Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfle i Gwenllian a'i chwaer Alaw serennu dros Gymru

Bydd heno'n noson i'w chofio os daw Alaw i'r cae i chwarae ochr yn ochr â'i chwaer Gwenllian, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo

Mae hi'n debygol y byddwn ni'n gweld Gwenllian Pyrs, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo a'i chwaer Alaw yn chwarae gyda'i gilydd yn nhîm Cymru sy'n wynebu'r Alban heno.

Mae Gwenllian, sydd wedi ennill 36 cap dros Gymru, yn dechrau'r gêm yn safle'r prop ac mae Alaw sy'n chwarae fel clo ar y fainc am y tro cyntaf dros ei gwlad.

Os bydd y ddwy yn chwarae heno, dyma fydd y tro cyntaf i ddwy chwaer gael eu cynnwys yn nhîm Cymru ers 2008.

Yn ôl prif hyfforddwr y merched, Ioan Cunningham: "Mi fydd gweld Alaw yn chwarae dros Gymru gyda'i chwaer Gwenllian yn arbennig iawn i'r teulu, ac i bawb yma."

Dilynodd Gwenllian gwrs Mynediad i Addysg Uwch ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos yn 2022/23.

Enillodd ei chap cyntaf ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2017 ac erbyn 2022 roedd yn un o'r grŵp cyntaf o ferched i arwyddo cytundebau gydag Undeb Rygbi Cymru.

Mae gêm heno yng Nghaeredin (y gic gyntaf am 7pm) yn rhan o'r paratoadau ar gyfer twrnamaint rhyngwladol WXV2 a gynhelir yn Ne Affrica rhwng 27 Medi ac 13 Hydref.

Mae Dylan Alford cyn-fyfyriwr arall o Goleg Llandrillo hefyd yn datblygu ei yrfa ym maes rygbi ac wedi ymuno ag Academi Hyn Tîm y Scarlets.

Mae Dylan wedi arwyddo cytundeb deuol rhwng Rygbi Gogledd Cymru a'r Academi yn ystod ei gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Enillodd y clo 6 troedfedd 6 modfedd o daldra ei gap cyntaf dros Dîm dan 18 Cymru yn gynharach eleni yng Ngŵyl Timau dan 18 y Chwe Gwlad.

Digwyddodd hynny yn ystod ei gyfnod ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos ble enillodd dair gradd rhagoriaeth â seren ar y cwrs Ddiploma Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Roedd Dylan yn aelod o academi rygbi Coleg Llandrillo ac yn chwarae i Glwb Rygbi Bethesda cyn ymuno â thîm RGC.

I ddysgu rhagor am Academi Rygbi Coleg Llandrillo, cliciwch yma. Hoffech chi ymuno ag academi rygbi merched Grŵp Llandrillo Menai? Cysylltwch â Chydlynydd yr Academi Andrew Williams ar willia18a@gllm.ac.uk ⁠i wybod mwy

Pagination