Grŵp Llandrillo Menai yn cyhoeddi partneriaeth ag elusennau Mind lleol yn 2024/25
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Elusennau, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi y bydd yr arian a godir ar draws ei gampysau eleni yn cefnogi elusennau iechyd meddwl annibynnol lleol
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch o gyhoeddi mai'r elusennau Mind lleol yw ei Elusen y Flwyddyn yn 2024/25.
Mae Mind Conwy yn elusen iechyd meddwl annibynnol sy’n gweithio ar draws siroedd Conwy, Ynys Môn a Gwynedd. Mae Mind Conwy yn gweithio'n agos gyda Mind Dyffryn Clwyd, sy'n cefnogi pobl yn Sir Ddinbych.
Bydd yr arian a godir o weithgareddau elusennol ar draws pob un o gampysau’r Grŵp eleni yn cefnogi'r elusen Mind lleol. Bydd yr elusen wrth law i helpu 21,000 o ddysgwyr y Grŵp hefyd, gyda'r cymorth ar gynigir yn cynnwys:
- Cymorth Iechyd Meddwl
- Cefnogaeth grŵp a gweithgareddau grŵp
- Cwnsela
- Hyfforddiant
Dywedodd Nikki Jones, Swyddog Codi Arian ac Ymgysylltu â’r Gymuned gyda Mind Conwy: "Mae Mind Conwy yma i gefnogi unigolion a chymunedau i gael gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl da.
Rydyn ni eisiau helpu cynifer o bobl â phosib oherwydd mae materion iechyd meddwl yn effeithio ar bob un ohonon ni. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi helpu dros 2,300 o drigolion siroedd Conwy, Ynys Môn a Gwynedd.
Bydd arian a godir ar draws campysau’r Grŵp yn helpu pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl – er enghraifft:
- Gallai £10 sicrhau galwad 'cadw mewn cysylltiad' i unigolion sy'n delio ag unigrwydd ac yn teimlo'n ynysig
- Gallai £20 ddarparu awr o gymorth un i un i berson ifanc
- Gallai £40 ddarparu sesiwn cwnsela un i un
- Gallai £125 dalu am Raglen Hunangymorth ar sail un i un am bum wythnos
- Gallai £300 gefnogi cwrs naw wythnos ‘Mae Mam yn Bwysig’ i helpu grŵp o rieni i wella eu hiechyd meddwl
- Gallai £1500 gefnogi Mind Conwy i gynnig yr ystod lawn o wasanaethau cymorth am ddiwrnod
Disgrifiodd un o ddefnyddwyr gwasanaethau Mind Conwy sut y gwnaeth cefnogaeth gan yr elusen helpu i drawsnewid eu bywyd, gan ddweud: “Ers i mi gysylltu â Mind Conwy, mae fy mywyd wedi newid yn llwyr. Mae’r amynedd a’r empathi a ddangoswyd tuag ataf wedi bod yn syfrdanol - mae cael rhywun yn gwrando arna'i, cael fy nghredu a'r teimlad o ddilysu fy mywyd a’m hunan-werth eto wedi rhoi’r awydd i mi ailadeiladu fy mywyd.”
Dywedodd Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym yn falch o fod yn cefnogi ein helusennau Mind lleol eleni, sy’n rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl.
“Eleni rydym wedi dynodi dwy wythnos yn Wythnos Elusen, sef yr wythnos sy’n dechrau ar 9 Rhagfyr a'r wythnos sy'n dechrau ar 7 Ebrill. Bydd yr wythnosau hyn yn cael eu neilltuo i godi arian i ac ymwybyddiaeth ynghylch naill ai Mind Conwy neu Mind Dyffryn Clwyd, yn dibynnu ar eich campws. Bydd rhagor o fanylion ar gael yn nes at yr amser.
Cysylltwch gyda ni ar undebymyfyrwyr@gllm.ac.uk neu studentunion@gllm.ac.uk os oes gennych chi unrhyw syniadau codi arian a/neu ymwybyddiaeth ynghylch yr elusennau gwych hyn."
Cyhoeddwyd Diwrnod Rhyngwladol Elusennau gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2012, a chaiff ei ddathlu’n flynyddol i godi ymwybyddiaeth am waith elusennol ledled y byd. I ddysgu rhagor, ewch i un.org/en/observances/charity-day
I gael rhagor o wybodaeth am Mind Conwy, ewch i www.conwymind.org.uk. I gael rhagor o wybodaeth am Mind Dyffryn Clwyd, ewch i www.vocmind.co.uk.