Gwobr Llais y Dysgwr i Grŵp Llandrillo Menai
Gwobrwywyd y Grŵp yng nghynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM) am eu hymroddiad i hyrwyddo llais y dysgwyr
Enillodd Grŵp Llandrillo Menai wobr 'Llais y Dysgwr' yng nghynhadledd flynyddol UCM.
Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad y Grŵp i annog a chynnwys llais y dysgwyr yn eu gwaith, yn eu cynhadledd flynyddol i Ddysgwyr a drwy ddatblygu cynlluniau cefnogi mewn cydweithrediad â'r myfyrwyr.
Cyflwynwyd y wobr i lywyddion Undeb Myfyrwyr y Grŵp, Kyra Wilkinson, Claire Bailey, Jason Scott, Alaw Jones a Cara Haf Parry yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ystod y gynhadledd dau ddiwrnod o hyd, cyhoeddwyd mai Deio Owen, cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, fydd Llywydd nesaf UCM Cymru.
Roedd y gynhadledd yn gyfle i ddysgwyr a staff drafod polisïau, rhannu syniadau a rhwydweithio gyda cholegau a phrifysgolion eraill.
Ymhlith y materion a drafodwyd roedd mynediad at ofal iechyd ar y campws, democratiaeth UCM, newid enw posibl o UCM Wales i UCM Cymru, a'r mudiad annibyniaeth i Gymru.
Wrth drafod y gynhadledd, dywedodd Jason Scott, Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Menai: “Roedd dod i ddeall yn llawn sut mae’r UCM yn gweithio yn brofiad gwerthfawr, ac roedd clywed am y pethau mae undebau eraill yn eu gwneud i helpu eu myfyrwyr yn gyfle i feddwl am syniadau newydd a gwell ffyrdd i fynd ati i wella bywydau ein cyd-ddisgyblion.
Roedd hi'n braf gwybod y gallem fynegi ein barn yn glir ar y pynciau a drafodwyd, gan wybod bod ein cyfraniad yn cael ei ystyried, a gallem wneud gwahaniaeth.
“Roedd pynciau cynhadledd UCM Cymru eleni yn hynod amrywiol, yn amrywio o'r posibilrwydd o weld annibyniaeth i Gymru, i weithredu cyfleusterau gofal iechyd ar gampysau colegau a phrifysgolion. Roedd y drafodaeth yn ystod y gynhadledd yn ddiddorol iawn gan fod digon o wahanol safbwyntiau a syniadau i'w clywed.”
Ychwanegodd Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr: “Roedd yn gyfle gwych i lywyddion Undeb y Myfyrwyr drafod pynciau pwysig a chael syniadau newydd am ffyrdd o wella profiad ein dysgwyr yn ystod eu cyfnod gyda ni yma yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Roedd derbyn gwobr 'Llais y Dysgwr' yn wych, dyma ein prif ffocws fel Undeb Myfyrwyr, oherwydd mae'n gwbl hanfodol bod llais dysgwyr yn cael ei glywed. Llongyfarchiadau i'n holl lywyddion Undeb y Myfyrwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad i sicrhau bod pob un o ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn teimlo bod gwerth i'w llais a'u sylwadau.”
Dywedodd Phil Jones, Pennaeth Gwasanaethau i Ddysgwyr a Marchnata: “Llongyfarchiadau i Undeb y Myfyrwyr ar ennill Gwobr Llais y Dysgwr. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn tanlinellu ymrwymiad Grŵp Llandrillo Menai i werthfawrogi barn ac adborth ein dysgwyr, egwyddor yr ydym yn ei hyrwyddo'n frwd trwy amrywiol sianeli.
Roedd y gynhadledd ddiweddar i ddysgwyr a gynhaliwyd gan Grŵp Llandrillo Menai ac Undeb y Myfyrwyr yn enghraifft o’n hymroddiad i feithrin amgylchedd lle mae lleisiau dysgwyr yn cael eu clywed a’u parchu. Da iawn i Undeb Myfyrwyr y Grŵp a staff Grŵp Llandrillo Menai sydd wedi cefnogi’r broses hon drwy gydol y flwyddyn.”
I gael rhagor o wybodaeth am Undeb y Myfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.