a Thîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru. Da iawn, pawb!”