Grŵp Llandrillo Menai yn Datgelu Tîm Arwain Newydd i Siapio Llwyddiant yn y Dyfodol
Mae Grŵp Llandrillo Menai, y sefydliad sy’n cwmpasu Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor, a Busnes@LlandrilloMenai, wedi datgelu tîm arwain newydd a fydd yn gyrru ei weledigaeth yn ei blaen ac yn cryfhau ei ymrwymiad i ragoriaeth addysgol ar draws y rhanbarth.
Y Prif Weithredwr ydy Aled Jones-Griffith, a benodwyd i'r rôl dros yr haf. Mae dau Bennaeth newydd yn ymuno ag o ar yr uwch dîm rheoli; Dr Siôn Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor a Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo.
Cyn ymuno â’r coleg fel Pennaeth, roedd Siôn yn gweithio fel Arolygydd i Estyn ers 2016. Yn ystod ei gyfnod gyda’r arolygiaeth, roedd cyfrifoldebau Siôn yn cynnwys gweithio fel un o’r arweinwyr sector ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16, arwain adolygiad thematig Estyn o bartneriaethau ôl-16 ar draws Cymru, a bu’n cyflawni amryw o rolau arweiniol eraill gan gynnwys cyd-arwain adroddiad blynyddol Estyn.
Roedd Paul Flanagan yn Gyfarwyddwr Addysg Uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai cyn cael ei benodi'n bennaeth eleni. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ysgogodd nifer o fentrau strategol o fewn y sefydliad, yn benodol ym maes gwella canlyniadau dysgwyr, hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant, a meithrin arloesedd ar draws cwricwlwm a gwasanaethau’r coleg
Ymunodd Gwenllian Roberts, cyn Gyfarwyddwr Ofwat Cymru a chyn Brif Swyddog Rhanbarthol Gogledd Cymru yn Llywodraeth Cymru â Busnes@LlandrilloMenai fel Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol ym mis Ionawr 2024.
Mae James Nelson wedi dal swydd Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd ers 2017, ac ymunodd Sharon Bowker â Grŵp Llandrillo Menai yn 2022 fel Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol.
Mae’r tîm arwain newydd yn camu i’w rolau yn dilyn adroddiadau arolygu hynod gadarnhaol gan Estyn ym maes Addysg Bellach ac ym maes Addysg Gymunedol i Oedolion, sy’n rhoi sylfaen gadarn i ysgogi cyfleoedd yn y dyfodol ac adeiladu ar safon uchel y ddarpariaeth addysgu.
Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
“Fel tîm, rydym yn edrych ymlaen at arwain y gwaith o gyflwyno gwerthoedd ac ymddygiad newydd Grŵp Llandrillo Menai, a gwthio ein gweledigaeth o wella dyfodol pobl yn ei blaen.
Rydw i hefyd yn awyddus i sicrhau bod Grŵp Llandrillo Menai yn parhau i fod yn ddarparwr allweddol yng Nghymru ym maes addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, a hefyd esblygu ein darpariaeth i gwrdd â’r galw cynyddol.”
Ychwanegodd, “Yn ogystal â hynny, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cwblhau datblygiad campws newydd Bangor, sydd wedi'i leoli ar Barc Menai. Wrth edrych i’r dyfodol, mae ein cynlluniau i ddatblygu campysau Coleg Meirion-Dwyfor dros y 10 mlynedd nesaf yn rhai cyffrous iawn. Bydd y datblygiadau yn gwella ein harlwy addysgol yn sylweddol ac yn gwasanaethu ein cymunedau lleol yn well.”