Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn ymrwymo i'r Siarter Afiechyd Marwol

Drwy lofnodi'r siarter, mae'r Grŵp yn ymrwymo’n llawn i gefnogi gweithwyr sydd wedi cael diagnosis o salwch terfynol

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i Siarter Afiechyd Marwol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC).

Llofnododd y Prif Swyddog Gweithredol Dafydd Evans y siarter - mewn partneriaeth â'i Hundebau Llafur cydnabyddedig - mewn seremoni a hwyluswyd gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC) ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, Coleg Llandrillo.

Roedd Kevin Williams, swyddog datblygu trefniadol y TUC, yno hefyd i lofnodi'r siarter yn y seremoni a gynhaliwyd yn Llandrillo-yn-Rhos, yn ogystal â chynrychiolwyr o undebau UCAC, Unsain, UCU a’r NEU.

Drwy lofnodi'r siarter, mae'r Grŵp yn ymrwymo i gefnogi unrhyw un o'i weithwyr sy'n cael diagnosis terfynol.

Dywedodd Dafydd Evans: “Dros y blynyddoedd, rydym yn gobeithio bod ein staff bob amser wedi teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda wrth ddelio â diagnosis salwch difrifol. Felly, roedd ymuno â’r siarter Afiechyd Marwol yn gam nesaf amlwg i ni fel cyflogwr.

Mae wedi bod yn bleser gweithio ar hyn gyda’n hundebau lleol o dan ein menter Partneriaeth Gymdeithasol Leol.

Ni ddylai unrhyw un sy’n wynebu diagnosis salwch terfynol hefyd orfod dioddef y straen o boeni am eu hawliau cyflogaeth."

Mae’r TUC yn ymgyrchu i gyflogwyr ledled y DU lofnodi’r siarter i ddiogelu hawliau gweithwyr sydd wedi cael diagnosis o salwch terfynol.

Dywedodd Kevin Williams, swyddog datblygu trefniadol y TUC: “Mae’r siarter Afiechyd Marwol yn rhywbeth y mae nifer cynyddol o sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn ei fabwysiadu.

Mae’n amddiffyn teuluoedd a’r rhai sy’n cael eu gadael ar ôl mewn achos o ddiagnosis sydyn o salwch terfynol, ac rydw i'n meddwl ei fod yn rhywbeth y dylai pawb ymrwymo iddo.”

Drwy lofnodi'r siarter, mae Grŵp Llandrillo Menai yn datgan:

  • l Mae salwch terfynol yn gofyn am gefnogaeth a dealltwriaeth, ac nid straen a phryder ychwanegol y gellir eu hosgoi.
  • l Bydd gweithwyr sy’n derfynol wael yn gwybod y cânt eu cefnogi yn dilyn eu diagnosis, ac mae’r Grŵp yn cydnabod y gall gwaith diogel a rhesymol helpu i gynnal urddas, cynnig gwrthdyniad gwerthfawr a gall fod yn therapiwtig ynddo’i hun.
  • l Bydd y Grŵp yn rhoi sicrwydd gwaith i weithwyr a'r hawl i ddewis y ffordd orau o weithredu iddynt hwy eu hunain a'u teuluoedd.
  • l Mae cefnogi siarter Afiechyd Marwol y TUC yn golygu y bydd gweithwyr â salwch terfynol yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol a’u buddion ‘marw yn y swydd’ yn cael eu diogelu ar gyfer yr anwyliaid y maent yn eu gadael ar ôl.

I gael rhagor o wybodaeth am y Siarter Afiechyd Marwol, ewch i www.dyingtowork.co.uk/