Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Adroddiad Diweddar gan Estyn yn Canu Clodydd Grŵp Llandrillo Menai

Yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn, canmolwyd sawl agwedd ar ddarpariaeth Addysg Bellach Grŵp Llandrillo Menai, yn enwedig ei wasanaethau i ddysgwyr.

Yn yr adroddiad tynnodd Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, sylw at nifer o ganfyddiadau cadarnhaol oedd yn cynnwys saith enghraifft o arferion da ac arloesi ar ei gampysau.

Canmolodd yr adroddiad y Grŵp am ansawdd y profiadau dysgu ac addysgu yr oedd yn eu cynnig, gan ddweud “bod gan yr athrawon wybodaeth dda a phrofiad yn eu pynciau, eu bod yn gyfeillgar a hawdd siarad â nhw, a'u bod yn rhoi cefnogaeth dda i'w dysgwyr”.

Nododd yr Arolygwyr hefyd: “bod dysgu ac addysgu dwyieithog yn nodwedd gref ac amlwg o'r coleg”.⁠ Mae'r athrawon yn cynllunio ac yn cyflwyno gwersi dwyieithog yn fedrus ac yn “batrwm da o sut i ddefnyddio'r ddwy iaith... mae iaith y dysgu'n symud yn rhwydd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg”.

Ychwanegodd yr adroddiad, “ar bob campws ceir diwylliant croesawgar, agored a pharchus lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, a'r staff a'r dysgwyr yn meithrin perthynas gadarnhaol â'i gilydd”.

Canmolodd Estyn hefyd y cymorth sydd ar gael i ddisgyblion ysgol sy’n trosglwyddo i’r coleg, gan gydnabod bod y coleg wedi “cryfhau ei berthynas â’r awdurdodau lleol a'r ysgolion yn sylweddol... o ganlyniad, mae llawer o ddysgwyr yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda yn ystod y broses bontio hon”.

Aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud bod “y dysgwyr yn elwa ar fynediad at ystod eang o wasanaethau cymorth sy’n addas iawn i’w hanghenion yn ystod eu cyfnod yn y coleg, gan gynnwys cwnsela, cymorth llesiant, ymarferydd iechyd meddwl a nyrs. Maent yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi sy'n cynnwys clybiau amser cinio, sesiynau lles actif, cystadlaethau sgiliau, tripiau, ymweliadau a siaradwyr gwadd.”

Ar ben hynny, cafodd Uwch Arweinwyr a Chorff Llywodraethu Grŵp Llandrillo Menai eu cydnabod am lwyddo i “sefydlu a chynnal y pwyslais ar ansawdd profiad y dysgwyr ac ar anghenion y cymunedau y mae’r Grŵp yn eu gwasanaethu.”

Esboniodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,

“Rydym wrth ein bodd gyda chanfyddiadau’r adroddiad arolygu, sy’n cadarnhau ein hymrwymiad diwyro i ddarparu addysg ragorol a chefnogaeth gadarn i’n dysgwyr.

“Trwy roi cydnabyddiaeth i'n haddysg ddwyieithog ragorol, ein datblygiad proffesiynol, ein harferion cynaliadwy, a'n gwasanaethau cynhwysfawr i fyfyrwyr mae Estyn yn tanlinellu'r rôl flaenllaw sydd gennym mewn addysg bellach.

“Rydym yn ymroddedig i gynnig addysg o ansawdd uchel a meithrin amgylchedd lle gall dysgwyr ffynnu, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y cryfderau hyn er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl wrth i ni ymdrechu i gyflawni ein cenhadaeth o wella dyfodol pobl.”

Mae’r Adroddiad llawn ar y Ddarpariaeth Addysg Bellach yng Ngrŵp Llandrillo Menai, a baratowyd gan Estyn, i’w weld yma.