Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal digwyddiadau agored ym mis Tachwedd

Mae digwyddiadau agored yn gyfle perffaith i ddysgu rhagor am yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal digwyddiadau agored ym mhob un o'i gampysau yn ystod mis Tachwedd.

Mae Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd, o gyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau a chyrsiau Lefel A i raddau a chymwysterau proffesiynol.

Mae digwyddiadau agored yn gyfle perffaith i archwilio campysau’r Grŵp, edrych ar y cyfleusterau rhagorol, a chwrdd â’r tiwtoriaid.

Gallwch hefyd ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych, darganfod sut beth yw astudio yn y Coleg, a chael cyngor ar sut i sicrhau eich lle ar gyfer mis Medi 2025.

Mae croeso i ddysgwyr a rhieni ddod i ddigwyddiadau’r mis hwn, sydd fel a ganlyn:

Coleg Meirion-Dwyfor

Dydd Llun 11 Tachwedd: Campws Pwllheli, 5pm-7pm

Dydd Llun 18 Tachwedd: Campws Dolgellau, 5pm-7pm (gan gynnwys Digwyddiad i Rannu Gwybodaeth am Addysg Uwch)

Coleg Llandrillo

Dydd Llun 18 Tachwedd: Campws Llandrillo-yn-Rhos, 5:30pm-7pm (gan gynnwys Digwyddiad i Rannu Gwybodaeth am Addysg Uwch)

Dydd Mawrth 19 Tachwedd: Campws y Rhyl, 5:30pm-7pm

Coleg Menai

Dydd Mercher 20 Tachwedd: Campws Llangefni, 4:30pm-6:30pm

Dydd Iau 21 Tachwedd: Tŷ Menai (campws newydd Bangor), 4:30pm-6:30pm

Dydd Iau 21 Tachwedd: Parc Menai (Celf a Dylunio), 4:30pm-6:30pm (gan gynnwys Digwyddiad i Rannu Gwybodaeth am Addysg Uwch)

⁠Campws Glynllifon

Dydd Sadwrn 23 Tachwedd: ⁠Campws Glynllifon, 9am-1pm

Dywedodd Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo: “Grŵp Llandrillo Menai sy’n cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau addysg bellach llawn amser a rhan-amser, prentisiaethau a chyrsiau lefel gradd a phrifysgol yng Ngogledd Cymru. Mae gennym gyrsiau newydd yn dechrau o fis Ionawr 2025 ymlaen.

“Yn ein digwyddiadau agored byddwch yn dysgu rhagor am ein holl gyrsiau, sy’n cael eu datblygu mewn partneriaeth â chyflogwyr er mwyn rhoi i chi y sgiliau a’r wybodaeth y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt yn y gweithle modern.

"Bydd ein tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr hefyd wrth law gyda gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i chi fel myfyriwr yn y coleg, gan gynnwys cymorth ariannol a lles, cludiant a chwnsela."

Meddai Dr Siôn Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor: “Mae’r digwyddiadau agored ledled ein campysau yn gyfle gwych i chi weld ein cyfleusterau penigamp, cwrdd â’r staff, a dysgu rhagor am yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael.

“Efallai bod mis Medi 2025 yn teimlo’n bell i ffwrdd, ond mae gwybod beth yw eich opsiynau a chael cynllun ar gyfer eich dyfodol yn bwysig. Rydyn ni'n siŵr bod gennym ni rywbeth i'w gynnig i bawb, felly dewch draw i'n gweld ni."

I archebu eich lle yn unrhyw un o’r digwyddiadau agored, cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date