Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gêm gyntaf rhwng timau academi Grŵp Llandrillo Menai

Buddugoliaeth i dîm Coleg Menai/Coleg Meirion-Dwyfor dros Goleg Llandrillo

Cynhaliwyd y gêm gyntaf rhwng timau academi pêl-droed Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar.

Daeth buddugoliaeth i dîm Coleg Menai/Coleg Meirion-Dwyfor dros Goleg Llandrillo o 2 - 1 ar gampws Llandrillo-yn-Rhos yng nghystadleuaeth Uwch Gynghrair 2 ECFA i ddynion.

Sgoriodd Byron Davies a Richard Harri Jones dros Menai/Meirion-Dwyfor a rhwydodd Joel Giblin gôl i Landrillo.

Dyma'r tro cyntaf i’r ddwy ochr chwarae ei gilydd yn Uwch Gynghrair Dynion ECFA (Cymdeithas Pêl-droed Colegau Lloegr) 2, ar ôl i Landrillo gael dyrchafiad i bêl-droed Categori 1 am y tro cyntaf.

Cyn hynny roedd y colegau’n chwarae fel academi ar y cyd Grŵp Llandrillo Menai, ond ffurfiwyd tîm Llandrillo ar wahân i roi cyfle i fwy o fyfyrwyr gynrychioli eu coleg.

Cafodd tîm Llandrillo dymor llwyddiannus y llynedd yn y gynghrair yn adran Pêl-droed Rhanbarthol Dynion (De) y Gogledd Orllewin, Categori 2 ECFA, gan ennill dyrchafiad i'r un adran â'u cymheiriaid Menai/Meirion-Dwyfor.

Roedd hi'n gêm agos iawn rhwng y ddwy ochr mewn darbi rhyng-Grŵp ar y cae 3G yn Llandrillo-yn-Rhos yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Marc Lloyd-Williams, arweinydd rhaglen chwaraeon a chydlynydd academi Coleg Menai/Coleg Meirion-Dwyfor: ⁠“Coleg Llandrillo oedd yn mynd â hi yn ystod yr hanner cyntaf o ran meddiant.

"Mi wnaethon ni newid pethau ar hanner amser, newid ein ffurfiant a’r ffordd roedden ni’n chwarae, ac mi dalodd hynny ar ei ganfed. Roedd hi'n gêm dda, yn gystadleuol.”

Ychwanegodd Matthew Williams, darlithydd chwaraeon a phrif hyfforddwr academi Llandrillo: “Roedd hi’n gêm gystadleuol rhwng y ddau goleg. Doedd dim byd i wahanu'r ddau dîm.

"Rydyn ni'n chwarae yng nghategori 1 felly mae’n gam i fyny yn gorfforol o’r tymor diwethaf, ond mae grŵp newydd o chwaraewyr ar y tîm felly mi fyddwn ni’n gwella wrth i’r tymor fynd rhagddi.”

Mae myfyrwyr yr Academi Bêl-droed yn cael gwersi rhwng 9am a 2.30pm ar y tri diwrnod maen nhw’n cael eu rhyddhau ar gyfer sesiynau hyfforddi sy'n cynnwys elfennau dadansoddi, cryfder a chyflyru, yn ogystal â hyfforddiant technegol a thactegol.

Mae myfyrwyr yn elwa ar y cyfleusterau campfa a chanolfan chwaraeon o’r radd flaenaf ar gampysau Llandrillo-yn-Rhos a Llangefni, yn ogystal â defnydd o gymhorthion dadansoddi fel festiau GPS, camerâu Veo a llawer rhagor.

I gael rhagor o wybodaeth am Academi Bêl-droed Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.