Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn lansio digwyddiadau agored mis Tachwedd

Mae Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd – o gyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau a chyrsiau Lefel A i raddau a chymwysterau proffesiynol

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal digwyddiadau agored ym mhob un o'i gampysau yn ystod mis Tachwedd.

Mae Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd – o gyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau a chyrsiau Lefel A i raddau a chymwysterau proffesiynol.

I unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio yn y coleg, mae digwyddiadau agored yn gyfle perffaith i archwilio campysau’r Grŵp, edrych ar y cyfleusterau rhagorol, cyfarfod â’r tiwtoriaid a chael gwybod am y cyrsiau sydd ar gael.

Gallwch hefyd ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych, darganfod sut beth yw astudio yn y coleg, a chael cyngor ar sut i sicrhau eich lle ar gyfer mis Medi 2024.

⁠Dywedodd Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo: “Grŵp Llandrillo Menai sy’n cynnig y dewis ehangaf o brentisiaethau llawn amser, rhan-amser, a chyrsiau lefel gradd a phrifysgol yng Ngogledd Cymru.

“Yn ein digwyddiadau agored byddwch yn gallu darganfod rhagor am ein holl gyrsiau, sy’n cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr er mwyn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth y mae cwmnïau’n gofyn amdanynt yn y gweithle modern.

"Bydd ein tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr hefyd wrth law gyda gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i chi fel myfyriwr yn y coleg - gan gynnwys cymorth ariannol, cludiant a chwnsela."

Meddai Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor: “Mae’r digwyddiadau agored sydd wedi’u trefnu ledled ein campysau yn gyfle gwych i chi weld ein cyfleusterau penigamp a chwrdd â’r staff i ddarganfod mwy am y cyrsiau sydd ar gael.

“Er bod mis Medi nesaf yn teimlo’n bell i ffwrdd, mae dechrau cynllunio’ch dyfodol yn gam pwysig. Rydyn ni'n siŵr bod gennym ni rywbeth i'w gynnig i bawb, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi."

Mae’r rhestr lawn o ddigwyddiadau agored fel a ganlyn:

Coleg Meirion-Dwyfor

Campws Pwllheli - Dydd Iau 9 Tachwedd, 5-7pm

Campws Hafan Pwllheli (Peirianneg) - Dydd Iau 9 Tachwedd, 5-7pm

Campws Dolgellau - Dydd Llun 13 Tachwedd, 5-7pm

Campws CaMDA Dolgellau (Adeiladu a Pheirianneg) - Dydd Llun 13 Tachwedd 5-7pm

Coleg Llandrillo

Campws Abergele - Dydd Llun 13 Tachwedd, 5.30pm-7pm

Campws Llandrillo-yn-Rhos - Dydd Llun 13 Tachwedd, 5.30pm-7pm

Campws y Rhyl - Dydd Mawrth 14 Tachwedd, 5.30-7pm

Coleg Menai

Neuadd Friars, Bangor - Dydd Mawrth 14 Tachwedd, 4.30-6.30pm

Campws Llangefni - Dydd Mercher, 15 Tachwedd, 4.30-6.30pm

Parc Menai (Celf a Dylunio) - Dydd Iau 16 Tachwedd 4.30-6.30pm

Coleg Glynllifon

Coleg Glynllifon - Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 9am-1pm

I archebu eich lle yn unrhyw un o’r digwyddiadau agored, cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date