Diwrnodau hyfforddi arweinwyr rygbi'r dyfodol ar gampysau'r Grŵp
Yn ddiweddar, trefnwyd digwyddiadau i fyfyrwyr Blwyddyn 10 yng Ngholeg Menai a Choleg Llandrillo i wrando ar hanes nifer o ferched ysbrydoledig ym maes rygbi, fel rhan o ymrwymiad y Grŵp i ddatblygu rygbi merched
Cynhaliodd Grŵp Llandrillo Menai ddau 'Diwrnod Arweinyddiaeth' i fyfyrwyr Blwyddyn 10 fel rhan o 'Wythnos Merched mewn Rygbi', Undeb Rygbi Cymru (URC).
Yn y cynadleddau cyntaf o'u bath yng Nghymru, gwahoddwyd myfyrwyr o ysgolion lleol i Goleg Menai a Choleg Llandrillo i glywed gan siaradwyr gwadd ysbrydoledig o fewn byd rygbi merched.
Roedd cyfle hefyd i'r myfyrwyr gymryd rhan mewn sesiynau 'Dyfarniad Arweinwyr Rygbi URC', yn datblygu’r sgiliau i hyfforddi rygbi digyswllt a chychwyn ar eu taith i ddod yn arweinwyr yn y gamp.
Trefnwyd y digwyddiadau gan Undeb Rygbi Cymru a’r Grŵp, fel rhan o athroniaeth URC ‘O’r ystafell newid i ystafell y bwrdd’.
Y siaradwyr gwadd ar gampws Coleg Menai yn Llangefni oedd:
- Jenny Davies, a greodd hanes eleni pan ddaeth yn gyn-chwaraewr cyntaf Cymru i ddyfarnu gêm ryngwladol
- Eloise Kirby, ymchwilydd PhD mewn Ffisioleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor, lle mae hi hefyd yn gapten tîm rygbi'r merched
Yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, y siaradwyr gwadd oedd:
- Dr Seren Evans, cydymaith ymchwil a darlithydd gwyddor chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor, a ffisiotherapydd gyda RGC ac academi merched Grŵp Llandrillo Menai
- Lucy Brown, hyfforddwr cynorthwyol merched dan 18 Cymru ac academi rygbi merched Grŵp Llandrillo Menai, ac arweinydd Canolfan Datblygu Chwaraewyr URC ar gyfer gogledd Cymru
Enillodd Jenny Davies 74 cap dros Gymru a chwaraeon yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2010 a sawl twrnamaint Chwe Gwlad. Jenny ydy cydlynydd cwricwlwm chwaraeon Coleg Menai ac arweinydd rhaglen Lefel 2 Chwaraeon.
Ar ôl cadw ei hesgidiau chwarae, symudodd i faes hyfforddi a sefydlu tîm merched dan 18 oed RGC, cyn newid yn ddiweddarach i ddyfarnu.
“Mae mwy i rygbi na dim ond chwarae,” meddai Jenny. “Os bydd un drws yn cau, bydd un arall yn agor i chi.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig er mwyn helpu’r merched i sylweddoli y gallan nhw gyflawni’r hyn maen nhw eisiau ei wneud os ydyn nhw’n rhoi eu meddwl arno.
“Dw i’n brawf o hynny – wnes i ddim dechrau chwarae tan oeddwn i’n 18, ac es ymlaen i chwarae dros Gymru ac rydw i bellach yn ddyfarnwr gemau rygbi rhyngwladol. Dw i wedi datblygu fel person diolch i'r cyfleoedd dw i wedi'u cael a'r sgiliau dw i wedi'u dysgu wrth chwarae rygbi, hyfforddi, a dyfarnu.
"Nid camp i ddynion yn unig ydy hi bellach. Dw i ac eraill yn ceisio datblygu llwybrau i'w gwneud yn haws ac yn fwy hygyrch, fel nad oes rhaid i'r genhedlaeth nesaf o ferched deimlo'n ofnus.
"Dw i'n dymuno pob llwyddiant i’r merched, ac yn gobeithio y bydd y gêm yn rhoi sgiliau iddynt a fydd yn eu helpu i gael y swyddi a’r cyfleoedd y maent yn dyheu amdanynt.”
Dechreuodd Lucy Brown chwarae pêl-droed, ond newidiodd i rygbi yn 21 oed ac aeth ymlaen i hyfforddi tîm dan 18 yr Alban. Treuliodd gyfnod hefyd yn hyfforddi ym Mrasil cyn ei rôl bresennol gydag URC.
Dywedodd Lucy: “Siaradais gyda’r myfyrwyr am y ffaith nad oes rhaid i chi chwarae ar y lefel uchaf i fod yn arweinydd ym maes chwaraeon – mae yna ffyrdd eraill y gallwch chi fod yn arweinydd.
