Yr Academi Ddigidol Werdd yn cyflymu busnes Hufen Iâ tuag at ddyfodol Sero Net
Mae’r Academi Ddigidol Werdd, prosiect sy’n cefnogi busnesau Gogledd Cymru i leihau eu heffaith amgylcheddol, trwy ddadansoddi eu hôl troed carbon ac annog datgarboneiddio a digideiddio wedi cefnogi mwy na 50 o gwmnïau hyd yn hyn.
Ymhlith y rhai hynny sydd wedi elwa o’r prosiect mae cwmni hufen iâ wedi ei leoli ym Modorgan, fel mae Helen Holland o Môn ar Lwy yn ei esbonio:
“Rydan ni’n awyddus i wneud gwahaniaeth ac i leihau effaith ein busnes ar yr hinsawdd. Rwyf wedi cael mewnwelediad go iawn i’r hyn y gellir ei wneud a’r dechnoleg y gallwn ei rhoi ar waith i wneud Môn ar Lwy yn fusnes gwirioneddol gynaliadwy ac ecogyfeillgar. Dyma ddechrau ein taith ac rydym wedi elwa’n fawr o’r gefnogaeth a’r cyngor rydym wedi ei dderbyn drwy’r Academi Ddigidol Werdd.”
Mae’r Academi Ddigidol Werdd yn darparu cymorth arbenigol ac argymhellion sydd wedi galluogi cwmnïau a busnesau i fabwysiadu technolegau digidol clyfar i wella’r defnydd o ynni ac effeithlonrwydd ynni, yn ogystal â’r eitemau cyfalaf mwy megis Paneli Solar, Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer a storfeydd batri.
Gyda chwyddiant a chynnydd mewn costau byw yn effeithio ar gynifer yng Ngogledd Cymru, mae’r prosiect hefyd wedi cefnogi bron i 1000 o weithwyr sefydliadau rhanbarthol i adolygu eu defnydd eu hunain o Ynni, drwy gynhyrchu canllaw Effeithlonrwydd Ynni sy’n helpu pobl i gymryd camau syml, boed hynny gartref neu yn y gweithle, i arbed ynni a chostau.
Yn dilyn cefnogaeth sylweddol gan fusnesau a rhanddeiliaid, mae’r tîm prosiect yn gweithio gyda’r rownd nesaf o gwmnïau gan ragweld ehangu’r prosiect drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig gwerth £126m sydd gan awdurdodau lleol yn y rhanbarth.
Dywedodd Paul Bevan, Cyfarwyddwr Gweithredol yn Busnes@LlandrilloMenai: “Rydym yn gyffrous iawn i weld yr effaith mae’r Academi wedi’i chael ar fusnesau, rydym wedi gallu helpu cymaint o fusnesau yng Ngogledd Cymru i dorri eu carbon ac i gynyddu eu digidol. Ein huchelgais yw i ddatblygu’r prosiect ymhellach ac i gefnogi cannoedd yn fwy o gwmnïau dros y ddwy flynedd nesaf ar draws Gogledd Cymru gyfan. Mae wedi bod yn anhygoel clywed faint o effaith a newidiadau gwirioneddol sydd eisioes wedi digwydd mewn ymateb i’r ‘Mapiau Ffyrdd’ rydym wedi eu cynhyrchu gyda’n partneriaid arbenigol.”
Arweinir yr Academi Ddigidol Werdd gan Busnes@LlandrilloMenai ac yn ystod 2022 ariannwyd y prosiect arloesol hwn gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig i weithio gyda busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, gofal cymdeithasol, diwydiannau creadigol, a gweithgynhyrchu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.
I ddarganfod sut gall eich busnes chi elwa o brosiect yr Academi Ddigidol Werdd, ewch i www.gllm.ac.uk/academi-ddigidol-werdd