Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn ennill achrediad Arweinwyr mewn Amrywiaeth

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi llwyddo i ennill gwobr Arweinwyr mewn Amrywiaeth.

Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad y Grŵp i annog cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Daw'r achrediad mawreddog gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth. Mae’n gwobrwyo gwaith y Grŵp i sicrhau bod ei golegau mor gynhwysol a chefnogol â phosibl i staff a myfyrwyr.

Meddai Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, “Rydym yn hynod falch o gael ein cydnabod fel gweithle cynhwysol, ac rydym yn ymfalchïo mewn sicrhau bod ein cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.

“Mae’r wobr Arweinwyr mewn Amrywiaeth yn brawf o’r gwaith caled rydym i gyd yn ei wneud yma yng Ngrŵp Llandrillo Menai.”

Dywedodd Solat Chaudhry, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth, fod Grŵp Llandrillo Menai yn un o ddim ond 80 o sefydliadau ledled y DU i ennill yr achrediad y mae galw mawr amdano.

Dywedodd: “Llongyfarchiadau i’r holl dimau ac arweinwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai a gyfrannodd at gwblhau Arweinwyr mewn Amrywiaeth yn llwyddiannus – nhw sy’n arwain y blaen.

“Dangosodd y coleg dystiolaeth glir o’i brosesau a llwyddodd i ennill calonnau a meddyliau’r timau a newid ymddygiad. Mae hyn yn cyfleu hanfod ein hachrediad ac mae cyflawniad y coleg yn ysbrydoledig.

“Mae Grŵp Llandrillo Menai yn un o ddim ond 80 o sefydliadau i ennill yr achrediad mawreddog.”

Mae'r wobr yn cydnabod y camau a gymerwyd gan y Grŵp wrth weithredu gwerthoedd FREDIE (tegwch, parch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymgysylltiad).

Meddai Mr Chaudhry: “Roedd y gwaith a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf i ennill yr achrediad yn cynnwys cwblhau arolwg o agweddau'r holl staff a rheolwyr yn ogystal â rhai o'i gyflenwyr.

“Rydym i gyd yn gwybod nad yw FREDIE yn ymwneud â gwneud y peth iawn yn unig - mae bellach yn bwnc sy'n denu a dal diddordeb myfyrwyr a staff y coleg.

“Mae sefydliadau sy'n ennill y wobr hon yn cydnabod bod dadl rymus i'w wneud dros werthfawrogi FREDIE yn y gweithle. Mae gweithredu mewn amgylchedd heriol yn golygu bod sefydliadau fel Grŵp Llandrillo Menai yn llwyddo drwy wneud y gorau o’u holl sgiliau a thalentau, waeth beth fo’u cefndir.”

Ychwanegodd: "Drwy ymrwymo’n llwyr i'r rhaglen Arweinwyr mewn Amrywiaeth, mae’r Grŵp wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol a phendant i FREDIE, ac i welliant parhaus o fewn y maes hwn".

“Rydym yn hyderus y bydd staff a myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn parhau i weithio ar wella ac addasu ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y blynyddoedd i ddod.”

Amlygodd adroddiad y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth y camau cadarnhaol a wnaed gan y Grŵp, gan gynnwys:

  • Sefydlu grŵp cefnogi staff LHDTC+
  • Cynnal digwyddiad Sefydlu Arweinyddiaeth Ddu, a arweiniodd at gydberthynas â’r Grŵp Arweinyddiaeth Du a datblygu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth 10 Pwynt
  • Hyfforddi gweithwyr mewn Ymwybyddiaeth o Hiliaeth, Ymwybyddiaeth Drawsryweddol, Cefnogi Dysgwyr LHDT+, ac Ymwybyddiaeth o'r Menopos
  • Datblygu Canolfan Lles Staff a grŵp llywio
  • Addasiadau ffisegol i wneud y coleg yn hygyrch i bawb, gan gynnwys toiledau hygyrch, toiled dibyniaeth uchel a drysau mynediad awtomataidd.
  • Achrediad Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, gyda chanfyddiadau’r grŵp ffocws anabledd yn cael eu cyflwyno i Banel Cydraddoldeb y Grŵp
  • Cynnydd tuag at ennill statws Sefydliad sy'n Ymwybodol o Awtistiaeth

Nododd yr adroddiad hefyd fod disgwyl i’r Grŵp ymddangos eto ar restr flynyddol y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth o’r 100 cyflogwr mwyaf cynhwysol, a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date