"Dechreuais fel chwaraewr gydag uchelgais i chwarae ar y lefel uchaf. Yn anffodus ches i ddim gwneud hynny oherwydd anaf, ond mi ges i deithio'r byd trwy hyfforddi.
"Mae’n bosib y bydd eich taith chwaraeon yn eich arwain at chwarae i Gymru, neu efallai na fydd o, ac os na fydd, mi allai arwain at rywbeth arall, fel bod yn hyfforddwr, yn ddyfarnwr, neu’n ffisiotherapydd. Neu gall olygu bod yn llais i fenywod yn eich camp - mae bod yn yr ystafell yn gallu gwneud gwahaniaeth.”
Disgrifiodd Eloise Kirby ddyddiau Arweinyddiaeth URC fel “cyfle gwych i’r merched”. Dywedodd wrth y myfyrwyr nad oedd ei thaith i fod yn ymchwilydd PhD yn un llinol, gan ei bod wedi gweithio am rai blynyddoedd cyn mynd i'r brifysgol, cyn i Covid newid rhai o’i chynlluniau.
"Un o'r prif bethau hoffwn i'r merched gofio ydy i beidio â phoeni os nad ydyn nhw’n gwybod yn union beth maen nhw eisiau ei wneud,” meddai Eloise. "Mi oedd hon yn neges oedd yn taro deuddeg, dw i'n gwybod bod llawer o bwysau ar fyfyrwyr sy’n dewis eu llwybrau ar ôl gadael yr ysgol/coleg.
"Un neges arall oedd cymryd mantais o bob cyfle – roedd sesiwn URC a Grŵp Llandrillo Menai yn enghraifft wych o un.”
Ychwanegodd: “Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi sgiliau bywyd go iawn i fyfyrwyr. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n mynd ymlaen i ddefnyddio’r rhain mewn cyd-destun arweinyddiaeth rygbi, maen nhw’n sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn fuddiol mewn llawer o sefyllfaoedd grŵp fel cyflogaeth, addysg bellach, chwaraeon, ac ati.”
Siaradodd Dr Seren Evans am sut y gall rygbi chwarae rhan enfawr nid yn unig yn natblygiad chwaraewyr, ond hefyd mewn datblygiad personol a phroffesiynol hefyd.
Bu'n rhaid iddi roi’r gorau i chwarae rygbi yn ifanc oherwydd anaf, ond astudiodd radd gwyddor chwaraeon cyn ymgymryd â PhD yn ymchwilio i ragfynegwyr anafiadau rygbi’r undeb.
Dywedodd Seren: “Mae hyn wedi arwain at gyfleoedd di-ri, gan gynnwys bod yn gydymaith ymchwil ar brosiect World Rygbi sy’n ymchwilio i anafiadau mewn rygbi ieuenctid merched – ac mae hynny i gyd wedi deillio o ddyddiau fel hyn a wnaeth fy ysbrydoli i fod yn rhan o’r gamp.
"Fy mhrif gyngor i i rai sydd eisiau gweithio ym myd rygbi ydy, dechreuwch arni yn fuan, gwirfoddolwch mewn gwahanol rolau ac mi wnewch chi ddod o hyd i'ch maes. A pheidiwch ag anghofio, mae cael eich gwrthod yn arwain at ailgyfeirio. Bydd rygbi yn rhoi mantais i chi. Rydych yn datblygu gwytnwch a dyfalbarhad drwy'r gêm, a gyda hwnnw, gallwch chi gyflawni unrhyw beth.”
Trefnwyd y digwyddiadau gan Ellie George, swyddog rygbi merched a merched URC ar gyfer gogledd Cymru, ac Ollie Coles, Grŵp Llandrillo Menai a swyddog ymgysylltu rygbi URC.
Dywedodd Ellie: “Mae Diwrnodau Arweinyddiaeth Merched, fel rhan o 'Wythnos Merched mewn Rygbi' yn gyfle gwych i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr benywaidd mewn chwaraeon, o'r ystafell newid i ystafell y bwrdd.
"Roedd y merched ysgol a ddaeth i'r diwrnodau yn ardderchog, ac maen nhw wedi cwblhau eu cymwysterau 'arweinydd rygbi' yn ogystal â chael y cyfle i glywed straeon rygbi ein siaradwyr gwadd ysbrydoledig. Roedd yn ddigwyddiad grymusol a chyffrous, a dw i'n siŵr y byddwn yn gweld y merched yn arwain yn y diwydiant chwaraeon rhyw ddydd!”
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i dyfu gêm y merched yn y rhanbarth, drwy gynnig rhagor o gyfleoedd i chwarae ac i ddatblygu fel arweinwyr o fewn y gamp.
I ddysgu rhagor am Academi Rygbi Coleg Llandrillo, cliciwch yma. I ddysgu rhagor am raglen Hybu Rygbi URC, Grŵp Llandrillo Menai, cysylltwch ag Ollie Coles o.coles@gllm.ac.uk