Grŵp Llandrillo Menai'n cyhoeddi ei adroddiad Safonau Iaith Gymraeg blynyddol
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi ein adroddiad blynyddol ar gydymffurfiad â'r Safonau Iaith Gymraeg 2020-21 heddiw.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Grŵp Llandrillo Menai (y Grŵp) i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â’r Gymraeg. Mae safon yn egluro sut mae disgwyl i sefydliadau ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Yn unol â gofynion y safonau, dyma gyhoeddi adroddiad blynyddol 2020/21 y Grŵp ar ei weithrediad o’r Safonau Iaith Gymraeg. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r modd y bu i’r Grŵp gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn ystod y cyfnod 1 Awst 2020 hyd at 31 Gorffennaf 2021.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog i ddysgwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd. Yn benodol, mae'r Grŵp yn cydnabod pwysigrwydd datblygiadau uchelgeisiol a fydd yn meithrin amgylchedd a fydd yn hyrwyddo defnydd a thwf yr iaith Gymraeg ymhlith dysgwyr, staff a rhanddeiliaid allweddol.
Cyhoeddwyd Polisi Iaith Gymraeg newydd y Grŵp yng Nghorffennaf 2021 sy’n cwmpasu ein bwriad i ddarparu gwasanaethau yn ddwyieithog i ddysgwyr a’r cyhoedd ac i ehangu’r ystod o ddarpariaeth addysg uwch, addysg bellach ac yn y gweithle sydd ar gael i ddysgwyr. Mae’r polisi hefyd yn amlinellu bwriad y Grŵp i dyfu ein gweithlu dwyieithog drwy’r broses recriwtio a thrwy gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i staff presennol y Grŵp.
Yn ystod cyfnod yr adroddiad mae Panel Iaith y Grŵp wedi arwain ar adolygiad o Bolisi Recriwtio’r Grŵp yn edrych yn benodol ar ofynnion sgiliau iaith Gymraeg pob swydd newydd er mwyn cryfhau ymroddiad y Grŵp i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Fel rhan o’r gwaith hyn, mae’r Panel iaith hefyd wedi goruchwylio datblygiad o raglen dysgu Cymraeg dwys newydd i staff fydd yn cefnogi gweithredu’r Polisi Recriwtio. Mae’r broses hon wedi cynnwys ymgynghoriad manwl â staff, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau bod y polisi a’r rhaglen yn ymarferol ac yn uchegeisiol. Gobeithir y bydd Polisi Recriwtio newydd a’r rhaglen dysgu Cymraeg dwys i staff yn weithredol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
The Welsh Language (Wales) Measure 2011 places a duty on Grŵp Llandrillo Menai (the Grŵp) to comply with the Welsh language standards. A standard explains how an organisation should use Welsh in different situations.
In accordance with the requirements of the standards, this is the publication of the Grŵp's 2020/21 annual report on its implementation of the Welsh Language Standards. The report outlines how the Grŵp complied with the Welsh Language Standards during the period 1 August 2020 to 31 July 2021.
We recognise the importance of providing a fully bilingual service to learners, staff and members of the public. In particular, the Grŵp recognises the importance of ambitious developments that will foster an environment that promotes the use and growth of the Welsh language among learners, staff and key stakeholders.
The Grŵp's new Welsh Language Policy was published in July 2021 which outlines our intention to provide services bilingually to learners and the public and to extend the range of higher education, further education and work-based provision available to learners. The policy also outlines the Grŵp's intention to grow our bilingual workforce through the recruitment process and by offering training and support to existing Grŵp staff.
During the reporting period the Grŵp's Panel Iaith (Language Panel) has led a review of the Grŵp's Recruitment Policy looking specifically at the Welsh language skills requirements of all new posts in order to strengthen the Grŵp's commitment to developing a bilingual workforce. As part of this work, the Panel Iaith has also overseen the development of a new intensive Welsh language learning programme for staff which will support the implementation of the Recruitment Policy. This process has involved detailed consultation with staff, learners and other stakeholders to ensure that the policy and programme are workable and ambitious. It is hoped that a new Recruitment Policy and intensive Welsh programme for staff will be implemented during the coming year.